Dyfarnu statws unigryw y Cenhedloedd Unedig i Fro Ddyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Dyfarnu statws unigryw y Cenhedloedd Unedig i Fro DdyfiMae Cyd-gadeirydd ecodyfi, Martin Ashby, wedi croesawu penderfyniad UNESCO i ail-gofrestru Dyffryn Dyfi fel aelod o rwydwaith mawreddog. Cyhoeddodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, heddiw bod Bro Ddyfi wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel unig Biosffer UNESCO Cymru. Mae'r statws unigryw yn golygu bod yr ardal yn ymuno â mannau fel Uluru yn Awstralia a Mynydd Olympus yng Ngwlad Groeg. Mae 553 o ardaloedd Biosffer UNESCO yn y byd, ond Bro Ddyfi yw'r gyntaf yng Nghymru a dim ond yr ail yn y DU gyfan. Ardal arbennig yw iawn yw Biosffer lle mae pobl yn gweithio i gydbwyso cadwraeth bioamrywiaeth â'i defnydd cynaliadwy. Cânt eu henwebu gan lywodraethau cenedlaethol. Dywedodd Ms Davidson fod y dyfarniad yn brosiect blaenllaw i Gymru: Meddai Pete Frost o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Biosffer a UK Man UNESCO: Cafodd Bro Ddyfi ei dynodi'n Biosffer am y tro cyntaf yn yr 1970au, ond bu'n rhaid i safleoedd wneud cais o dan feini prawf newydd yn yr 1990au. Mae'r penderfyniad heddiw'n golygu bod Bro Ddyfi gyfan, sy'n cynnwys Aberystwyth, Llanbrynmair, Llanymawddwy, Corris Uchaf ac Aberdyfi, yn rhan o Biosffer Dyfi newydd. Ychwanegodd Allan Wynne Jones o Bartneriaeth Biosffer Dyfi: Dywedodd Martin Ashby bod ecodyfi wedi bod yn gweithio tuag at hyn ers cryn amser ac mae'n credu bod prosiectau a gweithgareddau ecodyfi yn cyd-fynd ag amcanion y Biosffer. Cewch fwy o wybodaeth am Fiosffer Dyfi ar www.biosfferdyfi.org.uk Rhagor o wybodaeth: Nodiadau i Olygyddion: Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenedloedd Unedig yw UNESCO. Mae Biosffer yn ardal lle mae pobl yn gweithio i integreiddio cadwraeth bioamrywiaeth gyda'i ddefnydd cynaliadwy. Maent yn cael eu cydnabod oddi mewn i fframwaith Rhaglen UNESCO Dyn a'r Biosffer. Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi'n cynnwys cynrychiolwyr cymunedol, awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus. Ei swyddogaeth yw cyflwyno gwybodaeth ac ymgynghori â thrigolion lleol a busnesau ynglyn â'r manteision posibl o barhau gyda, ac ehangu statws Biosffer UNESCO'r ardal. Mae'n derbyn arian oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Yr aelodau yw: Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Powys Cyngor Gwynedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Bwrdd yr Iaith Gymraeg Cyngor Cefn Gwlad Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru Adran Economi a Chludiant Adran yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai Comisiwn Coedwigaeth Cymru Ecodyfi Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Undeb Amaethwyr Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru RSPB Cymru Allan Wynne Jones (cyfetholwyd i ganolbwyntio ar agweddau diwylliannol) Mae ecodyfi'n darparu gwasanaethau gweinyddol a datblygu i'r Bartneriaeth.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||