ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Codir ail tyrbin gwynt cymunedol yn lleol!

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release31/08/2006

Mae'r cwmni cydweithredol a gododd y felin wynt gyntaf erioed i gael ei pherchen gan gymuned yng Nghymru ar fin codi ail un - ar fynydd i'r gogledd o Fachynlleth.

Bydd gorwel Dyffryn Dyfi yn newid pan godir tyrbin gwynt 500kW ar Fynydd Glandulas gan y grwp a elwir Ynni Adnewyddol Cymuned Bro Ddyfi (Bro Dyfi Community Renewables Ltd (BDCR).

Bydd hwn yn cymryd lle'r tyrbin 600kW sydd ar y safle ar hyn o bryd.

"Model ymchwil oedd y tyrbin presennol a phrofwyd nifer o syniadau arno.

Fel sy'n digwydd gydag ymchwil, mae rhai pethau'n gweithio a phethau eraill ddim, felly dydy'r tyrbin heb fod yn gweithio ers tipyn! Serch hynny, mae'n safle gwyntog da ar gyfer tyrbin, felly roedd o'n gwneud synnwyr i osod un un newydd yn lle'r hen un" esboniodd Andy Rowland, o ecodyfi.

"Bydd y tyrbin newydd yn cynhyrchu tua'r un faint o drydan bob blwyddyn gan gyflenwi ynni i draean cartrefi Machynlleth a disgwylir iddi fod yn weithredol am bymtheg mlynedd."

Tra bod tyrbinau gwynt yn ffynhonnell arbennig o ynni glân ac adnewyddadwy, eiddo cwmnïau mawr yw'r rhan fwyaf ohonynt.

Golyga hyn fod y rhan fwyaf o'r elw a gynhyrchir yn debygol o adael yr ardal.

Mae hyn wedi arwain at ddiddordeb cynyddol mewn ffyrdd eraill o ariannu prosiectau ynni.

Opsiwn amgen amlwg yw bod pobl leol yn cymryd perchnogaeth o'r tyrbinau, ac mae hyn eisoes yn digwydd yn Nyffryn Dyfi.

Sefydlwyd Ynni Adnewyddol Cymuned Bro Ddyfi yn 2001 i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a fyddai'n eiddo i'r gymuned.

Eu prosiect cyntaf oedd melin wynt 75kW yng Nghilgwyn, uwchben Pantperthog.

Mae'r tyrbin hwn wedi bod yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers 2003 ac mae'r 55 cyfranddaliwr yn derbyn difidend blynyddol.

"Yn dilyn llwyddiant y prosiect cyntaf, roedden ni'n edrych am gyfle i sefydlu system ynni adnewyddadwy arall, ac ymddangosai hwn fel cyfle delfrydol" meddai Andy.

Darparwyd safle Cilgwyn gan y Comisiwn Coedwigaeth ac maent wedi bod yn gefnogol eto wrth ganiatáu mynediad trwy eu tir i Fynydd Glandulas.

Yn ychwanegol i hyn, mae dau ffermwr yn rhan o'r prosiect fel perchnogion tir.

Yn union fel y prosiect cyntaf, tanysgrifiwyd yn llawn am y cyfranddaliadau a gynigiwyd ar gyfer yr ail dyrbin.

Prynodd 150 o bobl werth £175,500 o gyfranddaliadau, felly maent yn cyd-berchen y tyrbin 43 metr o uchder.

Mae hyn ychydig yn fyrrach na'r un presennol.

Adnewyddwyd dau dyrbin ACBDd i roi ail chwistrelliad o wynt ynddynt gan eu bod wedi gwasanaethu ar y cyfandir am flynyddoedd yn barod.

Mae prosiectau cymunedol fel hyn yn galluogi pobl leol i elwa, meddai Andy.

"Diolch i gymhorthdal gan yr Undeb Ewropeaidd trwy gyfrwng Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru ac ecodyfi, bydd 30% o'r elw yn mynd yn ôl i ecodyfi i gael ei wario ar waith adfywio cymunedol yn Nyffryn Dyfi," meddai.

"Byddant yn gwario ychydig o hwn yn cefnogi a hyrwyddo dulliau teithio isel mewn carbon megis beicio a bysiau.

Fel hyn, mae'r gymuned gyfan yn elwa, yn ogystal â'r 220 o bobl sydd yn aelodau o'r cwmni cydweithredol, perchnogion y tir sy'n derbyn rhent a'r contractwyr lleol sy'n codi, cynnal a chadw'r tyrbin."

Talodd Andy Rowland deyrnged i Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd, a dalodd am ychydig o'r gwaith datblygu pan oeddynt yn gweithredu fel Awdurdod Datblygu Cymru, a phwyllgor gwirfoddol BDCR.

"Mae'n haws gwneud i brosiectau mawr dalu na rhai ar raddfa fechan fel hyn," meddai, "ac mae cynnwys cymaint o bobl yn cymryd llawer o amser ac ymdrech".

Aeth Andy Rowland yn ei flaen i ddweud pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n lleihau'r carbon deuocsid a ryddheir, er mwyn cyfyngu effaith yr hinsawdd yn newid.

"Mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag at darged o ddarpariaeth ynni adnewyddadwy sydd yn cynrychioli 10% o'r cyflenwad trydan erbyn 2010," meddai.

"Caiff ynni gwynt ei gydnabod fel un o'r dulliau mwyaf effeithiol o gyrraedd y targed hwnnw ac mae'n dda cael bod yn rhan fechan ohono."

Rhagor o wybodaeth:

Brig y dudalen