Cyfle i ymuno â grwp tyrbin |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae aelodau cydweithfa ynni adnewyddadwy Canolbarth Cymru yn dathlu wedi iddynt dderbyn eu tyrbin gwynt diweddaraf ac maent yn edrych ymlaen at gael lansio dyroddiad cyfranddaliadau'r prosiect arloesol.Clywyd yn ystod Cyfarfod Blynyddol Bro Dyfi Community Renewables, a gynhaliwyd ym Mhantperthog ar ddydd Sadwrn Mehefin 11eg, bod y tyrbin Nordtank 500 cilowat wedi cyrraedd o'r Almaen. Bydd yn cael ei gadw ar fferm Hendreseifion, Llanwrin hyd nes y daw gweddill y cyllid i law ac y bydd modd ei osod yn lle'r prototeip diangen ar Fynydd Glandulas. Denodd y tyrbin gryn ddiddordeb yn ddiweddar yn ystod Rali i'r Clwb Ffermwyr Ifanc ar y fferm, lle y bu rhai o'r bobl sy'n rhan o'r cynllun yn bwrw golwg arno. Roedd Edward Jones, un o gyfranddeiliaid y gydweithfa, yn frwd ynglyn â'r cynllun. "Mae'n braf iawn gweld y dechnoleg yma'n cael ei rheoli gan bobl leol er budd lleol", meddai. "Mae'r prosiect hwn yn fwy na'r tyrbin cyntaf yng Nghilgwyn, felly mae yma gyfle go iawn i alluogi i fwy o bobl leol rannu perchnogaeth arno". Bydd angen i bobl sydd am gael gwybodaeth am y dyroddiad cyfranddaliadau ymaelodi â'r Clwb Buddsoddi Ynni Adnewyddadwy i ddechrau. Cyfrwng yw'r clwb ar gyfer cysylltu buddsoddwyr posibl â datblygwyr addas yn rhad ac am ddim. Dulas Cyf., wedi'i leoli ym Machynlleth, sy'n ei redeg. Er bod modd i bobl eu ffonio ar 01654 705018 i ofyn am ffurflen aelodaeth, dywed Andy Warrington o'r cwmni bod ymaelodi ar-lein yn www.reic.co.uk yn llawer mwy hwylus. Caiff pawb fydd yn ymaelodi yn y dyfodol agos wahoddiad i'r noson wybodaeth ynglyn â chynllun Bro Ddyfi sydd i'w chynnal ar Fehefin 23ain. Mae ecodyfi eisoes wedi sicrhau �43,000 o gyllid Ewropeaidd i'r cynllun drwy Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. "Bydd y llog a gawn o'r buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi adfywio cymunedol", meddai Andy Rowland, y Trefnydd. Disgwylir y bydd benthyciad banc ac unigolion â'u bryd ar wneud buddsoddiad egwyddorol tymor hir yn cyflenwi gweddill y cyfalaf sydd ei angen i godi'r tyrbin. "Edrychwn ymlaen at gael croesawu cyfranddeiliaid lleol newydd", meddai John Williams, Cadeirydd y gydweithfa. "Mae newid hinsawdd yn fygythiad i bob un ohonom, a'n bwriad hefyd yw gofalu mai ein cymuned ni fydd yn manteisio o ynni'r gwynt". Rhagor o wybodaeth:
Nodiadau gan y Golygydd:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||