Gweithredwch yn awr yn erbyn newid hinsawdd |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae ymgyrchwyr newid hinsawdd lleol yn annog pobl i fynd ati yn awr yn lle disgwyl i lywodraethau weithredu ar eu rhan.Maent yn gwrthgyferbynnu'r cyfle a drefnwyd yn lleol i brynu tyrbin gwynt cymunedol gyda llusgo traed gwleidyddion y G8. Cyhoeddodd y G8 bod y cynnydd mewn nwyon ty gwydr yn yr amgylchedd yn "her hirdymor ddifrifol" i'r blaned gyfan ond gan fethu â gosod unrhyw dargedau ar gyfer lleihau'r nwyon a ryddheir. Yn �l Tom O'Kane, swyddog lleihau gwastraff y grwp adfywio lleol, E, bydd oddeutu 65% o ynni nad yw'n gysylltiedig â chludiant yn cael ei ddefnyddio yn y cartref yn achos cefn gwlad Canolbarth Cymru. "O ganlyniad mae cyfrifoldeb mawr arnom i gyd i gyfyngu ar y llygredd newid hinsawdd sy'n deillio o ddefnyddio ynni", meddai. "Un cam hawdd iawn y gallwn oll ei gymryd yw newid ein bylbiau golau am rai ynni-effeithlon hir oes". Esboniodd Tom y bydd ecodyfi yn rhoi bwlb am ddim i unrhyw un o drigolion Canolbarth Cymru sy'n barod i lenwi holiadur ynni syml ynglyn â'u ty. Anfonir y ffurflen gan ecodyfi i'r Ganolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni yng Nghasnewydd, fydd wedyn yn anfon adroddiad i ddeiliad y ty. Bydd hwn yn ei dro yn cynnwys argymhellion ar arbed ynni drwy ddefnyddio ynni mewn modd mwy effeithlon a chyfyngu ar wastraff. Mae'r ffurflenni a'r bylbiau ar gael yn Nhy Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth. Prynwyd y bylbiau arbed ynni gan Gronfa Ynni Cymunedol Dyffryn Dyfi, a gyllidir yn rhannol gan Nwy Prydain ac yn rhannol gan incwm blynyddol o'r tyrbin gwynt cymunedol yng Nghilgwyn, Pantperthog. Daeth hyn i fod o ganlyniad i fuddsoddiad yn y tyrbin gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Dywedodd John Williams, Cadeirydd Bro Dyfi Community Renewables Ltd, perchnogion y tyrbin, eu bod wrthi'n codi arian ar gyfer eu hail dyrbin - wnaiff ddarparu incwm blynyddol ychwanegol i ecodyfi gan i'r grwp sicrhau arian Ewropeaidd i'r prosiect drwy gyfrwng Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. Disgwylir y bydd y tyrbin newydd yn cynhyrchu maint cyfatebol o drydan mewn blwyddyn i'r hyn a ddefnyddir gan oddeutu traean o dai Machynlleth. Bydd yn cymryd lle'r tyrbin prototeip diangen ar Fynydd Glandulas. "Dydi ein trydan ni ddim yn creu'r difrod amgylcheddol a achosir gan danwyddau ffosil", meddai, "ac mae'r cynllun yn cynnig cyfle ar gyfer buddsoddiadau egwyddorol mewn prosiect lleol fydd yn helpu adfywio cymunedol." Esboniodd y bydd angen i bawb sydd â diddordeb ymaelodi â'r Clwb Buddsoddi Ynni Adnewyddadwy er mwyn cael manylion llawn y gwerthiant cyfranddaliadau, unai drwy sicrhau ffurflen gan ecodyfi ar 01654 703965 neu drwy ymuno ar-lein yn www.reic.co.uk. Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965 Nodiadau ar gyfer golygyddion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||