ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cymysgedd Olew a bwyd yn ecodyfi

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi

Cymunedau yn Gyntaf

Trafnidiaeth

Twristiaeth

Ynni

Gwastraff

Tyfadwy
Coedwigaeth

Masnach Deg
Twristiaeth gweithgareddau
Biosffer Dyfi Biosphere
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release16/06/2006

Mae ecodyfi yn galw ar bobl i sylweddoli bod prisiau uchel ynni yma i aros â oherwydd bod hanner olew'r byd wedi'i ddefnyddio'n barod ac mae'r ail hanner yn fwy anodd ei gael allan o'r ddaear.

Mae grwp adfywio Bro Ddyfi hefyd yn helpu'r gymuned i chwilio am argymhellion adeiladol ar gyfer adeilad y Plas a'r tir o'i gwmpas mewn ymateb i gau Celtica ym Machynlleth.

Bydd y ddau fater hyn yn cael eu trafod yng nghyfarfod blynyddol y grwp yng Nghanolfan Owain Glyndwr, Mehefin 22ain.

Dywedodd Martin Ashby, un o'r cyd-gadeiryddion bod y ddau fater yma'n dangos fel y mae ecodyfi ynghlwm wrth raddfa eang o weithgareddau.

"Ein nod yw gwella ansawdd bywyd y gymuned trwy ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau a gwerthfawrogi'u hasedau naturiol - rhai diwylliannol yn ogystal â rhai amgylcheddol", eglurodd.

Bydd llwyddiant Gwyl Lusernau Samhain a gynhaliwyd yr hydref diwethaf a llwybrau beiciau mynydd Cli-MachX yn cael eu pwysleisio yn adroddiad blynyddol y grwp.

Mae'r ddau yn dod ag incwm ymwelwyr i'r ardal yn ogystal â gwasanaethu pobl leol.

Chwaraeodd ecodyfi ran allweddol yn y ddau beth.

Bydd y cyfarfod yn ystyried y ffordd ymlaen i'r grwp cyn trafod sut y gall Bro Ddyfi symud ymlaen tuag at ddefnyddio llai o olew - heb aros am yr argyfwng.

Bydd cynnig allweddol yn argymell arallgyfeirio a chefnogi cynhyrchu bwyd lleol, fel ein bod yn llai dibynnol ar gludiant drud sy'n llyncu disel er mwyn llenwi'n bagiau siopa.

Mae croeso i drigolion lleol a busnesau fynychu'r cyfarfod blynyddol a'r fforwm, ond mae'n ofynnol i chi logi'ch lle trwy ffonio 01654 703965.

Bydd bwffe i ddechrau ac yna'r cyfarfod am 7.15.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland Trefnydd ecodyfi 01654 703965

Martin Ashby, Cyd-gadeirydd ecodyfi 01650 511595

Aled Owen Griffiths, Cyd-gadeirydd ecodyfi 01686 624200