ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dan ei Sang

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi

Cymunedau yn Gyntaf

Trafnidiaeth

Twristiaeth

Ynni

Gwastraff

Tyfadwy
Coedwigaeth

Masnach Deg
Twristiaeth gweithgareddau
Biosffer Dyfi Biosphere
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release22/7/2004

Bu'r grwp adfywio cymunedol ecodyfi yn ddiweddar yn cyflwyno rhai o'i lwyddiannau a'i gynlluniau mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oedd dan ei sang.

Cafodd bron i 50 o bobl glywed am y gwaith sy'n cael ei wneud gyda phartneriaid lleol i roi hwb i'r economi lleol a dod â phobl ynghyd.

Amlinellodd Teresa Walter y Swyddog Twristiaeth y modd y mae llwybr beicio mynydd newydd Climach-x yn sicrhau busnes o'r newydd ar gyfer lleoedd fel Byncws Braich Goch, Corris ac wedi ennyn digon o hyder ymysg selogion lleol iddynt agor byncws ac ail siop feiciau ym Machynlleth.

Gweithredwyd y prosiect hwn, a gyllidwyd ag arian Ewropeaidd, gan Beicio Mynydd Dyfi gyda chefnogaeth ecodyfi, ac mae eisoes wedi creu 6 o swyddi yn y sectorau llety, arlwyo a gwasanaethau arbenigol lleol.

Mae ecodyfi yn chwilio am arian ar gyfer rhaglen hyfforddi sgiliau adeiladu llwybrau i ddilyn hyn fydd yn creu ymestyniad bychan i'r llwybr.

Cafwyd canmoliaeth i'r grwp gan Simon Thomas, cyn AS Ceredigion, oherwydd iddynt ysgogi pobl leol i fynd i'r afael â phynciau o bwysigrwydd byd-eang fel newid hinawdd.

Bu'n annog aelodau i osgoi'r perygl o wneud dim byd ond oherwydd bod y broblem i'w gweld yn un mor fawr.

"Ond i ni oll wneud ein rhan mi fydd yn gwneud gwahaniaeth", meddai.

Yn wyneb yr hyn a ddywedodd yw "ein sialens fwyaf", awgrym Mr Thomas oedd y gallwn ddefnyddio grym y prynwr i ddylanwadu ar fusnesau mawr, ein pleidlais i roi pwysau ar Lywodraeth a'n llais i addysgu'n gilydd.

Roedd yn dadlau o blaid cyflwyno treth ar danwydd awyrennau a chael mwy o gymhellion treth i ffafrio cerbydau sy'n llosgi tanwydd yn effeithlon.

Dywedodd ein bod ni i gyd yn wylwyr rhag y dilyw, cyfeiriad at chwedloniaeth yr ardal ynglyn â Chantre'r Gwaelod.

Arweiniodd Ann MacGarry o Ganolfan y Dechnoleg Amgen drafodaeth frwd ar yr effeithiau y mae ein dewisiadau ffordd o fyw yn eu cael ar y blaned, gan ddefnyddio offeryn monitro a elwir yn �l Troed Ecolegol.

Arwynebedd tir yw dangosydd y dechneg hon, ac mae'n amlygu y byddai angen bron i dair planed arnom i'n cynnal petai pawb yn byw bywydau tebyg i Gymry cyffredin.

Gan mai dim ond un blaned sydd gennym, mae ecodyfi a'r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn bwriadu defnyddio'r offeryn yma i roi cymorth i bobl wneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Fe ddaw pynciau megis prynu bwyd lleol, hedfan a gwastraffu defnyddiau ac ynni oll o dan y chwyddwydr.

Mae cop�au o Gylchlythyr ac Adolygiad Blynyddol ecodyfi, a chofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, i'w cael yn Nhy Bro Ddyfi, Y Plas, Machynlleth ac ar ein tudalen adroddiadau.

Rhagor o wybodaeth:

Nodiadau ar gyfer Golygyddion Grwp adfywio cymunedol Bro Ddyfi yw ecodyfi.

Mae ei sylw yn fwyaf arbennig ar gryfhau'r economi lleol drwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol mewn modd gofalus.

Caiff ei reoli gan Fwrdd ag arno 17 o bobl leol ac mae'n derbyn cefnogaeth gan Awdurdod Datblygu Cymru ac Amgylchedd Cymru.

Canolfan ymchwil ac arddangos arloesol yw'r Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac mae'n cynnig ysbrydoliaeth, gwybodaeth a chyfle i bobl archwilio ffyrdd newydd o fyw.

Agorodd i'r cyhoedd yn ôl yn 1975, ac enillodd enwogrwydd ar draws y byd fel un o'r prif sefydliadau ym maes arddangos technolegau a dulliau o fyw ecolegol.

Bydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn cyflwyno atebion ymarferol i broblemau amgylcheddol mewn modd hwyliog ac addysgiadol.

Cewch ragor o wybodaeth ynglyn ag ôl troed ecolegol yn www.wwf.org.uk/researcher/issues/footprint/index.asp a www.walesfootprint.org.

Ac os am gopi o adolygiad ecodyfi ar gyfer 2004, sydd newydd ddod o'r wasg, maent ar gael yn Nhg Bro Ddyfi, Y Plas, Machynlleth.

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965