Adfywio Cymunedol yn Nyffryn Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Bu aelodau a staff ecodyfi'n dathlu blwyddyn lwyddiannus o weithgareddau yn ystod eu cyfarfod blynyddol diweddar yng Nghaffi Maengwyn, Machynlleth.Diolchodd Nicola Dunkley, Cyd-Gadeirydd y grwp adfywio cymunedol ar gyfer Dyffryn Dyfi, i'r holl wirfoddolwyr a darparwyr cyllid. Ymhlith y rhain y mae Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Powys ac Amgylchedd Cymru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Un o'r cynlluniau penodol a drafodwyd oedd yr ymgynghoriad cymunedol yng Ngheinws, a gynhaliwyd gyda chydweithrediad Cymunedau'n Gyntaf a'r Comisiwn Coedwigaeth. Mae'r pentref bellach wedi ffurfio grwp gweithredu annibynnol, gyda'r nod o adfywio safle Haulfryn � gan benderfu mai felly mae sicrhau ychydig o dai fforddiadwy, lle chwarae a man cyfarfod. Clodforwyd gwaith ecodyfi gydag ysgolion, a gynhaliwyd yn rhannol ar y cyd â'r grwp lleol, Daear Elfennol. Dibynna ecodyfi ar grantiau cyhoeddus ar hyn o bryd, ond y gobaith yw y bydd dau o'i gynlluniau arfaethedig yn dechrau gwneud arian, ac hefyd yn lleihau cyfanswm yr adnoddau a gollir drwy gael eu claddu. Bwriad eu cynllun min y ffordd yng Ngogledd Ceredigion yw casglu holl "wastraff" cartrefi, a bydd y cynllun sydd ganddynt yn yr arfaeth ar gyfer Machynlleth yn ymwneud yn bennaf â gwastraff y gegin y gellir ei gompostio. Roedd beicio yn bwnc amlwg yn y trafodaethau. Mae'r ochr dwristaidd yn dal i dyfu, a swyddi'n cael eu creu yng Nghoedwig Dyfi a'r cylch wrth i lwybrau newydd gael eu hagor. Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i waith ecodyfi gydag awdurdodau lleol a gweithwyr iechyd, yn cynnwys ymrwymiad diweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu llwybr diogel rhwng Machynlleth a Derwenlas. Roedd Aled Griffiths, Cyd-Gadeirydd ecodyfi, yn edrych ymlaen at adeiladu ar gysylltiadau ardderchog y grwp â mentrau eraill yn ystod y flwyddyn nesaf, yn cynnwys Fforwm y Gymuned Leol ac Ardal Biosffer Dyfi. "Mi hoffwn hefyd ddod â gwahanol rannau o'n cymuned yma yn Nyffryn Dyfi yn nes at ei gilydd", meddai, "er mwyn i ni allu rhannu nid yn unig o'n sgiliau a'n profiadau, ond hefyd mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol". Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||