ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Dyfarnu statws unigryw y Cenhedloedd Unedig i Fro Ddyfi

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein Slleoliad - map mwy]

ecodyfi press release19/11/2009

Cartrefi cynhesach, biliau llai, carbon is

Wrth ddisgwyl i'r tywydd oer gyrraedd, mae angen cymorth ar grwpiau cymunedol i lunio cais fyddai'n dod â buddsoddiad mewn arbed ynni i Ddyffryn Dyfi, pe byddai'n llwyddiannus. Mae ecodyfi a Chymunedau yn Gyntaf yn cynnal digwyddiad ar y cyd ar Dachwedd 30 ym Machynlleth i egluro cyfle ariannu newydd, ac i ddangos i bobl sy'n awyddus i gwtogi ar eu biliau ynni pa gymorth sydd ar gael yn barod.

Bydd nifer o sefydliadau yn bresennol, fel y gall pobl sgwrsio'n anffurfiol am sut i arbed ynni a gwneud eu cartrefi'n iachach ac yn fwy cysurus. Er enghraifft, bydd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnig syniadau a chynghori pobl pa grantiau sydd i'w cael. Bydd prosiect "Monergy" Canolfan Gynghori Bro Ddyfi sy'n cael ei redeg ar y cyd ag Undeb Credyd Robert Owen yno i gynnig cyngor ar reoli arian yn ogystal ag ynni.

Bydd cynrychiolwyr o Gofal a Thrwsio Powys gerllaw i i egluro sut y gall pobl oedrannus a bregus gael rhai gwelliannau wedi'u gwneud i'w tai mewn modd diogel ac yn rhad ac am ddim. Bydd ecodyfi yn dosbarthu bylbiau golau ynni isel ac yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan yng nghwis Ôl Troed Dyfi.

Yn ogystal â chael sgyrsiau dros gwpaned o de, bydd y bobl fydd yn mynychu'r cyfarfod yn clywed am y Sialens Carbon Isel i Gymunedau. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i gynorthwyo nifer o gymunedau i leihau'r carbon a gynhyrchir ganddynt, ac yn cynnig hyd at £500,000 o arian cyfalaf i bob un sy'n cael eu dewis. Mae pobl wedi dechrau gwneud cynlluniau ynglyn â sut y byddai Bro Ddyfi'n gallu gwneud y defnydd gorau o'r fath swm, a byddant yn cyflwyno'u syniadau i'r cyfarfod.

Mae cynigion presennol yn cynnwys gwella'r defnydd o ynni mewn adeilad cymunedol a chynorthwyo cymdeithas dai i adeiladu tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Mae cynigion newydd eraill yn ymwneud â rhannu ceir a syniadau am sut i wneud tai sy'n bodoli eisoes yn gynhesach, gan gynnwys insiwleiddio waliau solet a defnyddio coed yn fwy effeithlon.

Cychwinir y cyfarfod ar 30 Tachwedd am 7.30 yn Y Plas. Bydd yr achlysur yn berthnasol i bawb, felly bydd croeso i bawb. Mae gwahoddiad i unrhyw un sydd â chynnig perthnasol i fynychu'r cyfarfod, neu i'w drafod gydag Andy Rowland yn ecodyfi ymlaen llaw. Gellir cysylltu ag ef ar 01654 703965 neu yn Y Plas, Machynlleth.

Rhagor o wybodaeth:
Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf 01654 700315

Brig y dudalen