ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Dathlu Dyfi

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein Slleoliad - map mwy]

ecodyfi press release9/3/2011

Dathlu Dyfi

Mae Tirwedd Dyfi, un o’r prosiectau cyntaf Biosffer Dyfi, yn cynnal noson o’r enw “Dathlu Dyfi” yn Institiwt Corris nos Wener y 25ain o Fawrth.

Bydd y noson yn cynnwys arddangosfa o ffrwyth gwaith cyfres o weithdai mewn pedair ysgol leol yng nghwmni’r bardd enwog Twm Morys a’r artist Lynne Denman ar thema Tirwedd Dyfi. Crëwyd gweithiau celf gan ddisgyblion i gyd-fynd â barddoniaeth wreiddiol luniwyd ganddyn nhw, wedi’i ysbrydoli gan eu hardal, a bydd y noson yn cynnig cyfle i weld a chlywed eu dehongliad o Ddyffryn Dyfi.

Bydd gwobrau ar gyfer buddugwyr y gystadleuaeth Llun a Llên yn cael eu cyflwyno yn dilyn hyn, ac yna bydd cyfle i glywed eitemau ar gân a cherdd, wedi'i hysbrydoli gan yr ardal, yn cael eu dehongli gan dalentau lleol.

Bydd y noson yn cloi yng nghwmni siaradwraig wadd, Bethan Jones Parry o Ganolfan Tŷ Newydd a chyfle i’r gynulleidfa gynnig eu syniadau ar gyfer gwthio’r gwaith o ddod a gwerthfawrogiad o ddiwylliant a threftadaeth amgylcheddol ynghyd yn ei flaen.

Bydd y noson yn dechrau am 7.30 ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Bydd cyfieithu ar y pryd yn ystod y digwyddiad. Am ragor o wybodaeth cysylltwch a: 01654 793965.

Ymryson y Beirdd fydd digwyddiad olaf prosiect Tirwedd Dyfi, yng Ngwesty’r Llew Coch, nos Fawrth 29ain o Fawrth am 7.30.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Gwawr Davalan, Trefnydd y noson 01650 531279

Nodiadau i Olygyddion:

Ecodyfi yw’r grŵp adfywio cymunedol ar gyfer Bro Ddyfi. Mae’n rhoi sylw arbennig i gryfhau’r economi lleol trwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae’n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac fe’i cefnogir trwy gytundebau masnachol neu grantiau, e.e. gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac awdurdodau lleol.

Brig y dudalen