ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gweithredu yn lleol

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein Slleoliad - map mwy]

ecodyfi press release25/03/2011

Gweithredu yn lleol

Gofynnodd Menter Mynyddoedd Cambria (CMI) i ecodyfi eu cynorthwyo i gynhyrchu dogfen ‘cynllun gweithredu’. Bydd y ddogfen yn disgrifio beth mae pobl yn ei wneud i wella ansawdd a chynaladwyedd bywyd yn eu cymunedau. Bydd hefyd yn tynnu sylw at syniadau fydd ganddynt am weithredu pellach – pethau y gallwn eu gwneud ein hunain ar raddfa bentref neu leol, hyd yn oed pe byddai angen rhywfaint o gymorth o’r tu allan.

Bydd ein dogfen ar gyfer y lleoedd hynny sydd oddi mewn i ardal Biosffer Dyfi UNESCO, sy’n digwydd bod i gyd oddi mewn i ardal o ddiddordeb Mynyddoedd Cambria. Bydd yn cael ei ychwanegu at gynlluniau gweithredu rhannau eraill o Fynyddoedd Cambria, fel y gall pobl weld y darlun cyfan.

Bydd ar gael i gymunedau. Efallai y gwelwch fod pobl eraill â’r profiad o wneud yr hyn oedd yn eich meddwl chi, ac y gallwch ddysgu oddi wrthynt. Neu y gallwch wneud pethau mewn modd mwy effeithlon mewn partneriaeth ag eraill. Byd

d hefyd o gymorth i Fenter Mynyddoedd Cambria, Biosffer Dyfi, awdurdodau lleol ac eraill i ddeall beth mae pobl eisiau ei wneud, a sut mae’n bosib eu helpu. Gall hyn gynnwys eich cyfeirio at ffynonellau ariannol posibl, er enghraifft un o raglenni Cynllun Datblygu Gwledig a ariannir gan Ewrop, neu’r Arian Datblygu Cynaliadwy ar wahân a reolir gan Fenter Mynyddoedd Cambria ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“CAE”).

Gwahoddir i chi dweud wrth ecodyfi yn Y Plas, Machynlleth SY20 8ER (neu drwy info@ecodyfi.org.uk) am unrhyw weithgareddau neu awgrymiadau perthnasol. Peidiwch â defnyddio eich amser yn ysgrifennu llawer o fanylion, ac os yw’n haws gennych anfon dogfen sydd gennych eisoes, byddai hynny’n iawn.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Menter Mynyddoedd Cambria yn fenter datblygu gynaliadwy, integredig sy’n ceisio adeiladu dyfodol economaidd llewyrchus i gymunedau’r ardal yn seiliedig ar eu perthynas â thirwedd arbennig Mynyddoedd Cambria.

Mae gan Fenter Mynyddoedd Cambria 4 prif thema neu linynnau o weithgaredd. Mae’r cynllunio gweithredu cymunedol hwn yn ceisio annog cymunedau i ddatblygu prosiectau sy’n cefnogi amcanion Menter Mynyddoedd Cambria ar draws y 4 thema hynny:

  • Gweithio gyda ffermwyr a chynhyrchwyr i ychwanegu gwerth i gynnyrch lleol y mynyddoedd;
  • Hyrwyddo’r amgylchedd lleol a’r gwasanaethau ecosystemau mae’n ei ddarparu ar ffurf atafaeliad carbon a storio dŵr;
  • Hyrwyddo tirwedd arbennig Mynyddoedd Cambria fel pwynt gwerthu unigryw oddi mewn i’r hyn sydd gan dwristiaeth i’w gynnig yn yr ardal; ac yn olaf
  • Gweithio gyda’r gadwyn anheddau sy’n amgylchynu ucheldir hynod o wledig y mynyddoedd. www.cambrianmountains.co.uk

Ecodyfi yw’r grŵp adfywio cymunedol ar gyfer Bro Ddyfi. Mae’n rhoi sylw arbennig i gryfhau’r economi lleol trwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae’n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac fe’i cefnogir trwy gytundebau masnachol neu grantiau, e.e. gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac awdurdodau lleol.

Brig y dudalen