ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Swyddi, cynhesrwydd a choedwigoedd glaw

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein Slleoliad - map mwy]

ecodyfi press release10/11/2009

Swyddi, cynhesrwydd a choedwigoedd glaw

Mae grwp adfywio Bro Ddyfi wedi creu agenda amrywiol ar gyfer y fforwm cyhoeddus fydd yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn ôl yr arfer. Eleni, cynhelir y digwyddiad yn y Neuadd newydd yn Y Plas ym Machynlleth, Nos Fercher, Tachwedd 18.

Bydd hwyluswyr o Fenter a Busnes yn cynorthwyo’r rhai hynny fydd yn bresennol i feddwl am syniadau busnes newydd i’r ardal, gan ddefnyddio dulliau a ddatblygwyd gyda ffermwyr yn eu rhaglen Agrisgôp. Dywedodd Alun Jones, Cyfarwyddwr Menter a Busnes, “Mae hwn yn gyfle anarferol i ffermwyr a’r rhai hynny nad sydd yn ffermwyr weithio gyda’i gilydd. Rwy’n gobeithio y bydd un neu fwy o grwpiau gweithredu yn cael eu ffurfio o’r sesiwn yma, a hynny’n arwain at greu swyddi newydd yn y pen draw.”

Yn dilyn hyn, bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i siapio cynlluniau sy’n cael eu ffurfio er mwyn cyflwyno cais am £500,000 o gymorth grant y Llywodraeth. Y disgwyl yw i brif ganolbwynt y “Sialens Garbon Isel i Gymunedau” fod ar gynorthwyo pobl i ddefnyddio llai o ynni yn eu cartrefi.

Yn drydydd, bydd arweinydd brodorol Cymdeithas Fiohinsoddol llwyth yr Ashaninka yn yr Amason yn disgrifio’r frwydr mae ei bobl yn ei hymladd ym Mheriw i wrthsefyll trin coed a chlirio coedwigoedd glaw yn anghyfreithlon.

Dywedodd Martin Ashby, un o gyd-gadeiryddion ecodyfi, fod y pynciau tra gwahanol yma yn dangos sut mae ecodyfi yn ymwneud ag ystod eang iawn o weithgareddau. “Mae cryfhau’r economi leol yn bwysig iawn i ni,” meddai, “ ac rydym yn gweld, ar yr un pryd, bod y ddau beth, sef datgoedwigo a’r modd rydym yn gwastraffu ynni yn cyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd.”

Mae croeso i bawb, yn breswylwyr a busnesau, fynychu’r cyfarfod blynyddol a’r fforwm, ond mae gofyn iddynt logi eu lle trwy ffonio 01654 703965. Mae’r digwyddiad yn dechrau am 7 o’r gloch, a bydd yn cynnwys bwffe rhwng y Cyfarfod Blynyddol a’r Fforwm.

Rhagor o wybodaeth:
Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Allan Wynne Jones, Cyd-gadeirydd ecodyfi 01654 702658
Martin Ashby, Cyd-gadeirydd ecodyfi 07590 764115

Ecodyfi yw'r sefydliad adfywiad lleol yn Nyffryn Dyfi.

Brig y dudalen