Cwmni adfywio’n llawn ynni |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cwmni adfywio’n llawn ynniDaw aelodau ecodyfi, cwmni datblygu cynaliadwy Bro Ddyfi, at ei gilydd nos Iau nesa i drafod eu cynlluniau a’u gweithgareddau mewn cyfarfod blynyddol cyffredinol a gynhelir yn y Ganolfan Gymunedol, Derwenlas ar 15 Rhagfyr. Bydd y cyfarfod yn clywed fod sefyllfa ariannol ecodyfi yn iach ar hyn o bryd, yn bennaf fel canlyniad i ddau ddarn o waith sy’n cael eu gweithredu ar y cyd ag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy. Mae un ohonynt yn cefnogi grwpiau cymunedol yng Ngheredigion a De Gwynedd sydd â diddordeb mewn gwneud arian ar gyfer eu cymunedau. Enw’r cynllun yw “Ynni’r Fro” – ynni adnewyddol ar raddfa gymunedol. Mae’r ail gynllun yn cefnogi busnesau bychain a mentrau cymdeithasol yng Ngheredigion sydd am leihau eu biliau ynni a dechrau gwneud arian o gynhyrchu ynni adnewyddol (ar unrhyw raddfa). Mae “Ynni i Ffynnu” – ynni adnewyddol er tŵf busnes, yn cynnig arolygon ynni am ddim i fusneasau a grwpiau cymwys. Mae ecodyfi’n gweithredu trydydd cynllun yng Ngheredigion ond mae hwn yn berthnasol i dref Aberystwyth a’r ardal i’r gogledd yn unig. Mae’n cefnogi diddordebau twristaidd sy’n gweld mantais o dyfu eu busnes drwy gydweithio ag eraill yng nghyd- destun Biosffer Dyfi UNESCO. Fel yn achos Ynni i Ffynnu mae’r cynllun ‘twristiaeth gynaliadwy’ yma’n cael ei gefnogi gan y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Yna, yn dilyn ystyriaeth ffurfiol o faterion corfforaethol y cwmni di-elw a mwynhau powlen o gawl tymhorol, yn llawn cynnyrch lleol, cynhelir trafodaeth agored. Y testun eleni fydd cyfraniad ecodyfi i ddatblygiad Biosffer Dyfi UNESCO. Erbyn hyn mae ecodyfi’n gweithredu’n aml fel asiant ar ran amrywiol weithgareddau’r Biosffer, ar sail cytundeb diweddar gyda’r Bartneriaeth. Disgwylir i hyn ddwyn ffrwyth pellach yn fuan, drwy recriwtio aelod newydd o’r staff i symyd ymlaen gyda sawl syniad cymunedol a thwristaidd. Bydd y CCB yn agored i bawb ac yn dechrau am 7 yh. Dywedodd Allan Wynne Jones, cyd-gdaeirydd ecodyfi, “Mae darganfod ffyrdd y gall yr economi leol elwa o warchod yr union adnoddau diwylliannol ac amgylcheddol hynny sy’n sail i fywyd cyfoethog - yn wir ystyr y gair - yn dod yn gynyddol bwysig. Rwy’n edrych ymlaen at glywed syniadau bobl leol ynglyn â hyn, tra’n gwahodd ceisiadau pellach gan aelodau i ymuno â’r bwrdd. Gwybodaeth bellach:
Nodiadau ar gyfer golygyddion: Ecodyfi yw’r grŵp adfywio cymunedol ar gyfer Bro Ddyfi. Mae’n talu sylw arbennig i gryfhau’r economi leol drwy warchodaeth ofalus o adnoddau naturiol a diwylliannol. Fe’i rheolir gan fwrdd o 17 o bobl leol ac fe’i ariannir drwy gytundebau masnachol neu grantiau, weithiau gan Lywodraeth Cymru, Partneriaeth Twristiaeth y Canolbarth neu awdurdodau lleol. UNESCO yw Sefydiad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig. Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn ardaloedd lle mae pobl yn cydweithio i geisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod bioamrywiaeth a’i ddefnydd cynaliadawy. Fe’u cydnabyddir o fewn fframwaith rhaglen y Ddynoliaeth a’r Biosffer gan UNESCO. www.unesco.org/new/en/natural-sciences/environment/ecological-sciences/man-and-biosphere-programme |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||