Cefnogaeth ynni adnewyddol i fusnesau |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cefnogaeth ynni adnewyddol i fusnesauMae Cyngor Sir Ceredigion wedi sefydlu rhaglen i gynorthwyo mentrau meicro ennill arian o ynni adnewyddol. Gan ddefnyddio cyllid o Raglen Datblygu Gwledig y Comisiwn Ewropeaidd trwy law Llywodraeth Cymru mae’r Cyngor wedi sicrhau gwasanaeth Asiantaeth Ynni Hafren Gwy i ddarparu cefnogaeth mewn partneriaeth â’r asiant cyflenwi lleol, ecodyfi. Bydd y rhaglen a elwir yn ‘Ynni i Ffynnu: Renewable energy for business growth’, yn darparu archwiliad ynni ar eu safle i ragor na 200 o fusnesau bychain. Fe fydd yr adroddiadau dilynol yn awgrymu atebion ynni adnewyddol addas er mwyn cynhyrchu incwm parhaol ar gyfer y busnesau dan sylw. Yna bydd cynllun cefnogol newydd gan y Llywodraeth yn gallu gwneud llawer o’r atebion hyn yn ymarferol. Mae’n gwarantu cyfraddau uwch am y rhan fwyaf o gynnyrch ynni gwyrdd - a ddefnyddir naill ai ar, neu oddi ar, y safle. Bydd y cyfraddau yn cael eu gwarantu hyd at 25 mlynedd, yn rhydd o dreth ac yn fynegrifol. Bydd yr adroddiadau hefyd yn amlygu ystod o fesurau arbed ynni a ellir eu mabwysiadau. Yn ogystal bydd Hafren Gwy ac ecodyfi yn sefydlu rhwydwaith o ddarparwyr trwyddedig lleol, a thrwy hynny gefnogi’r amcan o ddatblygu economi’r fro. Dywedodd Mike Brain o Hafren Gwy, “ Gyda’r cyflwyniad diweddar o Delerau Cyfrannu a’r Cymhelliad Gwres Adnewyddol, ni fu amser gwell erioed i fusnesau bychain Ceredigion, nid yn unig i leihau eu gwariant ar ynni ond yn ogystal i greu incwm hir dymor trwy gynhyrchu ynni ar eu safle”. Cychwynnir y prosiect yn swyddogol ym mis Medi ac fe fydd yr rhedeg hyd fis Tachwedd 2013. Mae wedi derbyn cyllid trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 – 2013 a ariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ddatblygu Amaethyddol Ewrop. Heblaw am fusnesau fferm, fe all unrhyw fusnes â llai na 10 o weithwyr a throsiant o lai na £l.75 miliwn efallai fod yn deilwng o’r gefnogaeth yma a dylent gysylltu ag ecodyfi ar 01654 703965 neu fynd i’r wefan www.ynni-i-ffynnu.co.uk Gwybodaeth ychwanegol:
Nodiadau i Olygyddion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||