Hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ym Miosffer Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ym Miosffer DyfiDydd Mawrth y 29ain o Dachwedd cynhelir digwyddiad ym Mhlas Antaron, Aberystywth i gyflwyno cynllun newydd i fusnesau Gogledd Ceredigion. Mae prosiect newydd twristiaeth ecodyfi, yn cynorthwyo busnesau lleol i adnabod y cyfleoedd newydd yn sgil y faith eu bod yn rhan o ardal Biosffer cyntaf Cymru. Mae “Twristiaeth Gynaliadwy ym Miosffer Dyfi” yn canolbwyntio’n benodol ar y rhan Ogleddol o Geredigion, tref Aberystwyth ei hun a’r ardal wledig hyd at y ffin ger Machynlleth. Ariennir y prosiect drwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Dros gyfnod o ddwy flynedd bydd y cydlynydd a thîm o ymgynghorwyr arbenigol yn cydweithio’n agos â busnesau’r ardal i hyrwyddo amcanion Biosffer Dyfi UNESCO, y manteision yn sgil y dynodiad, a’r cymorth sydd ar gael i weithredu mewn modd cynaliadwy. Fel rhan o’r prosiect bydd cyfle i fusnesau dderbyn cymorth ymarferol i ymuno â chynllun achredu twristiaeth gwyrdd, y Green Tourism Business Scheme (GTBS), ynghyd â chlwstwr penodol i Ogledd Ceredigion. “Mae dynodiad Biosffer Dyfi i’r ardal yn gyffroes iawn, ac un o nodau’r Biosffer ydy annog cydweithio rhwng cymunedau er mwyn datblygu’r ardal yn economaidd, ar yr un pryd â chynnal a gwarchod ein treftadaeth diwylliannol ac amgylcheddol”, meddai Gwawr Davalan, Cydlynydd newydd y prosiect. Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i siarad gydag aelodau’r tim, cymryd rhan mewn sesiwn dan ofal cynrychiolydd o GTB, a thrafod y posibiliadau ar gyfer eich busnes. Cychwinir y digwyddiad am 10.15 ac yn gorffen dros ginio. Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth nifer o bartneriaid yn cynnwys Rheilffordd y Cambrian a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru (TPMW), a bydd cynrychiolaeth yn bresennol ar y diwrnod i gynnig eu gwasanaethau i fusnesau. “Mae twristiaeth gynaliadwy yn farchnad sy’n tyfu’n gyflym iawn ac mae cyfle gwych yma i fusnesau Gogledd Ceredigion wneud yn fawr o hynny. Yn ogystal â gweithio’n agos gyda busnesau sy’n darparu gwasanaeth i dwristiaeth bydd y prosiect yn ymchwilio i gyflenwyr bwyd a diod lleol, a chyfleoedd i gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal,” meddai Dee Reynolds, Cyfarwyddwr Strategaeth Rhanbarthool TPMW. Ychwanegodd Gwawr, “Ein bwriad ydy taflu’r rhwyd â mor eang â phosib ac mae croeso i funesau gysylltu â mi unrhyw bryd i archebu lle ar gyfer digwyddiad y 29ain neu gael sgwrs pellach am y cynllun ar 01654 703 965 neu gwawr@ecodyfi.org.uk.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||