Cyngor ynni adnewyddol dan un to |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cyngor ynni adnewyddol dan un toDaw cwmniau ac asiantaethau lleol at ei gilydd i gynorthwyo pobl a busnesau bach fanteisio ar ynni adnewyddol, pan ddaw Ffair Fasnach Ynni Ceredigion i Aberteifi ar 8 Hydref ac i Aberystwyth ar 22 Hydref. Bydd cyfle i holi arbenigwyr sy’n gosod a chyflenwi offer, heb oblygiad ac am ddim, yn ogystal â chael cyngor a gwybodaeth diduedd gan gyrff annibynnol. Cynhelir cyfres o weithdai byrion ar y cyd â’r ffair fasnach er mwyn amlygu pynciau fel cynigion llywodraethol, gan gynnwys y Tariff Cyflenwi Trydan. Bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys lansiad rhaglen Cyngor Sir Ceredigion i gynorthwyo mentrau meicro ennill arian o ynni adnewyddol. Bydd y rhaglen a elwir yn ‘Ynni i Ffynnu: Renewable energy for business growth’, yn darparu archwiliad ynni ar eu safle i ragor na 200 o fusnesau bychain. Fe fydd yr adroddiadau dilynol yn awgrymu atebion ynni adnewyddol addas er mwyn cynhyrchu incwm parhaol ar gyfer y busnesau dan sylw. Bydd yr adroddiadau hefyd yn amlygu ystod o fesurau arbed ynni a ellir eu mabwysiadau. Gan ddefnyddio cyllid o Raglen Datblygu Gwledig y Comisiwn Ewropeaidd trwy law Llywodraeth Cymru mae’r Cyngor wedi sicrhau gwasanaeth Asiantaeth Ynni Hafren Gwy i ddarparu cefnogaeth mewn partneriaeth â’r asiant cyflenwi lleol, ecodyfi. Dywedodd Mike Brain o Hafren Gwy, “Gyda’r cyflwyniad diweddar o Delerau Cyfrannu a’r Cymhelliad Gwres Adnewyddol, ni fu amser gwell erioed i fusnesau bychain Ceredigion, nid yn unig i leihau eu gwariant ar ynni ond yn ogystal i greu incwm hir dymor trwy gynhyrchu ynni ar eu safle”. Cynhelir y Ffair Ynni gyntaf yng Ngwesty Castell Malgwyn, Llechryd, ar ddydd Sadwrn, 8 Hydref ac yna yng Nghanolfan MedRus ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 22 Hydref. Bydd y digwyddiadau ar agor i’r cyhoedd o 11 yb. tan 4 yp. ac mae croeso cynnes i bawb. Ceir manylion y gwethdai o wefan y rhaglen ar www.ynni-i-ffynnu.co.uk a chan ecodyfi ar 01654 703965. Gwybodaeth ychwanegol:
Nodiadau i Olygyddion: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||