ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwyl Lusernau yn goleuo Machynlleth

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release4/10/2005

Lantern building girls- ond trist yw ffarwelio â Celtica

Nos Sadwrn gwelwyd gorymdaith o 400 o bobl, y mwyaf erioed, yn gorymdeithio ar hyd Heol Maengwyn, heibio i dwr enwog y cloc i'r Plas, gan oleuo'r strydoedd gyda llusernau trawiadol, a dod ag arian sydd ei angen yn fawr i mewn i'r dref.

Gwelwyd 200 o blant yn cludo llusernau, yn ogystal ag oedolion, yn gyfranogwyr a pherfformwyr, i gyd yn cael eu cyfarwyddo gan 50 o stiwardiaid, ac yn llenwi'r strydoedd gydag arddangosfa o lusernau wedi'u seilio ar y thema Amser.

Dewisodd y Cyfarwyddwyr Artistig y thema Amser, nid yn unig oherwydd arwyddocâd treigl amser a newid tymhorau oddi mewn i fytholeg dathlu'r Samhain Celtaidd, ond er mwyn hyrwyddo Cronfa Cloc y Dref hefyd.

Roedd y trefnyddion yn awyddus i gefnogi'r apêl gan fod angen atgyweirio Cloc y Dref ar frys.

Fodd bynnag, er bod elw'r digwyddiad wedi'i glustnodi ar gyfer yr apêl, mae'r arian yn dal yn brin - ond mae rhoddion yn dal i ddod i mewn.

Ariannwyd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 10 sesiwn a gynhaliwyd yn Celtica yn ystod yr wythnos flaenorol, gan Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Powys, yn ogystal â busnesau lleol.

Wedi iddynt gyrraedd tir y Plas mwynhaodd y dyrfa arddangosfa wedi'i choreograffu o dân yn troelli, ac a lwyfannwyd gan ieuenctid lleol talentog, ac arddangosfa dân gwyllt fendigedig gan Lightworks FX o Feifod.

Mynegodd Ecodyfi, trefnyddion y dathliad, eu diolch i bawb a fu'n gefnogol, gan gynnwys Celtica a'r staff, Mach Fringe, Equilibre, Kelvin Jenkins, Gemydd, Pwyllgor Carnifal Machynlleth, Cyngor Tref Machynlleth, I.G.Owen a Hennighan's Top Shop, Roustabout, Rob Hewitt-Smith, Alan Davies, Byrne Scaffolding, Major & Evans, Y Llew Gwyn, Gwesty'r Wynnstay a Blasau Delicatessen.

Roedd Ecodyfi'n arbennig o awyddus i gydnabod cyfraniad arlunwyr, gweithwyr a stiwardiaid gwirfoddol; "roedden nhw i gyd yn wirioneddol fendigedig - allen ni ddim bod wedi gofyn mwy!" meddai Teresa Walters.

"Hoffem nodi'r bwlch fydd yna o golli Celtica hefyd, os na ddaw rhywun i'r adwy - a gobeithio bod pawb bellach yn cydnabod arwyddocâd eu cyfraniad i'r gymuned a gweithgareddau diwylliannol yr ardal."

Ychwanegodd Teresa fod tua 500 o'r dorf o 2000 yn ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn yr ardal.

"Roedd gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar y stryd yn ystod y noson yn dangos fod y digwyddiad yn rhoi hwb sylweddol i economi'r ardal," meddai.

Am fwy o wybodaeth:

Teresa Walters, Ecodyfi 01654 703965

Samhain:

Samhain yw'r dathliad hynafol canol gaeaf Celtaidd sy'n edrych ymlaen at ddyddiau goleuach.

Mae'n nodi diwedd y flwyddyn Geltaidd, ac yn amser llawn ansicrwydd a newid.

Mae'r Samhain, neu'r 'cynhaeaf olaf' fel y gelwid ef weithiau, yn nodi dechrau'r gaeaf a dechrau'r flwyddyn newydd.

Mae'n amser llawn dirgelwch, a'r 'llen' rhwng y byd materol a'r byd ysbrydol ar ei theneuaf.

Ar y diwrnod hwn, yn ôl hen gred Geltaidd, dylem fyfyrio ar y pethau negyddol yn ein bywydau gan addunedu i'w gwella.

Mae hefyd yn amser i deuluoedd, i ddathlu bywydau ceraint a choffhau'r rhai sydd wedi'n gadael.

Am fwy o wybodaeth

Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965

Brig y dudalen