ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Pobl

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Tudalennau eraill yn yr adran hon

Cylchlythyr Mawrth 2005 ac adolygiad blynyddol ecodyfi 2004 [PDF 450kB]

Cylchlythyr mis Ionawr 2004

Cysylltwch â ni

Pobl

Cyfreithiol

Gwirfoddolwch am ecodyfi

Y bwrdd | Y Pwyllgor Rheoli | Yr Aelodau | Staff

(1) Y Bwrdd

Mae aelodau'r Bwrdd (Cyfarwyddwyr y Bartneriaeth) yn mynychu cyfarfodydd chwarterol ac yn gwneud y prif benderfyniadau am gyfeiriad ecodyfi. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn y dyffryn. [aelodau'r Bwrdd: Dogfen Excel, 60kB].

  • Tom Brown, Cadfarch

  • Aled Griffiths, Glantwymyn

  • Sioned Pugh, Glantwymyn

  • Martin Ashby, Glantwymyn

  • Paul Allen, Corris

  • Hugh D Jones, Glantwymyn

  • Charles Arch, Pennal

  • Nat Taplin, Corris

  • Gill Jones, Glantwymyn

  • Ursula Byrne, Ysguborycoed

  • Nicola Dunkley, Ceulanamaesmawr

  • Frances Voelcker

  • Andy Rowland, Machynlleth

  • Teresa Walters, Borth

(2) Y Pwyllgor Rheoli

Mae pwyllgor o chwech yn sicrhau bod polisi'r Bwrdd yn cael ei gweithredu ac yn rheoli prosiectau a'r staff:

  • Martin Ashby

  • Nicola Dunkley

  • Tom Brown

  • Gill Jones

  • Guy Pargeter

  • Märit Olsson.

(3) Yr Aelodau

Agorwyd cynllun aelodaeth ffurfiol ym Medi 2001. Mae dros 50 o unigolion a 14 o gyrff wedi ymuno hyd yn hyn, yn cynnwys 7 Cyngor Tref a Chymuned. Rhoddir gwybodaeth i'r aelodau trwy gylchlythyrau ysbeidiol, a thrwy gyswllt uniongyrchol ar unrhyw bwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddo.

Mae aelodau â diddordeb mewn twristiaeth yn dod yn aelodau o Twristiaeth Dyfi, cymdeithas dwristiaeth gynaladwy dyffryn Dyfi. £1 ydy'r ffi aelodaeth. A oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni?

(4) Staff

Andy Rowland, Swyddog Datblygu: bu'n ymwneud â'r bartneriaeth ers ei chychwyn ym 1997. Mae'n rheoli'r Prosiect Ynni Adnewyddol Cymunedol yn uniongyrchol ac yn cyd gysylltu gwaith ychwanegol. Wedi ei addysgu'n wreiddiol fel botanegydd amaethyddol, treuliodd ychydig amser yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynys-las cyn trefnu Prosiect Gweithredu Cymunedol ar ran Bwrdd Datblygu Cymru Wledig (gynt). Gweithiodd am 14 blynedd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, gyda chyfrifoldebau am fân werthu, rheoli safle, addysg, marchnata a rheolaeth.

Teresa Walters, Swyddog Ardal Twf Twristiaeth Bro Ddyfi: wedi gweithio i bartneriaeth ecodyfi ers Mehefin 2001. Yn flaenorol bu'n gweithio yn adran aelodaeth y Ganolfan Dechnoleg Amgen, fel athrawes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ble derbyniodd ei PhD., ac ar ei liwt ei hun fel ysgrifennydd copi. Mae ei gwaith yn ecodyfi ynnwys sefydlu Twristiaeth Dyfi Tourism, cymdeithas dwristiaeth gynaladwy y dyffryn a hybu'r dyffryn fel cyrchfan twristiaeth werdd.

Mae staff a gwirfoddolwyr eraill, ac yr ydym wastad yn barod i groesawu mwy. Gweler tudalen Cysylltwch â ni os am wybod mwy amdanom!

Brig y dudalen