Mae
cynllunwyr yng Nghyngor Sir Powys wedi ennill gwobr glodfawr am eu hymrwymiad
i ddatblygu egni cynaladwy yng nghanolbarth Cymru
Yn ddiweddar enillodd yr awdurdod Gwobr St George
am Gynllunio Am Gynaladwyedd yng Ngwobrau'r Royal Town Planning Institute
(RTPI) 2002. Mae'r wobr yn cydnabod sut mae'r Cyngor wedi delio gyda materion
newid tymheredd ar lefel leol a sut maen nhw wedi gweithredu i ddatblygu
egni cynaladwy.
Mae'r awdurdod yn gyfrifol am weithio gyda chyrff
eraill i sefydlu Partneriaeth Ynni Adnewyddol Powys sydd erbyn hyn yn
cynnwys Asiantaeth Ynni Powys, Ecodyfi, Awdurdod Datblygu Cymru a Wales
OPET Cymru gyda'r Comisiwn Coedwigaeth erbyn hyn yn ymwneud yn agos gyda'r
datblygiadau sydd ar droed.
Sefydlwyd Asiantaeth Ynni Powys ac Ecodyfi gan
yr Awdurdod, a osododd y sylfeini cynnar ac a sicrhaodd nawdd i ddatblygu
dulliau ynni adnewyddol ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd John Thompson, cadeirydd
Bwrdd Ynni Powys ac Aelod Portffolio: "Roeddwn yn teimlo'n falch iawn
o dderbyn y wobr hon ar ran Cyngor Sir Powys. Mae'r wobr yn dangos ein
bod yn symud yn y cyfeiriad iawn o ran gwarchod yr amgylchedd a'n bod
erbyn hyn wedi'n sefydlu'n bendant ar y map cynaladwyedd.î
"Hoffwn dalu teyrnged i'r staff am eu dyfalbarhad
a'u gwaith caled y tu �l i'r cynlluniau hyn ac am wneud y wobr hon yn
bosibl."
Dywedodd John Billingham, Cadeirydd Panel Beirniadu'r
RTPI: "Rydym yn gweld y prosiect hwn gan y Bartneriaeth Dyffryn Eco Dyfi
fel mynegiant ymarferol o gyrraedd cymdeithas sy'n ymwybodol o ynni ar
lefel leol, sy'n mynd i wneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd yr ydym yn ffynonnellu
a defnyddio ynniî.
"Mae yma nifer o wersi ar gyfer cymunedau gwledig
tebyg mewn llefydd eraill, yn ogystal ag i ardaloedd trefol difreintiedig.
Mae prosiectau o'r fath yn cynrychioli grym pwysig i newid y modd yr ydym
yn defnyddio ffynonellau ynni prin yn lleol, ac mae ganddynt oblygiadau
pwysig i'r byd ehangach yr ydym yn rhan ohono."
Cyngor Sir Powys oedd yr awdurdod cyntaf yn y DU
i ymuno � Phartneriaeth Ynni Adnewyddol y Gymuned Ewropeaidd ym mis Gorffennaf
2001 ac enillodd gystadleuaeth 'Campaign for Take Off' (CTO) "100% Communities
Rural" CTO yr Undeb Ewropeaidd lle derbyniodd Andy Rowland o Ecodyfi y
wobr ar ran yr asiantaeth yn Salamanca, Sbaen, y llynedd.
Nodiadau i Olygyddion
Llun (Rhes Flaen ch-dd) Cadeirydd Cyngor Sir Powys,
Cyng Gwilym Evans; Cadeirydd Bwrdd Ynni Powys Cyng John Thompson; Rhes
ganol (ch-dd) Karen Latham o Awdurdod Datblygu Cymru; Andy Rowland o Ecodyfi;
Dilwyn Pearce o Asiantaeth Ynni Powys; Rhes Gefn (ch-dd) Cyng David Evans;
Sally Tansey o'r Comisiwn Coedwigaeth; Andy Bull, Prif Swyddog Polisi
(Gwasanaethau Cefn Gwlad)
|