ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ymunwch â'n prawf clytiau go iawn

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Mother and child with real nappy onYmunwch â phrawf clytiau go iawn ecodyfi, gan arbed arian a lleihau ein sbwriel.

Mae ecodyfi yn estyn gwahoddiad i bump o deuluoedd yn byw yn Nyffryn Dyfi i roi prawf ar set o 'Glytiau Go Iawn'.

Mae clytiau go iawn yn olchadwy, yn braf i'w gwisgo, yn ffasiynol ac yn gyfoes o'u cymharu â chlytiau tafladwy, a byddant yn arbed arian i chi ac yn lleihau sbwriel.

Bydd y cynllun yn ategu lansio ymgyrchoedd clytiau go iawn yn ddiweddar gan gyngor Powys a chan gyngor Ceredigion.

Bydd ecodyfi, gyda nawdd Amgylchedd Cymru, yn darparu set gyflawn o glytiau go iawn a chymorth gwirfoddolwyr gyda phrofiad o'r clytiau drwy gydol y prawf, fydd yn para blwyddyn.

Nod ecodyfi yw amlygu effeithiolrwydd clytiau go iawn o ran arbed arian, lleihau sbwriel a gwneud eich babi'n gysurus.

Dangosodd profion blaenorol bod defnyddio clytiau golchadwy, dros gyfnod o rai blynyddoedd, lawer yn rhatach na phrynu rhai tafladwy ac y gall gymryd 500 mlynedd i un clwt tafladwy ddadelfennu mewn claddfa sbwriel.

Beth fyddwn yn ei ddisgwyl gan y teuluoedd fydd yn cymryd rhan?

  • Bydd gofyn i chi fod yn byw yn Nyffryn Dyfi.

  • Bydd angen i chi fod â chyfleusterau golchi clytiau o fewn eich cyrraedd.

  • Bydd angen i chi fod yn fodlon i adroddiadau o'ch profiadau gael eu rhoi i bapurau newydd a chylchgronau lleol a chenedlaethol

  • Bydd angen i chi fod â phlentyn sydd eisoes yn defnyddio clytiau tafladwy, neu fod yn disgwyl geni eich plentyn ym mis Mehefin neu Orffennaf

Os ydych yn ystyried ymuno â'r ymgyrch neu ond am gael rhagor o wybodaeth am glytiau go iawn, ffoniwch Tom O'Kane yn ecodyfi ar 01654 703 965.

Neu islwytho'r ffurflen gais [dogfen Word, 440kB] a'i dychwelyd.

 

Brig y dudalen