Pwy s'yn ddod?

Mae croeso i bawb - a dewch â ffrind efo chi!

Gall unrhyw un o Fro Ddyfi ymuno â ni - ac mae'r gweithgareddau bron bob amser am ddim.

Fe fyddwn ni yn eich helpu!

woodland conservation workshop - clearing saplings with Mentro Allan

Weithiau gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth ychwanegol i rieni gyda phlant ieuainc, pobl ieuainc o 11-25, a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae croeso arbennig i bobl o wardiau Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair. A pheidiwch â phoeni os nad ydych yn heini iawn ar hyn o bryd - neu erioed wedi bod!

Dim cinio am ddim?

Mae Mentro Allan hefyd yn brosiect ymchwil i Gymru gyfan, wedi'i llunio i ddarganfod (a dileu, gobeithio!) y rhwystrau i bobl fod yn actif yn yr awyr agored. Felly, byddwn, mi fyddwn ni'n awyddus i'ch cynnwys chi yn yr ymchwil. Ond mae'n hawdd: pan fyddwch yn ymuno â'r rhaglen ar y dechrau, byddwn yn gweld beth rydych chi am ei wneud, ac yn gofyn am fanylion cysylltu â chi. Wedyn, a phob 6 mis ar ôl hynny, byddwn yn nodi pa weithgareddau rydych chi wedi bod yn eu gwneud, ac a ydych yn eu mwynhau.


Ty Bro Ddyfi
52 Heol Maengwyn
Machynlleth
Powys SY20 8DT,
01654 703965
mentro.allan@ecodyfi.org.uk


ecodyfi

Countryside Council for Wales

National Lottery funded