Am fod yn Actif yn yr Awyr Agored efo ni?
Gallai bod yn Actif yn yr Awyr Agored olygu:
- Rhoi cynnig ar bethau newydd
- Gwneud ffrindiau newydd
- Darganfod eich ardal leol
- Teimlo’n fwy heini, yn iachach, yn hapusach
- Archwilio’r wlad yn ddiogel – efallai efo’ch plant
Rhai o’r pethau y gallwch roi cynnig arnynt:
...a pha beth bynnag arall rydych chi a phobl eraill sy’n ymuno â ni eisiau ei wneud yn yr awyr agored! Gofynnwch am ein rhaglen sy’n cael ei diweddaru’n gyson.

Cerdded
- Lefel dechreuwr oni nodir yn wahanol – fel arfer awr neu ddwy ar gyflymdra sy’n eich siwtio chi!
- Cofiwch wisgo esgidiau cryf a dewch â bwyd/diod, dillad glaw ac eli haul fel bo’r angen
- Mae Teithiau yn y Gymraeg ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac unrhyw un arall fyddai’n hoffi clywed ychydig o Gymraeg yn cael ei siarad – ond gallwch siarad pa bynnag iaith a fynnoch!!

Ewch ati i Dyfu
- Lefel dechreuwr
- Cwrs ymarferol 10 wythnos bob yn ail Ddydd Mawrth
- Dechrau yn Ynyslas Mawrth 18, Pantperthog Mawrth 25
- Yn cynnwys tyfu llysiau organig a garddio bywyd gwyllt
- Rhannu llain fechan a chynhaeaf
- Tystysgrif presenoldeb
- Gellir dilyn y cwrs ar-lein
- Cofiwch ddod â chinio, dillad glaw, menig, wellingtons, eli haul fel bo’r angen
- Gwisgwch hen ddillad

Cadwraeth
- Lefel dechreuwr
- I gynnwys datblygu sgiliau a gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol
- Cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned
- Cofiwch ddod â chinio, dillad glaw, menig, wellingtons, eli haul fel bo’r angen
brig
top

Ioga + Cerdded i ferched beichiog
- Gwisgwch rywbeth llac a dewch â blanced efo chi
- Byddwn yn gwneud rhai o’r ymarferiadau yn yr awyr agored/li>
- Efallai ei bod yn bosibl cael lle rhad ac am ddim mewn meithrinfa
- Rhad ac am ddim!
- Te, coffi ayb i’w cael - hwyrach yr hoffech gyfrannu 50c tuag ato
- Dewch am dro byr y tu allan

Cerdded efo Bygi
- Dan arweiniad tywyswyr cerdded hyfforddedig
- Esgidiau cryf, synhwyrol
- Dewch â dillad glaw, diod a bwyd i’ch baban, yn ogystal ag eli haul
Sgiliau Coedwig
- Cwrs datblygiadol gydag arweinwyr cymwys
- Gwisgwch hen ddillad
- Dewch ag esgidiau cryf, synhwyrol
- Dewch â dillad glaw, diod a bwyd i’ch baban, yn ogystal ag eli haul

Beicio
- Amseroedd gwahanol ar gyfer gwahanol lefelau
- Dim angen ffitrwydd
- Gallwn eich dysgu i feicio neu eich helpu i gofio sut mae gwneud
- Mae gennym 6 beic y gallech eu benthyca – ond bydd rhaid i chi eu llogi!!
- Dewch i’r sesiwn cynnal a chadw i ddechrau i ni gael golwg ar eich beic!
top

Clwb Craig ac Afon
- Gall gweithgareddau gynnwys hwylio, cerdded, cerdded ceunentydd, caiacio, dringo, beicio mynydd, adeiladu rafft
- Ar gyfer pobl ifanc a’u gwarchodwyr/rhieni
- Dewch â bwyd/diod
- Darperir y rhan fwyaf o’r offer
- Casglu o Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi
- 8 Wythnos o Ebrill 6
- Rhaid cadw lle! Cysylltwch â Staylittle Outdoor Centre: 01686 430630 neu staylitt@powys.gov.uk

Sgiliau Goroesi
- Gwneud tân
- Gwneud lloches
- Crefft gwersyll
- Bwyd a chwilio am fwyd gwyllt
- Gemau
- Gwersyll dros nos
Gofynnwch am ein rhaglen sy’n cael ei diweddaru’n gyson, neu ei lawrlwytho yma:
Rhaglen Mentro Allan [PDF] | Rhaglen Mentro Allan [Dogfen Word]
top