Gerddi Bro Ddyfi Gardens - yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i ddatblygu'r ardd therapiwtig gymunedol yn Y Plas, yn ogystal â grwpiau fyddai'n hoffi bod yn rhan o'r gwaith e.e. creu eich gwely blodau eich hunan
Gerddi Cymunedol Y Borth - lleiniau llysiau/blodau ac ardal gardd gymunedol. Mae lleiniau ar gael i unrhyw un yn ardal Y Borth gyda llawer o gefnogaeth a rhannu gyda garddwyr eraill
Clwb Mynydda'r Darren - clwb annibynnol i gerddwyr/dringwyr, yn cwrdd yn y Wynnstay, Machynlleth, am 7.30 bob nos Iau gyntaf yn y mis. Gweler Clwb Mynydda'r Darren / Tarren Mountain Club ar Facebook
Clwb Dringwyr Dyfi - yn cwrdd ar Ddydd Llun unwaith bob pythefnos yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi yn ogystal â theithiau rheolaidd. Cysylltwch â Pete Rigby, Canolfan Fynydda Ty'n y Berth 01654 761678 : peter.tynyberth@widehorizons.org.uk
Addysg Allanol Bro Ddyfi Outside Education - grŵp teuluol ysgol goedwig ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, cyn-ysgol a theuluoedd ar eu gwyliau sy'n dymuno bod yn actif yn yr awyr agored a dysgu am yr amgylchedd. Cysylltwch â Chair Seren ar serenwestermann@live.co.uk.
Buom yn gweithio hefyd gyda Chlwb Ieuenctid Machynlleth a Fforwm Ieuenctid Bro Ddyfi, gwasanaethau ieuenctid a phrosiectau lleol eraill er mwyn datblygu gweithgareddau i bobl ifanc yn Y Plas. Os hoffech ymuno:
...cysylltwch â Cathy Evans. Ffôn: 07821 259036
Ac rydyn ni'n rhoi rhaglen o weithgareddau i bobl ifanc at ei gilydd ar gyfer Haf 2009. Edrychwch ar y gweithgareddau ar ein gwefan ac ar Facebook: Pethau i'w gwneud yn Nyffryn Dyfi/Things to do in the Dyfi Valley
Gofynnwch am ein rhaglen sy’n cael ei diweddaru’n gyson, neu ei lawrlwytho yma:
Rhaglen Mentro Allan [PDF] | Rhaglen Mentro Allan [Dogfen Word]