ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

 

Cylchlythyr Mis Medi 2003

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Community Land
Mentro Allan (Venture Out)
Dyfi Footprint Project
Transport
Tourism
Energy
Waste
Fair Trade
Biosffer Dyfi Biosphere
Communities First
Lifelong learning

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Cyfarchion!

Ymddiheuriadau mawr os nad ydych wedi derbyn gair gennym ers tro. Rydym bellach yn llwyddo'n well i hysbysu'r gymuned yn gyffredinol o'r hyn yr ydym yn ei wneud (drwy gyfrwng papurau newydd a'r wefan) a gyda chysylltiadau o fewn gwaith y Grwpiau Gweithredu, ond ddim yn cysylltu'n rheolaidd â rhai o'n haelodau. Bydd rhaid newid hyn!

Andy Rowland, Trefnydd

Dyma ychydig o ddigwyddiadau:

line

Noson Cefnogi Merched Busnes

Nos Fawrth Medi 23ain; 6yh, 9.30 yn Celtica, Machynlleth

Rhaid sicrhau lle: Chwarae Teg 01597 826421.

line

Garddwriaeth leol?

Nos Fercher Medi 24ain; 7.30 yn Nhy Bro Ddyfi

Rydym am gael llysiau ffres o ansawdd da ond mae pris i w dalu am eu cludo, gennym ni â'r amgylchedd. Beth am i ni eu tyfu yma a chadw'r arian ar waith yn lleol!

Bwriedir y cyfarfod ar gyfer tyfwyr posib. Beth yw'r rhwystrau sy'n wynebu garddwriaeth fasnachol? Sut y gellwn leihau'r rhwystrau hyn? Bydd siaradwr o Glasu yn trafod Amaethyddiaeth â Chefnogaeth Gymunedol.

line

'Strategaethau ar gyfer lleihau gwastraff yn Nyffryn Dyfi'

Nos Lun Medi 29ain; 7.30yh yn y Llew Gwyn Machynlleth

Ers mis Ionawr bu Tom O'Kane yn gweithio gydag ecodyfi ar leihau gwastraff. Ochr yn ochr ag ef, bu Kestrel Maranta yn datblygu ei chynllun i sefydlu casgliadau gwastraff y gegin unswydd ar gyfer cartrefi Machynlleth. Ein gobaith yw medru creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi gan leihau maint y defnyddiau a waredir mewn claddfeydd sbwriel.

Trefnwyd cyfarfod i roi gwybod i chi sut mae'r cynlluniau'n datblygu, i geisio arweiniad ar y gwaith y byddwn yn ei wneud a sut y dylai gyd-fynd â chynlluniau eraill. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer unrhyw un sydd am gymryd rhan. Byddwn yn eich gwahodd i drafod y pynciau canlynol;

  • Pa feysydd gwastraff yw'r rhai allweddol yn y dyffryn?

  • Pa waith sy'n digwydd ar hyn o bryd i leihau gwastraff - a phwy sydd wrthi?

  • Beth mae ecodyfi yn ei wneud?

  • Sut ydych chi'n credu y gallasai'r gwaith ar leihau gwastraff ddatblygu?

line

Dim Band Llydan - Pam?

Nos Fawrth Medi 30ain; 6yh yn y Llew Gwyn, Machynlleth

Un mewn cyfres o gyfarfodydd cynllunio i sicrhau cyrchiad rhyngrwyd cyflym a 'wastad ymlaen' ar gyfer Dyffryn Dyfi. Cf prbroadband.htm.

line

Diogelwch Cymunedol

Nos Fercher Hydref 1af; 7.30yh yn Ysgol Uwchradd Machynlleth

Cyfarfod agored y Fforwm Lleol. Siaradwyr o'r heddlu a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys.

Mae'r Fforwm yn fodd i'r gymuned ddweud wrth yr awdurdodau cyhoeddus beth ddylai fod yn flaenoriaeth iddynt yn ein hardal. Mae'n gweithio ar y cyd ag ecodyfi, Cynghorau Cymuned a Thref a Chymunedau'n Gyntaf er mwyn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y dyffryn. Darperir y Swyddfa ar ei gyfer gan ecodyfi. Dewch i roi help llaw!

line

Gweithgareddau i'r plant

Pnawn Sadwrn Hydref 11eg: 2 - 4 o'r gloch ar dir y Plas

Gweithgaredd gan Werin y Coed wedi'i drefnu ar gyfer pawb, ac yn bennaf plant 7 i 16 oed gyda rhiant neu ofalwr.

line

Dysgu Gydol Oes

Nos Fercher Hydref 15ed; 7.30 yh yn y Ganolfan Gymunedol, Abertwymyn

Cyfarfod agored y Fforwm Lleol. Siaradwyr o Hyfforddi Powys a Chyngor Sir Powys.

line

Does dim rhaid i chi fynychu cyfarfodydd cofiwch!

Rhowch wybod i ni os yw'n well gennych ddarparu cymorth ymarferol, efallai drwy ddosbarthu taflenni, cludo poteli plastig neu helpu gyda'r Ganolfan Wybodaeth ac ati. A phe baech yn nodi diddordeb penodol, gallem geisio sicrhau y byddwch yn derbyn unrhyw newyddion!

Gwaith yn Nhalybont

Mae'r Cyngor Cymuned ac ecodyfi'n asesu'r galw sydd am weithdai neu swyddfeydd yn Nhalybont.

Cyfrifiaduron

Un modd o gael gwybod beth sy'n digwydd yw darllen adrannau Newyddion a Chynlluniau ein gwefan. Nodwch y dudalen ar eich cyfrifiadur yn awr! local.htm

Mae yma gyfoeth o wybodaeth am deithio, y tywydd yn ogystal â materion lleol eraill.

Cewch ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn Llyfrgell Machynlleth yn rhad ac am ddim os nad oes un gennych gartref. A byddai Barbara yn y Telecentre (uwchlaw swyddfa'r Cyngor, 20 Heol Maengwyn - ff�n: 01654 703911) yn falch o gael dangos sut mae gwneud.

Mae angen dau i gyfathrebu, wrth reswm! Byddwn yn falch o dderbyn awgrymiadau! Fyddech chi'n debygol o ddefnyddio cylch trafod neu Hysbysfwrdd ar y wefan?

Os yr anfonwyd hwn drwy'r post a chithau'n fodlon derbyn fersiwn electronig, rhowch wybod i ni eich cyfeiriad ebost.

'Datblygu busnes'

Dydd Llun Medi 29ain; 12 - 6yh yn Neuadd y Pentref Talybont

Digwyddiad agored i gyfarfod ymgynghorwyr, trafod posibiliadau a defnyddio gwasanaethau busnes.

'Oes angen mwy o lefydd gwaith ar y gymuned yn Nhalybont?'

Nos Lun Medi 29ain; 6.30 - 8yh yn Neuadd y Pentref Talybont

Cyfarfod cyhoeddus i fwrw golwg ar ychydig o syniadau.

Cyfle gwaith: arolygon

Mae Dyffryn Dyfi yn destun ymchwil: Pa resymau sydd fod rhai cymunedau'n gynaliadwy? (o ran ynni). Cysylltwch â ni yn awr os â diddordeb mewn cynnal cyfweliadau ar y stryd i ddechrau Medi 25ain. Taliadau ar gael.