ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cyfle busnes?

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Hoffech chi fod yn rhan o gynllun i sefydlu golchdy masnachol i wasanaethu Dyffryn Dyfi?

Mae gwestywr lleol wedi dwyn cyfle busnes i sylw ecodyfi. Bydd ei fusnes ef a rhai cyffelyb yn gwario llawer o arian yn flynyddol ar wasanaethau cwmnau golchi yng Ngogledd Cymru a Swydd Amwythig.

Does bosib y gallwn rywsut rwystro'rï holl arian yma rhag gadael yr economi lleol drwy olchi dillad gwely a llieiniau yn lleol?

Pe bai un neu ddau o bobl am greu swyddi i'w hunain drwy sefydlu menter gymunedol, gallai ecodyfi fwy na thebyg sicrhau peth arian ar gyfer astudiaeth dichonoldeb gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Byddai hyn yn fodd posib o astudio materion megis adeilad, costau, maint y farchnad, rheolaeth a phroffidioldeb. Gallai cwmni cydweithredol annibynnol neu is-gwmni i ecodyfi ddeillio o hyn.

Neu hwyrach y bydd mentrydd lleol am fabwysiadu'r syniad a bwrw iddi ar ei liwt ei hun.

Naill ffordd, byddai'n lleihau cludiant dillad golchi. Ac o ddewis adeilad ac offer golchi sy'n defnyddio dwr ac ynni yn ddiwastraff hefyd, byddai'n rhoi gwarchodaeth ychwanegol i'r amgylchedd yn ogystal â chryfhau'r economi lleol.

Cysylltwch â ni os am gyngor!