Beth sy'n gwneud Muriel, bin yr ysgol, mor sâl? A oes a wnelo hyn rywbeth â'r holl sbwriel mae'n gorfod ei fwyta?
Mae'r bachgen ysgol anturus, Rhys, yn benderfynol o gael gwybod beth yw'r achos, gan gyfarfod ei hen ffrindiau, Timothy Betterbean a Disco Diva.
Mae'r sioe hon yn gynhyrchiad gan 'Pypedau Vagabondi Puppets' ar y cyd ag Owen Glynne-Davies (Cwmni Cortyn), Tony Heales (Living Daylights) a Hayley Tresize (Earthlinz). Gyda cherddoriaeth gan Ros Hudis ac Owen Glynne-Davies.
Fe'i cefnogir gan Ecodyfi, gyda'r deunydd gweithdy ychwanegol wedi'i baratoi gan Greenegg.
Mae 'Beth sy'n bod ar Muriel Sbwriel' ar gael yn Gymraeg, Saesneg, neu'n ddwyieithog.
Os ydych chi'n chwilio am ychydig o hud a lledrith, gyda digonedd o adrodd straeon gwerth eu clywed, llond lle o waith pypedau amrywiol a medrus, ynghyd â llwyth o brofiadau hwyliog a chyffrous, gyda hyn i gyd yn gymysg â chredoau cryf a llaw gadarn, nid oes rhaid i chi fynd ymhellach na Phypedau Vagabondi Puppets.
Yr ydym yn theatr bypedau broffesiynol sy'n darparu adloniant, addysg ac ysbrydoliaeth ar hyd a lled y bydysawd, (ond Cymru a Lloegr yn bennaf). Yr ydym yn gweithio a chwarae gyda phob math o bobl, hen ac ifanc, ac mewn pob math o sefyllfaoedd.
O amgueddfa Caerdydd i Gwyl Caeredin, o Gwyl Gelfyddydau Wrecsam i Lyfrgelloedd Rhondda-Cynon-Taf.
Ein nod yw creu gofod sy'n rhyddhau'r dychymyg, lle gall mynegiant ffynnu a lle gall pypedau, barddoniaeth a chwarae fod yn ddylanwadau positif yn y gymuned.
Prif gynhwysion y cawl creadigol hwn yw Jo Munton a Suzy Kemp.
Ond gall artistiaid, actorion, pypedwyr, dawnswyr, athrawon, cerddorion neu fagabondiau eraill ffrwtian i'r wyneb ar unrhyw adeg.
Pypedau Vagabondi Puppets
Uned 2, Unedau'r Goedwig, Ceinws, Machynlleth, Powys, SY20 9HA
Suzy Kemp: mob. 07985 233281
Jo Munton: mob. 07779 893412
ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
ffôn: 01654 703965
email us