y bin hapus

Croeso i Brosiect Y Bin Hapus


Mae e wedi ei gynllunio ar gyfer plant 8 oed i delio â phroblemau amgylcheddol.

Mae prosiect Y Bin Hapus wedi ei gynllunio i blant 8 oed Cyfnod Allweddol 2 mewn ysgolion cynradd yn y Deyrnas Unedig. Mae'n defnyddio'r cwricwlwm presennol mewn ffordd creadigol ag artistig i ddelio â phroblemau amgylcheddol e.e, beth rydym yn gwneud gyda'n gwastraff.

Defnyddio sioeau pypedau proffesiynol i ysgogi disgyblion

Gan ddefnyddio pypedau, mae prosiect Y Bin Hapus yn cyflwyno plant i'r broblemau o waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi neu drwy eu llosgi. Mae'n atgoffa'r plant o'r posibiliadau o ail-ddefnyddio ag ailgylchu ond yn bwysicach na hynny, mae'n datblygu'r thema ym mhellach. Mae'n dangos i blant y potensial o leihau gwastraff a'u wrthod gyda gweithred positif y gymdeithas.

Defnyddio'r rhyngrwyd i fonitro datblygiadau ac i rannu syniadau.


Am chwech wythnos ar ôl y sioe pypedau, fel rhan o'r cwricwlwm gwyddoniaeth, llenyddiaeth, mathamateg, cyfrifiaduron a chelf creadigol, bydd y plant yn gweithio trwy gyfres o wersi gysylltiedig. Bydd y gwersi yn helpu'r plant i ddeall rhai o'r broblemau amgylcheddol mae gwastraff yn achosi ag i annog nhw i ystyried syniadau am sut i leihau a gwrthod y gwastraff.

Hefyd, bob wythnos mae'r plant yn casglu a phwyso y gwastraff mae'r ysgol yn creu ag ebostio'r canlyniadau i'r gwefan. Bydd cyfanswm y gwastraff ar gyfer pob ysgol a phob disgybl yn dangos ar y gwefan.


Clicia ar:

  • Enw'r ysgol i weld ei perfformiad wythnosol
  • Ffigurau wythnosol sy'n cymharu'r perfformiad o'r ysgolion sy'n cymryd rhan

Rydym yn gobeithio bod yr ysgogiad o ebostio a chyhoeddi canlyniadau o bwysau gwastraff wythnosol eu ysgolion yn annog y disgyblion i leihau y swm o wastraff sy'n cael eu anfon i safleoedd tirlenwi

Bydd y plant hefyd yn gallu rhannu eu "syniadau da am leihau gwastraff" a'u "problemau wrth leihau gwastraff" gyda disgyblion o fewn ysgolion arall sy'n cymryd rhan trwy'r negesfwrdd diogel ar y gwefan.

Darparu hyfforddiant i athrawon a darparu adnoddau addas i sicrhau gynaladwyedd tymor hir.

Mae prosiect Y Bin Hapus wedi ei gynllunio gan athrawon sydd yn gwybod beth gall ei gyflawni yn ymarferol mewn dosbarth. Mae staff yr ysgolion hefyd wedi bod trwy hyfforddiant am sut i weithredu prosiect arbennig.

Mae athrawon wedi cael eu darparu gydag adnoddau ychwanegol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cwricwlwm presennol, felly bydd y gwybodaeth yn cael ei pasio ymlaen i grwpiau wyth oed y flwyddyn ddilynol.


Y dyfodol

Mae Ecodyfi yn rheoli'r ochr ariannol ag yn monitro pob cam o'r brosiect. Unwaith bydd y prosiect wedi ei arbrofi a datblygu mewn ysgolion lleol mae ecodyfi yn gobeithio y gall mynd at ysgolion y tu allan i'r ardal.

Bydd mwyafrif o'r gost datblygu wedi ei gwrdd gan y brosiect ei hun ag mi fydd yn darparu lefel o gyflogaeth gynaladwy i grwp o bobl lleol.







ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
ffôn: 01654 703965

email us


Sbwriel Muriel a'r Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi