y bin hapus

Croeso i Brosiect y Bin Hapus

Mae'r fersiwn diweddar o'r cynllun lleihau gwastraff unigryw yma yn cymryd lle mewn un ar bymtheg o ysgolion yn ardal Llandrindod/Brycheiniog ym Mhowys.

Mae'r cynllun sydd hefyd yn helpu disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o natur ag hefyd yr effaith mae eu ôl-troed carbon yn rhedeg o ddechrau mis Mawrth hyd at mis Mai 2007.

Bydd ysgolion yn cofnodi a phwyso eu gwastraff yn ystod y cyfnod yma a bydd y canlyniadau yn cael eu dangos mewn ffurf graff ar y safle yma.

Darllenwch Mwy am y prosiect i ddarganfod sut mae'n gweithio.

Mae'r cynllun ar hyn o bryd wedi ei sefydlu o amgylch dau gynllun blaenorol. Y cynllun peilot a Chynllun Gogledd Powys â oedd gyda 20 ysgol wedi cymryd rhan i gyd. Roedd rhan fwyaf o'r ysgolion yma wedi llwyddo i leihau eu gwastraff. Ar gyfartaledd roedd yr ysgolion wedi llwyddo i leihau mwy na 50% o'u gwastraff.

Defnyddiwch y linciau uchod i edrych o gwmpas ein safle. Wedyn, ymwelwch â'r safle yn reolaidd yn ystod y prosiect i weld datblygiad yr ysgolion tuag at SERO GWASTRAFF.

Mae'r cynllun yma yn cael ei hariannu gan Glasu, Cyngor Sir Powys, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Undeb Ewropeaidd LEADER+.



ecodyfi ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
ffôn: 01654 703965

email us


Sbwriel Muriel a'r Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi