y bin hapus

Sut mae'r prosiect yn gweithio


Mae prosiect y Bin Hapus wedi ei ddylunio ar gyfer disgybion Cyfnod Allweddol 2 yn ysgolion cynradd y Deyrnas Unedig. Mae'n defnyddio'r cwriciwlwm presennol mewn ffordd creadigol i drafod dau broblem amgylcheddol cyfoes:

  1. Gallwn ni neud rhywbeth ymarferol yn yr ysgol i leihau ein ôl-troed carbon?
  2. Beth gallwn ni neud gyda'n gwastraff?


Y Sioe Pypedau

Mae'r brosiect yn cychwyn gyda sioe pypedau proffesiynol gan Pypedau Vagabondi, er mwyn ysbrydoli'r disgyblion.

Mae'r pypedau yn cyflwyno'r plant i'r problemau o waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi. Mae'r sioe yn atgoffa plant o'r posibiliadau o ail-ddefnyddio ag ailgylchu ond yn bwysicach na hynny, mae'n datblygu'r thema ym mhellach. Mae'n dangos i'r plant y potensial o leihau a gwrthod gwastraff gyda chydweithrediad positif y gymuned.

Gweithgareddau yn y dosbarth a cofnodi'r gwastraff ar y wê

Am chwech wythnos, yn dilyn y sioe pypedau, fel rhan o'r cwricwlwm gwyddoniaeth, llenyddiaeth, mathamateg, technoleg gwybodaeth ag arlunio creadigol, bydd y plant yn gweithio trwy gyfres o ddeuddeg gwers sydd wedi eu pharatoi yn broffesiynol gan y prosiect.

Bydd y gwersi yma yn helpu'r plant i ddeall rhai o'r problemau amgylcheddol sydd wedi eu greu o ganlyniad y gwastraff rydym yn creu ac yn eu hannog i archwilio syniadau o sut i leihau a gwrthod y gwastraff.

Yn ychwanegol, bob wythnos bydd y plant yn casglu a phwyso'r gwastraff mae'r ysgol yn cynhyrchu a wedyn ebostio'r canlyniadau i'r gwefan. Bydd cyfanswm y gwastraff sy'n cael eu greu gan pob ysgol a'r gwastraff sy'n cael eu greu gan pob disgybl yn cael eu ddangos ar y gwefan yma.


Cliciwch ar:

  • Enw'r ysgol i weld eu perfformiad wythnosol
  • Y ffigurau wythnosol sy'n cymharu ymdrechion yr ysgolion arall sy'n cymryd rhan.

Rydym yn gwybod o brofiad bod yr ysgogiad o ebostio a chyhoeddu canlyniadau pwysau gwastraff eu hysgolion yn annog y disgyblion i leihau eu cyfraniad i'r safle tirlenwi.

I ddatblygu "sgiliau bwrdeisiaeth" mae'r plant hefyd yn rhannu eu "syniadau da am leihau gwastraff" a'u "problemau wrth leihau gwasraff" gyda disgyblion arall mewn ysgolion sy'n cymryd rhan trwy'r negesfwrdd diogel sydd ar y gwefan.

Hyfforddiant i'r athrawon

Mae prosiect y Bin Hapus wedi cael ei gynllunio gan athrawon sydd â ymwybyddiaeth am beth gall cael eu gyflawni yn ymarferol yn y dosbarth. Mae hyfforddiant wedi cael eu ddarparu i staff yr ysgolion eisioes yn y Ganolfan Technoleg Amgen am sut mae'r prosiect yn gweithio,


Y dyfodol

Mae ecodyfi yn rheoli'r ochr ariannol a'r gwerthusiad o gwahanol camau y prosiect.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn datblygu'r prosiect yn unai eich ysgol neu'ch ardal, plis cysylltwch â un o'r canlynol:



ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
ffôn: 01654 703965

email us


Sbwriel Muriel a'r Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi Cynnllun Bin Hapus

Pypedau Vagabondi