|
Hafan
Werdd
|
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae Bro Ddyfi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda chynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, gan gynnwys nifer o warchodfeydd natur cenedlaethol a lleol. Ei phrif ased amlwg yw'r tirlun. Ond, mae'r fro hefyd yn 'wyrdd' mewn ffordd fwy dynol. Wedi ei chydnabod yn anffurfiol fel prif ganolfan datblygu cynaliadwy Prydain, mae gan Bro Ddyfi gyfoeth o gymunedau, unigolion a chwmniau sy'n arloesol mewn hyrwyddo cynaladwyedd amgylcheddol, economaidd a diwylliannol. Deilliodd y Ganolfan Dechnoleg Amgen o bryder ynglwn ag amgylchedd y byd a datblygu a chyfiawnder rhyngwladol. Mae diddordeb eraill yn codi o anghenion lleol a thraddodiadau mewn perygl. Mae'r bobl hyn oll yn gweithio i greu cymuned gefn gwlad lewyrchus, lle bo'i hanghenion ynni yn cael eu cwrdd gan wynt, dwr a'r haul, a galw lleol i'r hyn a gynhyrchir, yn fwydydd, celfyddydau, crefftau a doniau. Dibynna hyn ar reoli asedau naturiol a diwylliannol mewn modd praff, er budd pobl leol, ymwelwyr a'r amylchedd yn fwy cyffredinol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||