Ysgol Gynradd Machynlleth - Gardd y Goedwig


Sefydlwyd ein gardd ryw chew blynedd yn ol ac mae'r coed a blanwyd wedi defydlu a thyfu bellach. "Cwmni Cynnal" (Elemental Earth) a chymorth rhieni a disgyblion a fu'n gyfrifol am sefydlu'r ardd drwy gefnogaeth Arian y Loteri.


Ysgol Gynradd MachynllethLlun 1 - Eleni bu'r dosbarth Meithrin yn cadw wyau pili pala yn y dosbarth gan eu gwylio yn tyfu i fod yn lindys, yna'n chrysalis ac yna'n bili pala yn barod i hedfan. Yn ystod wythnos ola'r tymor daeth bob un pili pala allan o'i blisgyn gan hedfan yn rhydd. Aethpwyd a nhw allan i'r ardd i'w rhyddhau a hedfan yn rhydd.
Wrth blannu gwelsom fod y pridd yn galed a charegog yn dilyn y gwaith adeiladau ac felly yn anodd tyfu dim yn llwyddiannus. Er hynny mae ein gardd y goedwig wedi tyfu a ffynnu. Mae'n ardd gysgodol gyda fawr ddim heulwen yn y gaeaf,ac o'r herwydd mae'n oer iawn. Yn yr haf mae'n gysgodol ac y help mawr ar dywydd poeth.
Wrth i ni sefydlu'r ardd canolbwynt ein hwethgaredd oedd y gromen helyg a dyfodd y llwyddiannus iawn am rai blynyddoedd, ond wedi iddi gael clefyd bu farw a rhaid oedd ei tthorri i lawr yn gyfangwbl.
Cafwyd artistiaid preswyl yn gweithio gyda'r plant ac fe adeiladwyd mosaic o hanes y creu. Dyma yw canolbwynt ein datblygiad yn yr ardd dros y blynyddoedd nesaf.


Llun 2 - Wyth o ddisgyblion yr Adran Iau yn ymlacio wrth y mosaic sy'n darlunio stori'r creu.
Gwnaethpwyd draig anferth o lechen lleol ar lawnt yr ysgol, ond mae'r dderaig bellach yn raddol ddiflannu o dan y glaswellt. Efallai bydd archeolegwyr y dyfodol yn ei ddarganfod rhyw dro!
Mae'r bwyd a dyfir y nein gardd yn bennaf yn ffrwythau o'r llwyni, megis mafon, mefys, mwyar duon,cyrains duon, ac eirin Mair.
Aeth y Dosbarth meithrin ati yr haf yma i gasglu'r cyrains duon i wneud "smoothie" bendigedig -gyda ychydig o hufen ia ar ddiwrnod poeth.


Llun 3 - Dwy o ferched Blwyddyn 5 yn gweld a ydy'r cyrens duon yn aeddfed. "Peidiwch dweud wrth neb...!!"
Bydd dosbarthiadau yn ymweld yn aml a'r ardd er mwyn darganfod ac astudio trychfilod. Er ein bod wedi gweld olion moch daear yn ymweld a'r ardd nid yw'n dod yn ystod amser ysgol!
Mae nifer dda o adar yn ymweld a'r ardd, yn enwedig i'r bwrdd adar yn ystod misoedd y gaeaf. Nid yw'r bocsys nythu wedi eu defnyddio eto, ond mae'r 8 bocs newydd a adeioladwyd gan ddisgyblion blwyddyn 6 yn ystod yr haf yn mynd i gael eu defnyddio'r gwanwyn nesaf.


Ysgol Gynradd MachynllethLlun 4 - Mae'r pili pala yma'n edrych yn gartrefol iawn.
Bydd ein Clwb ar ol ysgol yn cadw golwg ar un o'r nythod drwy gymorth camera Web wei iddynt dderbyn nawdd arbenmnig gan gwmni Co-op.
Nid yw ein tomen gompostio wedi ei datblygu'n llawn eto ond wedi i'r disgyblion gychwyn ar brosiect "y bin hapus" mae llawer iawn mwy o wastraff yr ysgol yn cael ei osod ar y domen yma. Rhoddir gwastraff ffrwythau, papur a bagiau te ar y domen yn ogystal a chwyn, fel bo gennym mwy o gompost naturiol a llai o wastreff yn mynd i safle tirlenwi.


Llun 5 - Un o garddwyr Blwyddyn 6 yn cario rhagor i'r domen gompostio, sydd wrth sied yr ysgol.
Yr ydym yn hoffi sylwi ar y newidiadau yn yr ardd, gweld y blodau'n troi'n ffrwythau a hadau, a'r dail yn tyfu gan newid lliw.


Ysgol Gynradd MachynllethLlun 6 - pili pala yn barod i fentro allan i ardd yr ysgol. Hwyl fawr...
Mae'r ardd yn le tawel o fwrlwm yr iard chwarae, a chysgod yn yr haf o wres yr haul.
Gall pawb fynd i'r ardd, ac mae gan bob dosbarth ddarn i ofalu a chwynnu. Fel arfer bydd yr Adran Iau yn ymweld yn rheolaidd a disgyblion Adran y Babanod yn ymweld dan ofal yr athro.


Llun 7 - Disgyblion Blwyddyn 6 yn gofalu am blanhigyn mewn potyn wedi ei ailgylchu.

Tyfu i Ddysgu

ecodyfi
ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
t: 01654 703965

email us