Ysgol Llangynfelin


Ysgol LlangynfelinLlun 1 - Yr Ysgol. Mae ein hysgol ni ym mhentref Taliesin, ar y ffordd fawr rhwng Aberystwyth a Machynlleth. Mae gennym ni 53 o ddisgyblion a 3 o athrawon. Mae'r ysgol wedi bod yma ers 1876. Mae ein pridd ni yn fas a charregog.


Ysgol LlangynfelinLlun 2 - Mae'n anodd iawn palu yno weithiau!! Rhywun isio helpwch ni? Mae'r ardd wedi bod gyda ni ers rhyw 4 neu 5 mlynedd. Mae CA 1 a 2 yn defnyddio'r ardd. Rydym yn plannu a chymryd gofal o'r ardd. Ynyr ardd rydym yn dysgu sut mae tyfu llysiau a ffrwythau.


Ysgol LlangynfelinLlun 3 - Llwyni ffrwythau. Rydym yn tyfu ceirios, moron, winwns bach, eirin mair a mafon yn ein gardd.


Ysgol LlangynfelinLlun 4 - Coeden blwms. Mae gennym ni lygad y dydd, danadl poethion, coed derw, coeden geirios a llwyn eirin mair yn ein gardd.
Ein ardaloedd o fywyd gwyllt yw danadl poethion, drain, ty adar a llyn bach. Rydym wedi gweld adar, cwningod, brogaid, malwod mwydod gwlithod, pry lludw, buwch goch gota, gwenyn a ieir bach yr haf.
Rydym yn rhoi hen flodau a gwastraff o'r gegin yn ein compost. Rydym yn ei ddefnyddio i lanw potiau blodau.


Ysgol LlangynfelinLlun 5 - Blodau mewn potiau. Rydym yn hoffi y coed, y blodau a'r bywyd gwyllt orau.


Ysgol LlangynfelinLlun 6 - Coed derw.


E-bost: Disgybl3@llangynfelyn.ceredigion.sh.uk
Website: www.llangynfelyn.ceredigion.sch.uk

Tyfu i Ddysgu

ecodyfi
ecodyfi
Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, UK.
t: 01654 703965

email us