Llun 1 - Yr Ysgol (photo - Gwawr a Llinos)
Dyma Ysgol Glantwymyn. Agorwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1973. Mae 89 o ddisgyblion yma, pedair o athrawesau llawn amser a phump yn cynorthwyo gyda gwahanol bynciau. Yn yr Adran Babanod mae 38 o blant a 51 yn yr Adran Iau.
(Awdur - Rhian)
Llun 2 - Y fynediad (photo - Tirion)
Dyma fynedfa yr ysgol. Yn y fan yma bydd Blynyddoedd 5, 6a, 3 a 4 yn ciwio i fynd i ginio. I'r de mae yna fosig yn dangos adeiladau a phethau eraill nodweddiadol o ardal Bro Ddyfi. Mae plant ac athrawon yn cerdded mewn ac allan drwy'r drws yma o ddydd Llun i ddydd Gwener.
(Awdur - Marian)
Llun 3 - Lle chwarae (photo Anna)
Dyma ble mae'r plant bach yn chwarae efo'i gilydd. Mae tarmac rwber yma i atal y plant rhag brifo. Yn y lle chwarae mae teganau; dyma ble mae fy chwaer yn chwarae. Dyma ble mae dosbarth Mrs Pugh a Mrs Causer yn chwarae.
(Awdur - Jessica Amy)
Llun 4 - Lle chwarae (Photo Llinos)
Dyma ble mae'r Babanod a Blwyddyn 1 a 2 yn chwarae. O'r blaen roedd y lle yn wahanol. Doedd yna ddim tarmac du a doedd y ffens ddim yna dim ond ffens blastig. Roedd y ffens blastig wedi torri, dyna pam rydem ni wedi cael un newydd.
(Awdur - Jade)
Llun 5 - Dalcen yr ysgol (Ffion)
Dyma dalcen yr ysgol. Ryden ni yn ymarfer pwl droed yma. Mae marc cwmpawd ar y buarth yn y fan yma. Tu ôl i'r wal mae'r cyntedd. Mae'r toiledau yn y cyntedd ac yma rydym yn cadw ein bagiau ni. Ar y chwith mae'r gegin. Mae yna ddwy gogyddes yn gweithio yna. Rydw i yn mwynhau gweld y bobl yn coginio.
(Awduron - David a Robin)
Llun 6 - Ryden ni wedi plannu hadau (Photo - Issac)
Yn yr ardd ryden ni wedi plannu hadau yn y pridd. Roedden ni wedi plannu ffa dringo, letys, maip, tomatos a corguettes. Ryden ni yn rhoi dwr i'r hadau pan mae'n sych iawn. Ryden yn tynnu'r chwyn allan o'r pridd a rhoi y chwyn yn y bin compost. Yn y pridd mae llawer a bryfaid genwair sy'n helpu i wella ansawdd y pridd felly'n helpu'r planhigion i dyfu. Mae'r planhigion yn edrych yn iach iawn.
(Awdur - Jessica)
Llun 7 - Gweithio ar y llysiau (Photo - Megan)
Mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed yn plannu llysiau. Mae yna lawer o blanhigion yn yr ardd. Ryden ni yn mynd i'r ardd bob wythnos i blannu a rhoi dwr i'r blodau. Mae'r llysiau yn tyfu yn gyflym iawn, ac maen nhw'n iach. Mae chwech gwely yn yr ardd. Mae gennym ni rai llysiau rydym yn gallu'u bwyta'n fuan. Rydw i'n mwynhau plannu llysiau.
(Awdur - Llinos)
Llun 8 - Gweithio yn galed!! (Photo Jessica)
Dyma yr ardd a phlant yn plannu ffa dringo. Dim ond Dosbarth 3 a 4 sy'n plannu llysiau fel ffa dringo, moron, letys, maip, tomato a corguettes. Ryden ni yn mynd i'r ardd bob dydd Gwener. Mae chwech gwely o blanhigion yn yr ardd. Yn un gwely mae planhigion ffa, pys a maip .
(Awdur - Finn)
Mae gennym blanhigion hardd, gwyrdd a llachar yn ein buarth chwarae. Mae ffrwyth ar y goeden geirios. Yn yr ardd mae ffennel tal a syth efo blodyn melyn arno. Fe blannwyd rhosyn hardd gwyn yn yr ardd, blodyn tawel ac arogl hyfryd.
(Awdur - Hillary)
Llun 9 - Y llysiau yn tyfu (Photo - Rhian)
Dyma ardd yr ysgol. Mae'r plant yn hoffi chwarae yma ger y corguettes, ffa a'r tomatos. Yn y llun mae plant yn gweithio'n galed er mwyn i'r llysiau dyfu'n gryf. Mae angen haul, dwr a lle i dyfu.
(Awdur - Isaac)
Rydym ni yn edrych ymlaen i gael defndyddio'r llysiau i wneud cawl. Mae yr ardd yn edrych yn wych efo'r llysiau sydd yno. Mae'r llysiau yn tyfu'n gyflym yn y tywydd sych a phoeth. Os byddwn ni yn rhoi dwr ar y dail pan fydd hi'n boeth byddwn yn llosgi'r dail.
(Awdur - Ffion)
Llun 10 - Taclus y llwyni (Photo - Aron)
Mae pawb yn chwynnu ac yn tacluso y llwyni, mae'r plantos yn hoffi chwarae cuddio i mewn ac allan o'r llwyni. Rhaid cadw llwybr rhwng y llwyni i ni gael rhedeg a cherdded yna. Rhaid tacluso'r llwyni cyn hir.
(Awdur - Arran)
Llun 11 - Rhosyn (Photo - Megan T)
Yn yr ardd mae rhosyn yn tyfu, mae'r rhosyn yn dlws ac yn sgleiniog. Lliw y rhosyn ydy gwyn. Mae'r gwely rhosynnau wrth y cae mawr. Mae llawer o bobl yn hoffi'r rhosyn gwyn. Byddwch yn gwisgo rhosyn gwyn i briodas. Mae rhosyn yn gallu tyfu'n wyllt heb i bobl ei gyffwrdd.
(Awdur - Holly)
Mae arogl hyfryd ar y rhosyn gwyn ac mae yn flodyn tlws iawn.
(Awdur - Megan Thornton)
Llun 12 - Mwy gwaith! (Photo - Jessica C)
Dyma ardd yr ysgol. Ryden ni yn tyfu mefus, rhosynnau, ffa, letys, maip, courgettes ac wrth gwrs blodau. Rydw i yn edrych ymlaen at flasu y mefus coch perffaith. Bron bob dydd Gwener mae dosbarth tri a phedwar yn mynd i'r ardd a thacluso'r ardd. Mae hi'n waith caled ond mae'n werth gwneud y gwaith.
(Awdur - Megan Thornton)