Bro Ddyfi dros Masnach Deg Petisiwn |
|
"Rwy'n cefnogi hyrwyddo arferion 'Masnach Deg' yn Nyffryn Dyfi yn achos cynnyrch lleol a chynnyrch wedi fewnforio fel ei gilydd." Casglwyd 500 o lofnodion ar y ddeiseb yn ystod Pythefnos Fasnach Deg, ym mis Mawrth 2003. Mae oddeutu 12,500 o drigolion yn byw mewn tua 5000 o gartrefi ym Mro Ddyfi, yn cynnwys tua 2000 o bobl a 700 o gartrefi ym Machynlleth. Felly mae 500 o lofnodion yn tystio i gefnogaeth eithaf sylweddol. CytunoddCyngor Tref Machynlleth i gefnogi'r ymgyrch gan gyfrannu £500 i'n helpu i gael ein traed oddi tanom. Da iawn bawb - cychwyn ardderchog! Y gobaith yw y bydd cynghorau eraill yn trafod y pwnc yn fuan.
|
||||||||||||||||||