ecodyfi logo, valley and hills, link to home page
Logo for Dyfi Valley for Fair Trade campaign
english version

Tudalennau yn yr adran Fasnach deg

Taflen a chyflenwyr lleol - Saesneg

Hafan yr Ymgyrch

Tudalen mynegai i gofnodion cyfarfodydd

Y Ddeiseb i'r Cyngor

Poverty Amidst Plenty
gan Sekiku Joseph, Tansania

Gwefannau Defnyddiol

Cysylltiadau

Cartwn

Cyfansoddiad

Mae Dyffryn Dyfi yn ddyffryn masnach deg

Esbonia'r dudalen hon y broses ddaeth â'r statws unigryw hwn i Ddyffryn Dyfi. Deunaw mis gymrodd hyn.

Ffrwyth gwaith caled llawer o bobl yw'r dynodiad, yn fwyaf arbennig un teulu, yr Howards - Will, Lyn, Sam a Dougie.

Ar 17/5/03 y ffurfiwyd y Grwp Llywio yn wreiddiol. Darllenwch gofnodion y cyfarfod hwn yma.

Cyflawnwyd ein nod o gasglu may na mil o lofnodion ar 14.3.04, yn ystod Pythefnos Fasnach Deg.

Casglodd aelodau Grwp Dyffryn Dyfi dros Fasnach Deg ragor na 1,100 o addunedau o blith 12,500 o drigolion Dyffryn Dyfi i brynu nwyddau masnach deg yn rheolaidd.

"Roedd llawer mwy o gefnogaeth a brwdfrydedd na llynedd," meddai Will Howard. "Byddwn yn awr yn gofyn i fusnesau wneud yr un fath a defnyddio nwyddau masnach deg. Mae'n argoeli'n dda iawn gyda Ty Bwyta Canolfan Hamdden Bro Ddyfi yn cynnig lluniaeth fasnach deg am y tro cyntaf wythnos yma."

Yn ystod y Bythefnos bu Brian Namata, Rheolwr Gweithrediadau Tyfwyr Cansenni Kasinthula ym Malawi, ar ymweliad â Machynlleth ac yn Co-op y dref bu 'aduniad' rhyngddo â'r siwgr MasnachDeg y bydd yn helpu ei gynhyrchu 6,000 o filltiroedd oddi yno.

Aethpwyd hefyd i 12 o ysgolion lleol gyda gwybodaeth, siocled a thaflenni.

Yn ystod y bythefnos bu mwy nag 20 o wirfoddolwyr ar ddyletswydd wrth y stondinau yn Co-op Machynlleth ac yn y Farchnad ar ddydd Mercher.

Brian Namata

Brian Namata, Rheolwr Gweithrediadau Tyfwyr Cansenni Kasinthula ym Malawi, yn trafod masnach deg gyda Justin Robinson, Rheolwr Arlwyo Canolfan Hamdden Bro Ddyfi ym Machynlleth, Mawrth 8fed 2004. Mae'r Ganolfan Hamdden newydd ddechrau darparu amrywiaeth o luniaeth masnach deg.

Cawsom gefnogaeth Cyngor Tref Machynlleth a Chyngor Sir Powys, a chan ecodyfi. Bu hyn yn hanfodol.

Carnifal!

Haf 2004 ymunodd Grwp Dyffryn Dyfi dros Fasnach Deg â Charnifal Machynlleth er mwyn dod â nwyddau Masnach Deg fwy i lygad y cyhoedd. Roeddynt yn gwisgo lliw melyn (crwyn banana) ac yn cludo bananas mawr llawn gwynt, gan ddod â dipyn o liw i orymdaith flynyddol y carnifal.

Cliciwch yma neu ar y ddelwedd os am weld fersiwn fwy. Diolch i'r Cambrian News am y llun.

Cyflwyniad statws 'Dyffryn Masnach Deg'

Ceir datganiad i'r wasg a chyswllt â gwefan y BBC a gyhoeddodd benderfyniad y Sefydliad Masnach Deg ym mis Tachwedd 2004:

16.11.04: Mae Dyffryn Dyfi erbyn hyn yn swyddogol yn Ardal Fasnach Deg! [cyswllt BBC]

11.1.05: Te twristiaid yn Fasnach Deg

Mae'r ymgyrch yn parhau i dyfu ac annog ardalwyr ac ymwelwyr â'r dyffryn i ddal ati a chynyddu ymwybyddiaeth.

Rhagor o wybodaeth ac os am gynnig help:

Nicola Ruck, Pantlludw, Machynlleth, Powys SY20 9JR

Ffôn/ffacs 01654 703428; nicola_ruck@bigfoot.com

Rhagor o wybodaeth ac os am gynnig help: Nicola Ruck, Pantlludw, Machynlleth, Powys SY20 9JR
Tel/fax 01654 703428; nicola_ruck@bigfoot.com

 

Brig y dudalen