Gwneud Dyffryn Dyfi
|
|
Grwp ieuenctid Gwerin y Coed Machynlleth yn cyflwyno deiseb ag arni 500 o enwau o blaid gwneud Dyffryn Dyfi yn Ddyffryn MASNACHU TEG, a gasglwyd yn ystod pythefnos cenedlaethol MASNACHU TEG, i Faer Machynlleth Mrs Glenda Jenkins, y cynghorydd sir Michael Williams a'r cynghorydd lleol Martin Ashby o flaen stondin MASNACHU TEG yn Co-op Machynlleth. Mae'r ddeiseb yn cefnogi ymgyrch hir i gynyddu rhychwant a maint y nwyddau MASNACHU TEG a brynir ac a gynhyrchir yn Nyffryn Dyfi. "Rwyf wrth fy modd yn gweld plant ifanc yn rhoi'r neges ar led yn yr ysgolion ac ymysg y cyhoedd," meddai cynorthwyydd Gwerin y Coed Will Howard. "Mi all MASNACHU TEG ryddhau cynhyrchwyr coco, te, coffi, banana a chnydau eraill o'r tlodi sy'n cael ei greu gan gyfundrefnau masnachu annheg."
|
|||||||||||