ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Bro Ddyfi: y dyffryn eco Ewropeaidd

english version

pont

Y Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Ardal Biosffer Dyfi
Cymunedau yn Gyntaf
Tyfadwy
Tyfu i Ddysgu
Y Bin Hapus

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]


Derbyniwyd cydnabyddiaeth Ewropeaidd i Ddyffryn Dyfi am helpu'r gymuned leol i ddefnyddio ffynonellau ynni cynhenid glân.

Enillodd ecodyfi, ar y cyd ag Asiantaeth Ynni Powys, Awdurdod Datblygu Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Sir Powys, wobr am y bartneriaeth wledig orau dan nawdd "Ymgyrch sefydlu ynni adnewyddadwy" y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn dilyn hyn, gofynnwyd i Andy Rowland o ecodyfi roi cyflwyniad ar y gwaith yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Ynni Haul Ryngwladol, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Gwtenborg, Sweden. Bu'r gweithdy'n fodd i asiantaethau ynni ddysgu o brofiadau ei gilydd.

Ar yr un pryd, mae Asiantaeth Ynni Powys yn un o bartneriaid prosiect ymchwil i astudio cymunedau sy'n ymdrechu i ddefnyddio a chynhyrchu ynni mewn modd mwy cynaliadwy. Dyffryn Dyfi yw un o'r ardaloedd mwyaf blaengar yn Ewrop yn y cyswllt hwn. Fe'i cynrychiolwyd mewn cyfarfod diweddar ar Ynys Creta, a bydd gwyddonydd cymdeithasol yn ymweld î'r fro ym mis Hydref. Y gobaith yw y bydd yr hyn a ddysgwyd o fudd i gymunedau yn Nwyrain Ewrop.

Trefnwyd yr ymweliad i gyd-daro â chynhadledd ryngwladol i'w chynnal gan ymgyrch Gwres Gwyrdd Asiantaeth Ynni Powys. Bydd siaradwyr o'r Ffindir ac Awstria yn amlinellu'u profiadau er mwyn dangos sut i sicrhau mwy o wres o ffynonellau adnewyddadwy megis coed a dyfwyd yn lleol. Eglurodd Andy Rowland y gellir llosgi'r coed ar ffurf sglodion neu beledi yn ogystal â boncyffion traddodiadol. "Bydd unrhyw arian a wariwn ar nwy neu olew yn gadael yr economi leol yn syth", meddai. "Bydd sicrhau fod boncyffion wedi'u sychu'n briodol ar gael yn fwy cyffredinol i bobl yn fodd i ffermwyr gael mwy o fudd o'u coedydd. Ar yr un pryd, dyma leihau'r carbon deuocsid a ollyngwn i'r awyr ar draul yr amgylchedd."

Manylion pellach

 

 

Brig y dudalen