ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Bro Ddyfi Community Renewables Ltd

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Tudalennau yn yr adran Ynni

Energy efficiency (Saesneg)

Ecodyfi's energy programme (Saesneg)

The Bro Dyfi Community Energy Fund (Saesneg)

Maesglas water power case study (Saesneg)

Cylchlythr Bro Dyfi Community Renewables (Saesneg)

Community renewable energy (Saesneg)

Discussion on community wind energy projects (Saesneg)

Bro Ddyfi Community Renewables Ltd.

Clwb Solar Dyfi

Prosiectau ynni adnewyddol sy'n cael cymorth gan ecodyfi (Saesneg)

Coed fel tanwydd ar ffurf (html)


Pwy yw BDCR?

Cwmni Ynni Cymunedol Cydweithredol yw BDCR sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus.

Sefydlwyd BDCR yn 2001 er mwyn datblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy a fyddai'n eiddo i'r gymuned.

Mae gan y cwmni 55 o gyfranddalwyr unigol, y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn lleol.

Beth mae BDCR wedi'i gyflawni?

Yn 2003, gosodwyd tyrbin Vestas 75 cilowat ail law gan BDCR er mwyn darparu ynni i'r Ganolfan Technoleg Amgen; roedd yr ynni a oedd yn weddill yn cael ei fwydo i'r grid.

Mae wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus am ddeunaw mis a thalwyd y rhandal cyntaf i'r cyfranddalwyr ar ddechrau 2004.

 

lifting the turbine into place  Cutting the cake at the opening

Tyrbin gwynt cyntaf BDCR uwchben CAT a chyfranddalwyr lleol

Cutting the cake at the opening

Workers at the turbine opening Lifting the nacelle into place

Workers at the turbine opening

Lifting the nacelle into place

Long view of the turbine Shareholders waving their green shares.

Tyrbin MS7 ar Fynydd Glandulas

Shareholders waving their green shares.

 

Pam gwneud hyn?

Rydym eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd gyda'r llifogydd a stormydd a brofwyd.

Bydd ein hwyrion a'n hwyresau yn waeth eu byd os na wnawn ni oll gyfrannu tuag at y dasg o leihau'r tanwyddau ffosil a ddefnyddir.

Mae ynni gwynt yn ddull cyfrifol o gynhyrchu trydan, yn enwedig pan fyddwn yn cadw'r elw o fewn yr ardal.

Beth yw'r cynllun newydd?

Mae BDCR yn trafod yr hawliau i weithredu tyrbin gwynt ar safle'r cynllun MS4 ar Fynydd Glandulas.

Byddwn yn symud yr hen dyrbin ac yn gosod tyrbin Nordtank 500 cilowat o'r Almaen � tyrbin wedi ei adnewyddu ac a fydd ychydig yn llai na'r tyrbin gwreiddiol.

Bydd trac dros dro yn cael ei adeiladu yng Nghoedwig Cilgwyn a bydd yn arwain i'r safle er mwyn caniat�u mynediad ar gyfer craen ac offer newydd.

Bydd y sylfaen bresennol a'r cysylltiad grid yn cael eu hail ddefnyddio er mwyn lleihau aflonyddu oherwydd y gwaith adeiladu.

Lle fydd y trydan yn mynd?

Bydd yr ynni a fydd yn cael ei gynhyrchu gan y tyrbin newydd yn cryfhau'r grid lleol trwy fwydo i mewn i'r llinell 11 cilofolt presennol ar Fynydd Glandulas.

Bydd y pw^er yn cael ei werthu i'r 'Non Fossil Purchasing Agency' o dan gytundeb prynu presennol sy'n gysylltiedig â'r mynegai.

1,000,000 cilowat yr awr yw amcangyfrif cyfartaledd y cynhyrchiad blynyddol, mae hyn yn gyfwerth â'r hyn y bydd 200 o dai nodweddiadol yn ei ddefnyddio.

Bydd y gwerthiant trydan werth �70,000 a bydd yn disodli 430 tunnell o ddeuocsid carbon y flwyddyn.

O le mae'r arian yn dod?

Amcangyfrifir taw �350,00 fydd cost y cynllun.

Y bwriad yw cael 20% o'r cyfanswm gan fenthyciad banc, 20% gan nawdd grant a'r gweddill gan fuddsoddwyr lleol a Chenedlaethol er enghraifft aelodau o Glwb Buddsoddiad Ynni Adnewyddadwy (REIC).

Beth yw'r manteision i'r gymuned?

Mae cyfranddaliadau a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yng nghynllun cyntaf BDCR (tyrbin Vestas V17 uwchben y Ganolfan Technoleg Amgen) yn darparu incwm i ecodyfi, mudiad adfywio'r gymuned leol, ar gyfer Cronfa Ynni i'r Gymuned.

Mae hyn yn hyrwyddo effeithiolrwydd ynni yn yr ardal leol, gan gynnwys rhoi bylbiau golau arbed ynni yn rhad ac am ddim.

Bydd nawdd grant yn darparu cyfran fwy sylweddol o fewn y cynllun newydd i ecodyfi.

Bydd y rhandaliadau blynyddol yn darparu incwm hir dymor a fydd yn ariannu menter adfywiad cymunedol ecodyfi - gan gynnwys cludiant arbed carbon.

Yn fras, bydd hanner cost y cynllun yn cael ei wario'n lleol a bydd cyfranddalwyr lleol yn derbyn rhandaliadau blynyddol.

Sut gallaf fod yn rhan o'r cynllun?

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan arbenigwyr ynni adnewyddadwy lleol.

Gobeithiwn y bydd Clwb Buddsoddiad Ynni Adnewyddadwy (REIC) yn rhoi'r cyfle i'w haelodau fod yn gyfranddalwyr o fewn y misoedd nesaf.

Aelodau Clwb Buddsoddiad Ynni Adnewyddadwy (REIC) yn unig gaiff brynu cyfranddaliadau prosiectau a gynigir drwy gyfrwng y Clwb Buddsoddi.

Mae aelodaeth ar hyn o bryd yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb heb ymrwymiad.

Os nad ydych wedi cael ffurflen aelodaeth, dewch i nôl un o D_ Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth neu ymuno ar-lein.

Gwybodaeth bellach

Read about the Bro Ddyfi Community Renewables share issue and its wind turbine at Cilgwyn:

Press releases on the Bro Ddyfi Community Renewables wind power project:

Reports on local and community ownership of wind projects: 2001 [Word doc: 96kB]; and 2004 [Word doc: 260kB],

An article on the social aspects of community wind power.

Lessons learned on community consultation from the community wind farm project at Awel Amen Tawe in South Wales: summary page and PDF [file size 1.1MB]

Duncan Kerridge 01654 781460; Tim Brewer 01654 703374

REIC www.reic.co.uk Andy Warrington 01654 705018

CAT information page about the first project

Brig y dudalen