-- BANNER -->
Ynglwn ag ecodyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
<-- RIGHT MENU -->
Dymunwn weld dyffryn Dyfi yn gymuned ffyniannus ddwyieithog gyda'r enw am gynaladwyedd.Mae'r weledigaeth wedi ei sylfaenu ar y syniadau dilynol: 1. Cryfhau'r economi lleol yw'r allwedd i ateb gofynion cymdeithasol 2. Twristiaeth a ffermio yw'r diwydiannau lleol pwysicaf. 3. Yr unig fath o dwristiaeth all lwyddo yma yw twristiaeth cynaliadwy. Ni fydd llwyddiant i atebion tros dro. Yn yr un modd yr unig fath o ffermio a fydd yn llwyddiant yma yw ffermio cynaliadwy. 4. Arbenigedd lleol yn aml yw'r allwedd i lwyddiant mewn llawer marchnad heddiw, yn enwedig mewn twristiaeth ac yn gynyddol mewn cynnyrch lleol (yn cynnwys bwydydd). 5. Fe fydd mantais i fwyd, gwyliau a chynnyrch arall gael eu cysylltu â'r ddelwedd lân, werdd o'r dyffryn, ardal sy'n arwain y ffordd mewn adnewyddu cymunedol cynaliadwy. 6. Mae systemau cynhyrchu a dosbarthu byd-eang yn arwain at lefelau anghynaladwy o'r defnydd o adnoddau a chreu gwastraff ac yn rhoi economïau lleol mewn perygl oddi wrth rymoedd allanol. Mae gwrthdroi tueddiad hwn weithiau'n cael ei alw'n 'ad-leoleiddio'. Ein cenhadaeth yw "meithrin adfywio cymunedol cynaliadwy yn nyffryn Dyfi". Rhaid ateb anghenion lleol gyda gweledigaeth hir dymor. Mae hyn yn golygu rhoi sylw i gynaladwyedd amgylcheddol byd eang yn ogystal â lleol, i gryfder yr economi lleol ac i ddawn pobl leol i gymeryd cyfrifoldeb. Rhagor o wybodaethCliciwch yma am gysylltau ag adroddiadau, ein cynllun datblygu, a chofnodion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||