Cylchlythyr mis Ionawr 2004 |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Croeso i'r Cylchlythyr adfywio cymunedol!Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae ecodyfi yn paratoi cynlluniau ar gyfer y flwyddyn gyllidol sy i ddechrau ym mis Ebrill. Beth ddylwn ni fod yn ei gyflawni os ydym am wella ansawdd bywyd yn Nyffryn Dyfi a diogelu ein dyfodol? Bydd y rhan fwyaf o'n cynlluniau yn datblygu gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd neu'n cael eu trafod, er enghraifft:
A wyddoch chi am bosibiliadau eraill i ni hybu gweithgaredd cymunedol ac ennyn gwelliannau economaidd ac amgylcheddol? Hwyrach y gallwn sicrhau nawdd i'ch syniad gan Awdurdod Datblygu Cymru neu gan un o'n partneriaid eraill. Ffoniwch neu ebostiwch ar unwaith! Andy Rowland, Trefnydd Sefydlwyd Cronfa Ynni Cymunedol i hyrwyddo effeithlonrwydd ac arbed ynni yn Nyffryn Dyfi. Cynhaliwyd cyfarfodydd llwyddiannus yng Nghorris a Glantwymyn. Rheolir y gronfa gan gynrychiolwyr ecodyfi, Cyngor Cymuned Glantwymyn, y Ganolfan Dechnoleg Amgen, a Bro Dyfi Community Renewables Ltd., sef y cwmni sy'n gyfrifol am y Tyrbin Gwynt Cymunedol ym Mhantperthog. Cefnogir y gronfa gan gyfran o'r incwm a ddaw o dyrbin MS4 y Ganolfan Dechnoleg Amgen a'r hyn a ddisgwylir o dyrbin Pantperthog. Yr Ymgyrch Band LlydanMae BT wedi nodi'r 'rhif trothwy' ar gyfer sawl cyfnewidfa yn y dyffryn; e.e. rhif Machynlleth yw 400. Dyma nifer y llinellau ffôn sydd angen eu cofrestru â nhw, ac o groesi'r trothwy yma, bydd BT yn uwchraddio'r gyfnewidfa i lefel band llydan. Byddai modd wedyn manteisio ar gyrchiad rhyngrwyd gryn dipyn yn gynt, gan dderbyn galwadau ffôn heb orfod allgofnodi. Newyddion Diweddaraf: Mae Talybont newydd gyrraedd ei rif trothwy, sef 200. Os am helpu i gyrraedd y rhifau trothwy yma, cofrestrwch yn: "http://www.btopenworld.com/votebroadband" Mae gwefan Ymgyrch Band Llydan Machynlleth yn: www.machbroadband.org.uk.
Newyddion TwristiaethMae tipyn mwy na blwyddyn bellach ers lansio'r cynllun Ardal Twf Twristiaeth, a'n gobaith yw y bydd yn para am 6 mlynedd. Ymddengys y byddwn yn llwyddo i gyrraedd - a mwy - y nodau a osodwyd ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf mewn busnesau twristiaeth. Un agwedd yn unig ar y cynllun yw buddsoddi cyfalaf, wrth gwrs, a bu llawer o waith twristiaeth ecodyfi ym meysydd marchnata, ymchwil, hyfforddi, creu ymwybyddiaeth a rhwydweithio, ynghyd â datblygu cynlluniau oedd newydd eu sefydlu. Ymunodd Thea Platt â mi yn Swyddog Ymgyrchoedd Twristiaeth gwirfoddol, sy'n golygu y gallwn gyflawni mwy byth flwyddyn nesaf. Dyma rai o uchafbwyntiau eleni: Beicio Mynydd yng Nghoedwig Dyfi: A ninnau'n gweithio gyda Mach Off Road Limited, rhoddwyd grantiau gwerth oddeutu £130,000 i ni i ddatblygu rhan gyntaf cynllun llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Dyfi. Mae cysylltu â'r gymuned a phroses tendro am gytundeb yn mynd â'n hamser ar y funud. Twristiaeth Gweithgareddau: Mae'r Bwrdd Croeso yn canolbwyntio ar farchnata twristiaeth gweithgareddau ledled Cymru ac fe fuom wrthi'n creu "cynnyrch" gweithgareddau nodweddiadol o Ddyffryn Dyfi y bydd modd i'w hymgyrchoedd ei farchnata, er mwyn medru elwa arnynt. Wedi cynnal ymchwil ymlaen llaw a ariannwyd gan yr Awdurdod Datblygu, sefydlasom raglen Hyfforddi Cynhalwyr Gweithgareddau a dechrau creu rhwydwaith o ddarparwyr fydd, gobeithiwn, yn llunio cynllun marchnata iddynt eu hunain, gan ddechrau â chwrs marchnata wedi'i addasu'n unswydd ar eu cyfer ym mis Ionawr 2004. Siopio Lleol a Siopio Dolig: Drwy adeiladu ar waith gwesty'r Wynnstay a Siambr Fasnach Machynlleth ac ymgyrchoedd siopio lleol eraill, byddem yn falch o weld Machynlleth yn datblygu'n ganolfan ddewisol ar gyfer prynu nwyddau celf a chrefft, bwydydd a nwyddau moethus ymysg ardalwyr yn ogystal ag ymwelwyr. Ein cyfraniad cyntaf i'r broses fu trefnu a hysbysebu digwyddiadau oedd yn rhan o "Nadolig Dyffryn Dyfi" mwy trefnedig, a chefnogi, helpu casglu arian ar gyfer, a chynyddu gwerth twristaidd gweithgareddau Daear Elfennol. Teresa Walters, Swyddog Twristiaeth
Newyddion am Leihau GwastraffBu fy mlwyddyn gyntaf yma'n un brysur, gyda llawer i'w ddysgu. Cefais fwynhad o weithio ochr yn ochr â phawb yn Nhy Bro Ddyfi, a chan wisgo bathodyn ecodyfi fel petai, bu'n gyfle da i mi ymgyfarwyddo â glo mân yr hyn sy n digwydd yn y dyffryn. Fy nhasg oedd lleihau gwastraff yn Nyffryn Dyfi, gan ganolbwyntio ar gladdu sbwriel. Ond eisoes ehangodd y gwaith i gynnwys ynni a phellter cludo bwyd. Cynyddu ymwybyddiaeth ynglwn ag agweddau ar gynaladwyedd yn y dyffryn fu fy mhrif waith. Bu'r gwaith yn eang ei rychwant ac yn amrywiol, yn cynnwys:
O fod wedi cyfrannu ym mhob un o'r meysydd yma a minnau mewn swydd ran amser, fy mwriad yw diwygio fy rhaglen waith ymhellach ar gyfer 2004. Credaf y bydd y flwyddyn nesaf yn un ddigon tebyg i eleni gyda chyfleoedd newydd yn codi drwy'r amser, ond o fod â mwy o brofiad a rhaglen waith eglur yn ganllaw i mi, gobeithiaf y bydd modd i mi ddatblygu rhai cynlluniau ddaw a budd parhaol i'r dyffryn. Tom O'Kane, Swyddog Lleihau Gwastraff |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||