


![]() |
![]() |
|
![]() |
||





|
![]() |
Syniad gwreiddiol y cwmni cymunedol, Mach Off Road Limited, sy'n adnabyddus yn sgîl Mach 1, 2 a 3, oedd Cynllun Beicio Mynydd Llwybrau Dyfi, ac y maent yn dal i'w reoli gyda chymorth pwyllgor llywio.
Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran y Comisiwn Coedwigaeth, ecodyfi - cwmni adfywio cymunedol lleol, a Dyfi Bywiol - cyfungorff darparwyr gweithgareddau lleol.
Yn y llun, o'r chwith, mae Tristan Merry-Howe, adeiladwyr llwybrau Ecotrails, Trefnydd y Prosiect Teresa Walters, ecodyfi, Huw Gilbert a Joanne Deane, yn cynrychioli Dyfi Bywiol, Tegid Humphreys, Reditreks, Holey Trail, David Perrott, Cartograffydd a Chadeirydd Mach Off Road. Andy Bakewell, Ecotrails sydd yn y siaced las ac mae Gareth Jones, Mach Off Road, yn y blaen ac i'r dde.
Cyfarwyddwyr Mach Off Road nad ydynt yn y llun: Andy Perrott, Siop Feiciau Greenstiles a Jon Pickles, Redbike Hire a Holey Trail. Dave Farmery, Rheolwr Coedwig lleol yw cynrychiolydd y Comisiwn Coedwigaeth.![]()





Ym mis Gorffennaf daeth Judith Thornton, staff cyflogedig cyntaf Mach Off Road, atom. Daeth yma'n dra chymeradwy o Adran Fioleg y Ganolfan Dechnoleg Amgen ac mae cymwysterau trin llif gadwyn a gyrru tyrchwr mecanyddol ganddi. Fyddai modd cael neb mwy cymwys, wir?
Dyma hi, yn gwneud yr hyn sydd orau ganddi!....

|
![]() |
![]() |
Pan gymeradwywyd cyllid ar gyfer Rhan I Llwybrau Dyfi ar Fehefin 2 2004, cychwynnodd y tîm ar amserlen adeiladu na addawyd ei thebyg, na'i chyflawni, o'r blaen: Cytunodd Ecotrails, contractwyr a wnaeth eu marc drwy adeiladu llwybrau Nant yr Arian, i greu llwybr 20 cilomedr mewn 16 wythnos, a hynny'n cynnwys cyflogi staff ar is-gontract.
Mae rhyw 10 cilomedr o'r rhan gyntaf yma'n drac sengl, a llawer ohono ar elltydd serth - llethrau oedd yn cynnig cryn her i nifer o yrwyr tyrchwyr hynod fedrus...
Yn y cyfamser bu'r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio fel slecs ar y maes parcio, a'r cynllun fydd yn gwahanu'r gwahanol grwpiau defnyddwyr wrth ddod ato.
Er mawr ryfeddod, maent bron iawn o fewn yr amserlen a dyma rai o aelodau'r Pwyllgor Llywio'n edrych ar ben eu digon gyda gwaith Ecotrails.![]()


|
![]() |
Eisoes mae modd gweld y bydd hwn yn llwybr arbennig. Mae'r golygfeydd sy'n cynnwys mynyddoedd a choedwigoedd ac awyr diderfyn i bob golwg yn syfrdanol.
Ac yn anterth i'r cyfan mae allt sy'n disgyn yn serth ac yn llyfn am 2 gilomedr o frig y goedwig ym mhen uchaf rhan 8.
Profir gymaint o gleimacs yn wir, nes awgrymu enw i'r llwybr newydd.
Dilynwyd yn nhraddodiad Mach 1,2,3, ond gan bwysleisio'r uchelfannau a esgynnir iddynt a'r wefr eithafol y gall reidwyr ddisgwyl ei phrofi, ac fe'i galwyd yn Cli-machx.
Wrth reswm ni fu'n f£l i gyd.
Am rai dyddiau ar ddiwedd mis Gorffennaf, credid fod yr amserlen gyfan mewn perygl, wedi i feiciwr modur lleol greu rhigol 1.5 cilomedr o hyd fyddai wedi casglu dwr a difetha gwedd y llwybr - treuliodd Andy ac eraill dri diwrnod yn ei drwsio â llaw a bu'r tîm cyfan yn gweithio oriau ychwanegol i wneud yn iawn am hyn.![]()



Ariennir y cynllun gan Adfywio, cyd-gronfa adfywio Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Bwrdd Croeso Cymru, Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, y Comisiwn Coedwigaeth, a phwyllgor digwyddiad Raw Dyfi Enduro. Dymunwn ddiolch iddynt oll am eu cymorth - ni fyddai hyn wedi bod yn bosib hebddo.
Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Teresa Walters yn ecodyfi, Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth SY20 8DT, ffôn 01654 703965 neu ebost teresa.walters@ecodyfi.org.uk. Ffacs: 01654 705018.











