|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]
|
Mae
darparwyr gweithgareddau a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau yn cydweithio er
mwyn datblygu a hyrwyddo gweithgareddau o fewn Dyffryn Dyfi.
A bellach, gyda chymorth ariannol gan Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, mae ganddynt wefan
seiliedig ar gronfa ddata ar gyfer ymwelwyr gweithgareddau.
Yn www.dyfiactive.org.uk ceir yr holl
wybodaeth sydd ei hangen ar ymwelwyr i'w galluogi i baratoi eu pecynnau gwyliau gweithgareddau eu
hunain - sut i ddod yma, llefydd i aros a phethau i'w gwneud.
Gall aelodau newydd gofrestru eu hunain ar-lein, gan deipio'r disgrifiad maent am gael ei gynnwys.
Nod Dyfi Bywiol yw creu mwy o swyddi gydol y flwyddyn ar gyfer pobl leol drwy annog mwy o dwristiaeth
gweithgareddau yn Nyffryn Dyfi.
Ond maent hefyd am ofalu bod effaith ymwelwyr gweithgareddau ar yr amgylchedd yn cael ei gyfyngu
hyd y bo modd. Dyma ddau reswm pam y rhoddodd ecodyfi gefnogaeth gyson iddynt o'r cychwyn - buom yn
helpu gyda sefydlu'r grwp, cynllunio a sicrhau cyllid, yn ogystal â rhoi cyngor ar y fframwaith
twristiaeth gynaliadwy lleol - cynllun gweithredu Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi.
Maent hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Powys drwy gyfrwng y cynllun ardal twf
twristiaeth.
Mae Dyfi Bywiol yn hyrwyddo gweithgareddau awyr agored "bywiol" o bob math, yn cynnwys hwylio a
dringo, canwio a chwarae golff, pysgota a cherdded mynyddoedd, yn enwedig ar gyfer teuluoedd a grwpiau
o ddechreuwyr a phobl sy'n chwilio am arweinyddion a thywysyddion i'w cynorthwyo.
Yn ôl y Cadeirydd Andy Williams "mae posibiliadau rif y gwlith yma - ym mha ran arall o'r
byd gaech chi dwyni tywod i chi'ch hun a thraethau syrffio, dyfroedd gwyllt a rhaeadrau heb eu profi,
coedwigoedd fesul hectar, aberoedd eang, yn nannedd y gwynt, clegyrau creigiog heddychlon, dyffrynnoedd
gwyrdd yn ymestyn dros fryn a phant, hen chwareli llechi a gweundiroedd uchel llwm - hyn oll o fewn
ychydig filltiroedd a siwrne fer, hwylus i'w gilydd?
Ac mae'n rhyfeddol nad yw ardal sydd mor hardd yn llawer mwy adnabyddus."
Dylai darparwyr gweithgareddau a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau sydd am gofrestru
ar gyfer y wefan (a'r daflen gysylltiedig) am flwyddyn gysylltu ag Ann Bottrill, Ysgrifennydd Dyfi
Bywiol, ym Mraich Goch, Corris ar 01654 761229.
|