|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
Mae dyffryn Dyfi'n cynnwys estyniad gorllewinol
Bowys, rhan o Geredigion i'r gogledd o Aberystwyth, darn o dde Gwynedd
ac ymyl deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Weithiau gwelir y sillafiad Dovey
am yr afon. Mae'n ddyffryn gyfoeth o atyniadau naturiol:
-
Ceir golygfeydd godidog o'r mr a'r
bryniau i'r gogledd o'r aber o esgair y Darren
-
Mae Aran Benllyn ac Aran Fawddwy ar ben ucha'r
dyffryn, ac yn hawdd i'w cyrraedd o Ddinas Mawddwy
-
Mae Eryri'n cynnig rhai o olygfeydd godidocaf
Prydain ac mae Cadair Idris o fewn cyrraedd cyfforddus o'r dyffryn
-
Mae ardal yr aber, yn cynnwys yr elfennau dynol
ac adeiladol, wedi ei dynodi fel gwarchodfa bïosffer cyntaf Cymru
gan UNESCO
-
I'r de o aber yr afon Dyfi, ger y Borth,
mae twyni Ynys-las a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Fochno
-
Yn rhedeg gyda glan yr aber ar y ddwy ochr
mae traethau arbennig o hardd, o Aberdyfi i Dywyn yn y gogledd ac
o Ynys-las i'r Borth yn y de.
-
Mae cwm Pennant, a'i lethrau coediog uwchben
Llanbrynmair yn enghraifft drawiadol o afon gaeth.
Mae
gweddill y dyffryn yn gymysgedd diddorol o fawnogydd, corsydd a choedwigoedd
llydanddail a bythol wyrdd, lle ceir dewis o weithgareddau awyr agored:
-
gwylio adar, yn enwedig ar yr aber,
gyda'r barcud ar y rhosydd a'r mynyddoedd
-
saethu colomennod clai yn un o'r
5 lleoliad mwyaf ym Mhrydain
-
beicio, gyda Llwybr 8 y ffordd genedlaethol
o'r gogledd i'r de yn mynd trwy'r ardal, a datblygiad
pellach amryw o lwybrau beicio mynydd a hamddena, yn cynnwys llwybrau
Mach 1,2 a 3 a agorwyd yn ddiweddar. Mae siop Greenstiles yn llogi
beiciau.
-
hwylio cychod bach a llongau hwylio
o Aberdyfi
-
golff yn Aberdyfi, y Borth a Machynlleth
-
canolfan awyr agored Outward Bound yn
Aberdyfi
-
beicio modur 4 olwyn ar gyfer pob oedran
a gallu, gyda Beiciau Madian
-
pysgota mr ac afon, yn cynnwys eog a
brithyll mr yn afon Dyfi
-
cerdded, yn defnyddio rhwydwaith o lwybrau
a ffyrdd y goedwig, yn cynnwys Llwybr Cenedlaethol Ffordd Glyndr
Mannau o ddiddordeb
(1) Atyniadau ymwelwyr
-
Canolfan anifeiliaid y Borth
atyniad ar gyfer teuluoedd yn magu ac arddangos ystod eang o anifeiliaid
egsotig, anarferol a diddorol.
-
Celtica canolfan ddehongli greadigol
o fywyd a hanes y Celtiaid yn defnyddio technoleg glyweledol a rhaglen
lawn o ddigwyddiadau drwy'r haf.
-
Canolfan y Dechnoleg Amgen a ddaeth
i enwogrwydd rhyngwladol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, yn denu pobl
a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn agweddau o fywyd cynaliadwy
yn ogystal â rhai sy'n unig yn edrych am ddiwrnod allan
diddorol.
-
Canolfan Grefft Corris sy'n cynnwys
nifer o unedau crefft o safon uchel a Chanolfan Groeso Corris.
-
Rheilffordd ac Amgueddfa Corris
cynlluniau i ail agor 2.25 milltir o'r rheilffordd i safle picnic
Tan y Coed.
-
Canolfan Gweithgareddau Dyffryn Dyfi
un o'r safleoedd saethu colomennod clai mwyaf ym Mhrydain yn
cynnig offer a hyfforddiant
-
Beiciau Madian yn cynnig chwaraeon laser
(saethu) yn ogystal â theithiau beic modur pedair olwyn drwy
olygfeydd syfrdanol.
-
Labrinth y Brenin Arthur ogofau
tan ddaearol a drysfa, portreadau dramatig, hanesion y Brenin Arthur
a chwedlau eraill.
-
Senedd-dŷ ac arddangosfa Owain Glyndr
ddrws nesaf i Ganolfan Groeso Machynlleth.
-
Rheilffordd Tal-y-llyn teithiau
ar drên bach stêm i fyny dyffryn tlws Dysynni yn ogystal
ag amgueddfa yn Nhywyn
-
Canolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol
Ynys-las a Gwarchodfa'r RSPB yn Ynyshir.
-
Y Tabernacl ac Amgueddfa Celfyddyd
Fodern Cymru mewn capel a addaswyd yn gelfydd, s'yn
denu 18,500 o ymwelwyr i arddangosfeydd a 21,000 yn ychwanegol i ddigwyddiadau
sy'n cynnwys yr Ŵyl gerdd flynyddol.
(2) Trefi a phentrefi
Mae gan y dyffryn nifer o bentrefi hynod sy'n
amrywio yn eu cymeriad. Machynlleth yw'r brif dref gyda'i marchnad
brysur ar ddydd Mercher, siopau arbenigol, orielau a chanolfan groeso
arbennig o gymwynasgar yn ogystal ag atyniadau mwy fel Celtica a'r
Tabernacl.
Mae tref lân mr ddeniadol Aberdyfi a'i
draeth melyn hir, ar lan ogleddol yr aber, yn angorfa brysur i gychod
hwylio a rhwyfo a gorsaf bad achub yr RNLI. Mae'n dref o strydoedd
culion, siopau deniadol ac arbenigol, canolfan groeso a golygfeydd ar
draws yr aber.
Ar ochr ddeheuol yr aber mae'r Borth a'i
draeth hyfryd, a'r meysydd carafannau eang yn ffinio ar dwyni tywod
Ynys-las. Mae'r pentref ar ben eithaf llwybr arfordir Ceredigion
yn cynnig y ganolfan anifeiliaid boblogaidd, maes golff, hostel ieuenctid
a nifer o dai gwely a brecwast. O ddiddordeb adaregol a daearegol arbennig,
mae yno goedwig betraidd yn ymddangos pan fo'r llanw'n isel.
Cymer Ffwrnais a'i olwyn ddwr enfawr,
ei enw o Ffwrnais Dyfi, sy'n rhan bwysig o hanes y diwydiant haearn
yng Nghymru. Mae rhwng Y Borth a Machynlleth.
Yn Llanbrynmair, ffocws dwyrain y dyffryn mae amgueddfa
newydd i Automata.
Ym mhen ucha'r dyffryn yn Ninas Mawddwy mae
yna ganolfan ymwelwyr y diwydiant gwlân ym Melin Meirion.
Cyn bentref y diwydiant llechi yw Corris sydd bellach
yn cynnig nifer o atyniadau i ymwelwyr, yn cynnwys Canolfan Grefft, Labrinth
y Brenin Arthur ac Amgueddfa Rheilffordd Corris.
Dick
William's amateur site has much information and many photographs and
maps of the area in English.
|