ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Diwylliant a hanes

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]


Tudalennau eraill yn yr adran ymwelwyr

Hafan werdd

Mannau o ddiddordeb

Cyrraedd yma

Cymdeithas ddwyieithog sydd ym mro Ddyfi, yn cyfuno ffyrdd traddodiadol o wneud pethau â dylanwadau newydd.

Prif gyflogwyr yr ardal oedd y chwareli llechi, coedwigaeth a ffermio defaid, sydd erbyn hyn wedi eu disodli gan dwristiaeth a gwasanaethau eraill.

Fe chwaraeodd ffermio ran amlwg yn natblygiad y tirlun ac mewn cynnal traddodiadau'r ardal. Heddiw, er bod ysbryd mentro a syniadau newydd ar gynnydd, mae diweithdra yn y dyffryn yn gymharol uchel.

Mae'r iaith Gymraeg yn elfen fyw a chryf o'r cymunedau lleol, gyda chymdeithas o 60% o siaradwyr Cymraeg ym Machynlleth a hyd at 80% mewn rhannau o'r dyffryn. Mae nifer fawr o fewnfudwyr ac ymwelwyr yn dewis astudio'r Gymraeg drwy fynd i wersi iaith neu trwy ymuno â gweithgareddau a grwpiau Cymraeg.

Mae'r dyffryn yn cynnig gwledd o allweddau i'r gorffennol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes. Ceir yma gromlechi a chylchoedd cerrig o'r cynfyd. Mae olion ceiri, cloddfeydd a ffyrdd o adeg y Rhufeiniaid. Yn gyfoeth o hanes Owain Glyndwr, Tywysog Cymru, Machynlleth oedd safle senedd ddiwethaf Cymru. Mae canolfan ddehongli yn y senedd-d^y ar Heol Maengwyn a gellir cael gwybodaeth am 'lythyr Pennal' yn eglwys pentref Pennal. Mae gan Gymdeithas Owain Glyndwr wybodaeth ar www.owain-glyndwr-soc.org.uk

Mae Celtica yn cynnig mynediad i fyd y Celtiaid. Mae archeoleg ddiwydiannol yn cynnwys ffwrnesi dur yn cael eu rhedeg gan dd^wr, a gweithfeydd llechi yn ogystal â'r isadeiledd a ddatblygodd yn eu sgil.

Mae nifer o gyfeirlyfrau ardderchog ar gael i'r dyffryn. Ceir manylion pellach gan gyhoeddwyr lleol, Y Lolfa www.ylolfa.com . Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth www.llgc.org.uk yn croesawu ymweliadau gan bobl leol ac ymwelwyr.

Brig y dudalen