ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cylchlythyr Haf 2003

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

 

Cymunedau yn Gyntaf

Yn yr adran hon:

Llyfr Syniadau

Cymunedau yn gyntaf

Hyfforddiant am ddim

Cylchlythyr Gwanwyn 2004

Cylchlythyr Chwefor 2004

Cylchlythyr Hydref 2003

Newyddion Hydref

Cylchlythyr Medi 2004

Cylchlythyr Haf 2003

Cylchlythyr Gwnwyn 2003

Cylchlythyr Mawrth 2003

Cylchlythyr Ionawr 2003

Diwrnod Agored a lansio 'Llyfr Syniadau' Bro Ddyfi

Er nad aeth y Diwrnod Agored a gynhaliwyd ar Orffennaf 2il yn hollol yn ôl y disgwyl, bu'n llwyddiant mawr a derbyniodd sylw da gan y wasg.

Ar ddiwrnod marchnad braf o haf doedd pobl ddim yn awyddus i ddod i mewn o'r haul, felly fe addaswyd y trefniadau trwy osod bwrdd y tu allan i'r drws, ynghyd â lluniaeth ysgafn a thaflenni yn egluro prif raglen Cymunedau yn Gyntaf, yn ogystal â Chronfa'r Ymddiriedolaeth. Roedd gennym fwrdd arddangos gwybodaeth hefyd yn ogystal â 'Llyfr Syniadau'.

Lansiwyd y 'Llyfr Syniadau' dwyieithog y bore hwnnw, ac fe'i gwnaethpwyd yn ddogfen gyhoeddus er mwyn denu syniadau pellach. Ynddo mae pob un syniad, barn ac awgrymiad a dderbyniwyd hyd yn hyn oddi wrthych chi, y bobl leol, ac mae'n dangos pa bethau y teimlwch chi sydd angen eu gwneud i wella ansawdd eich bywyd, ac i greu adfywiad cynaladwy yma ym Mro Ddyfi.

Roedd aelodau o'r Grwp Llywio ynghyd â'r Hwylusydd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau ac i roi mwy o wybodaeth i'r wyth deg a mwy o bobl o bob oed, cefndir a rhyw a ymwelodd â ni yn ystod y dydd. O ganlyniad derbyniwyd pum deg saith o syniadau i'w hychwanegu at y llyfr. Bydd rhai o'r rhain yn ail-adrodd syniadau a dderbyniwyd eisoes, ond bydd pob barn, awgrym a syniad newydd yn cael eu cynnwys yn y llyfr fel y bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson.

Ann Williams yn trafod y 'Llyfr Syniadau' gydag aelodau o'r gymuned yn ystod y Diwrnod Agored.Llun: Ann Williams, aelod o'r Grwp Llywio, yn trafod y 'Llyfr Syniadau' gydag aelodau o'r gymuned yn ystod y Diwrnod Agored.

Mae'n bosib i chi weld 'Llyfr Syniadau' Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, ac ychwanegu unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu syniadau ato yn y mannau canlynol oddi mewn i ardal Powys o Fro Ddyfi:

  • Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth

  • Canolfan Hamdden Bro Ddyfi

  • Llyfrgell Machynlleth

  • Canolfan Gofal Machynlleth

  • Canolfan Iechyd Machynlleth

  • Swyddfeydd y Cyngor, Machynlleth

  • Swyddfa'r Post Llanbrynmair

  • Swyddfa'r Post Comins Coch

  • Swyddfa'r Post Glantwymyn

  • Canolfan Iechyd Glantwymyn

  • Swyddfa'r Post Cwmllinau

  • Neuadd y Pentref Derwenlas

  • Canolfan Gymdeithasol Aberhosan

  • Siop Ceinws

Bydd y llyfr yn cael ei ddiweddaru'n gyson, felly mae croeso i chi gyflwyno'ch syniadau, sylwadau ac awgrymiadau. NID yw yn Gynllun Gweithredu, on, wrth gwrs, bydd yn arf defnyddiol dros ben i'r Hwylusydd a'r Grwp Llywio wrth iddynt weithio tuag at ffurfio Cynllun Gweithredu ar gyfer Bro Ddyfi.

Mae hwn yn GYFLE I CHI FYNEGI EICH BARN ynglyn â'ch DYFODOL CHI, ond y mae hynny'n wir am y gymuned gyfan, felly anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gynnig eu syniadau, ac i gyfranogi mewn unrhyw ffordd bosibl.

Mae croeso i unrhyw un gysylltu â swyddfa Cymunedau yn Gyntaf am sgwrs ar unrhyw agwedd o'r broses hon.

Cyfarfodydd Grwpiau thema a chymryd rhan pellach

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd lle cynigwyd llawer o wybodaeth i broses Cymunedau yn Gyntaf.

Mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd agored ar 'Tai a Chynllunio' yng Nglantwymyn, ac 'Yr Economi a Gwaith' yn Llanbrynmair. Roedd y ddau gyfarfod hyn yn gyfarfodydd 'Fforwm Lleol' , ac yn gweithio fel grwpiau thema Cymunedau yn Gyntaf yn ogystal er mwyn osgoi cynnal cyfarfodydd diangen.

Bydd Fforwm Lleol, a gadeirir gan Andy Rowland o ecodyfi, sydd hefyd yn aelod o Grwp Llywio Cymunedau yn Gyntaf, yn trefnu cyfarfodydd pellach yn fuan a fydd yn cyflenwi gwybodaeth i'r ddwy broses. Gellir cael gwybodaeth bellach ynglyn â'r cyfarfodydd hyn cyn gynted ag y bydd y dyddiadau a'r materion i'w trafod wedi'u cadarnhau.

Mae grwpiau eraill sydd eisoes wedi cwrdd yn cynnwys Trafnidiaeth, Bandllydan, Iechyd a Lles gan gynnwys yr Henoed a Gofal Plant. Mae cyfarfod o'r Grwp Ieuenctid i'w gynnal yn y Ganolfan Ofal, Machynlleth, Medi 18fed am 6.30 pm.

Bydd rhai, os nad y cyfan o'r grwpiau hyn yn parhau i gwrdd fel rhan o'r broses bwysig hon, felly cofiwch adael i ni wybod os ydych am fod yn rhan o unrhyw un ohonynt neu, yn wir, unrhyw faes arall a all fod o ddiddordeb y dylem ffurfio Grwp i'w drafod ymhellach.

Mae Cyril yn croesawu unrhyw gyfle i wrando ar farn, awgrymiadau a syniadau pawb ynglyn â dyfodol Bro Ddyfi. Mae'n bosib mai hwn yw'r tro cyntaf i chi gael cyfle iawn i fynegi'ch barn ynglyn â dyfodol y dyffryn hardd rydym yn byw ynddo.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Cymunedau yn Gyntaf, yna galwch heibio am sgwrs, neu cysylltwch â'r swyddfa i drefnu i Cyril annerch eich Grwp neu eich sefydliad.

Cronfa'r Ymddiriedolaeth

Cynllun grantiau bychain a anelir at gefnogi gweithgareddau sy'n darparu budd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl yw 'Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf', a dangoswyd llawer o ddiddordeb ynddi a gwnaethpwyd cryn ddefnydd ohoni eisoes. Mae ar

gael i grwpiau di-wneud-elw sy'n gweithio ac yn ymwneud â phobl o fewn i ardal Cymunedau yn Gyntaf.

Penderfynodd y Grwp Llywio na fydd yn cefnogi unrhyw geisiadau dros �5000,fel y gall mwy o bobl elwa o grantiau llai. Dylai hyn arwain at benderfyniadau buan, gan y delir â phob cais o dan �5000 yng Nghaerdydd a hynny o fewn deg diwrnod ar hugain.

Hyd yma, cyflwynwyd ceisiadau llwyddiannus gan Glwb 'Mach Live', Elemental Earth, Teenzone, Neuadd Bentref Cwmllinau, Equilibre, Prosiect Plant Cymuned Machynlleth a phrosiect Joan & Darby'r ardal (Darby & Joan yn flaenorol - cais trwy law CAMAD).

Mae'r ceisiadau sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yn cynnwys: Cylch Meithrin Ti a Fi (Glantwymyn),

Côr Gore Glas, Canolfan Gymdeithasol Aberhosan, Fideo I Bawb, Clwb Crewi, Gyl Glyndr a Neuadd y Jiwbilî Cemaes.

Derbynnir ceisiadau am arian gan brosiectau amrywiol iawn, o welliannau bychain i astudiaethau dichonoldeb ar neuaddau pentref, gweithgareddau cerddorol a digwyddiadau diwylliannol eraill, prosiectau ieuenctid, fideo yn y gymuned, cymorth i alluogi Grwp cymunedol i barhau, yn ogystal â grwpiau sy'n ymwneud â gofal plant a'r iaith, a hyd yn oed babell i ddarparu canolfan i bentref ar gyfer adloniant a gweithgaredd cymdeithasol.

Gwerthfawrogiad Cyfranogol

Gan fod Bro Ddyfi wedi'i dewis fel ardal beilot ar gyfer Gwerthfawrogiad Cyfranogol gan y Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf, bydd cyfle i rai gwirfoddolwyr brwdfrydig dderbyn hyfforddiant gan ymgynghorwyr profiadol ac i weithio gyda'r hwylusydd, ac o bosib rhai aelodau o'r Grwp Llywio i gyflawni'r ymarferiad ymgynghorol pwysig hwn.

Os oes gennych ddiddordeb, yn ogystal â'r ymrwymiad a'r amser i'n helpu yn y cyfeiriad hwn, a'ch bod

yn byw yn ardal Bro Ddyfi, yna cysylltwch â swyddfa Cymunedau yn Gyntaf am fwy o fanylion cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda. Byddem yn croesawu diddordeb o gyfeiriad pobl sy'n byw yn Llanbrynmair ac ardal Bryn-y-Gog ym Machynlleth yn arbennig.

Brig y dudalen