ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cylchlythyr Gwanwyn 2003

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Cymunedau yn Gyntaf

Yn yr adran hon:

Llyfr Syniadau

Cymunedau yn gyntaf

Hyfforddiant am ddim

Cylchlythyr Gwanwyn 2004

Cylchlythyr Chwefor 2004

Cylchlythyr Hydref 2003

Newyddion Hydref

Cylchlythyr Medi 2004

Cylchlythyr Haf 2003

Cylchlythyr Gwnwyn 2003

Cylchlythyr Mawrth 2003

Cylchlythyr Ionawr 2003

Mae Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi wedi symud ymlaen tipyn yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn.

Mae'r Hwylusydd, Cyril Evans, yn trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhai o'r grwpiau sydd wedi mynegi diddordeb wrth i'r broses o ymgynghori yn y Gymuned barhau i geisio darganfod gwybodaeth am anghenion, barn a diddordebau'r gymuned.

Mi fuasai Cyril yn falch iawn o gael y cyfle i wrando ar farn unrhyw un, ac i dderbyn awgrymiadau a syniadau ynglyn â dyfodol Bro Ddyfi, oherwydd am y tro cyntaf fwy na thebyg, y bobl sydd yn bwysig - chi fel unigolion sy'n cael cyfle go iawn i gael eich barn wedi ei glywed am ddyfodol y fro hardd hon.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Gymunedau'n Gyntaf mae croeso i chi alw am sgwrs fel unigolyn, neu os hoffech fel grwp neu fudiad gael cyflwyniad gan Cyril, mae croeso i chi gysylltu â'r swyddfa i drefnu hyn hefyd.

Mae swyddfa Cymunedau'n Gyntaf erbyn hyn wedi symud i gartref parhaol yn Nhy Bro Ddyfi, sef 'Canolfan Menter Cymunedol', adeilad sy'n gartref i nifer o fudiadau cymunedol.

Grwp lliwio

Ehangwyd grwp lliwio yn ddiweddar i dri ar ddeg o aelodau, gyda chynrychiolaeth ychwanegol i ddod o ardal Llanbrynmair yn y dyfodol agos. Fe fydd hyn yn ehangu'r profiad helaeth a'r sgiliau a gwybodaeth am yr ardal sydd eisoes yn bodoli o fewn y grwp.

Communities First Steering  group members Aelodau'r Grwp lliwio (Chwith i'r de)

Cefn: Iona Sawtell (Cadeirydd), Stephen Tudor, Arfon Hughes, Andy Rowland a Nick Waller. Canol: Anwen Davies, Sioned Pughe, Nicola Dunkley a Cerys Humphreys. Blaen: Gwilym Fychan, Cyril Evans (Hwylusydd), ac Ann Williams. Dim yn y llun: Myra Francis a Hedd B. Williams.

Bydd y grwp a'r hwylusydd yn awr yn ystyried creu sawl 'Grwp Thema' ar y themâu a'r is - themâu /categorïau a ddynodwyd. Fe fydd maint a themâu'r grwpiau'n dibynnu ar y diddordeb a ddangosir.

Er gwybodaeth i'r sawl sydd yn newydd i'r rhestr bostio, nodir y prif themâu ar is - themâu isod:

Y prif benawdau neu themu yn canlyn y digwyddiadau cymunedol (Themâu Bro Ddyfi)

  • Yr Economi a Gwaith

  • Addysg a Hyfforddiant

  • Tai

  • Cefn Gwlad a'r Amgylchedd

  • Cludiant a Chyfathrebu

  • Iechyd a Lles

  • Gweithgareddau Yn Y Gymuned

  • Ansawdd Bywyd

Yr is- gategorïau/themu a ddynodwyd

Iaith a Diwylliant

Adloniant

Y Celfyddydau a Hamdden

Cludiant a chyfathrebu

Neuaddau Pentrefi

Cefn Gwlad a'r Amgylchedd

Ysgolion

Gofal Iechyd

Adeiladau, Llety a thai

Cyllid

Twristiaeth

Gwaith, Busnes a darparu gwasanaethau

Iaith, Diwylliant ac Addysg

Tirlun

Cyfathrebu Cyfreithiol a Chymdeithasol

Difyrrwch ac Adloniant

Cynaladwyedd

Ymwybyddiaeth o'r ardal

Chwaraeon a Gweithgareddau

Ieuenctid

Tai a Gwaith

Canolfan Technoleg Amgen

Henoed

Ansawdd bywyd

Ein bwriad yw ffurfio sawl 'Grwp Thema', felly mae'n amser da i roi gwybodaeth i ni os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn unrhyw bwnc.

Os oes, cysylltwch a Cyril yn Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Rhif ffon: 01654 700315 E-Bost: Cyril@powys.gov.uk.

Llyfr syniadau

Yn y dyfodol agos, fe fydd 'Llyfr Syniadau' dwyieithog ar gael i'r cyhoedd er mwyn annog sylw. Bydd y llyfr yma'n cynnwys pob awgrymiad a syniad sydd wedi dod i law hyd yn hyn, oddi wrthych chi, bobl Bro Ddyfi am yr hyn sydd ei angen i wella ar ansawdd bywyd, ac er mwyn sicrhau adfywhad cynaliadwy i'r ardal.

Fe fydd y llyfr yma ar gael mewn amryw o lefydd ym Mro Ddyfi, o fewn Powys, (llefydd a dyddiadau i'w penderfynu), a bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson, felly mae croeso i chi roi mwy o syniadau neu awgrymiadau i ni.

NID Cynllun Gweithredu yw hwn, ond yn naturiol fe fydd yn declyn defnyddiol iawn i helpu yr Hwylusydd a'r Grwp Lliwio i lunio Cynllun Gweithredu ar gyfer Bro Ddyfi.

Dyma EICH CYFLE CHI i fynegi EICH BARN CHI am EICH DYFODOL CHI.

Brig y dudalen