ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cylchlythyr Chwefor 2004

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

 

Cymunedau yn Gyntaf

Yn yr adran hon:

Llyfr Syniadau

Cymunedau yn gyntaf

Hyfforddiant am ddim

Cylchlythyr Gwanwyn 2004

Cylchlythyr Chwefor 2004

Cylchlythyr Hydref 2003

Newyddion Hydref

Cylchlythyr Medi 2004

Cylchlythyr Haf 2003

Cylchlythyr Gwnwyn 2003

Cylchlythyr Mawrth 2003

Cylchlythyr Ionawr 2003

Grwpiau Thema yn cynnwys Gig Bobl Ifanc

Yn canlyn cyfarfod o'r 'Grp Pobl Ifanc' yn ôl ym mis Medi, a hefyd mewn ymateb i ymgynghoriad gyda rai o ieuenctid yr ardal, mi gynhaliwyd 'Gig'llwyddiannus iawn yn y Ganolfan Gymunedol ym Machynlleth ar Ragfyr 18 gan y grwp Pobl Ifanc.

Daeth tua chant o bobl ifanc i'r Ganolfan i wrando ar ac i fwynhau ar un o fandiau mwyaf addawol Cymru, sef Kentucky AFC, a dau fand lleol, sef Acid Reign a Pickle Rooney.

Roedd hefyd yn noson lwyddiannus iawn o ran ymgynghori gyda ieuenctid yr ardal a ffeindio allan ei hanghenion.

Cafodd 49 o holiaduron ei chwblhau gyda o leiaf deg o bobl ifanc yn barod i helpu gyda threfnu y fath noson yn y dyfodol.

Diolch i bawb a helpodd allan ar y noson, a hefyd i raglen 'Noson Allan' Cyngor Celfyddydau Cymru, a wnaeth y noson yn bosib.

Edrychwn ym mlaen at noson arall debyg cyn bo hir.

Fe fydd y grwp Pobl Ifanc yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried anghenion pobl ifanc yr ardal, ac i ymgynghori gyda a chynnwys y bobl ifanc eu hunain.

Mae'r Grp Llywio a'r Hwylusydd wedi parhau i sefydlu 'Grwpiau Thema', a'r diweddaraf o'r rhain yw'r 'Grp Iaith a Diwylliant'.

Dywedodd Cyril, yr Hwylusydd, "cawsom ein cyfarfod cyntaf o'r grwp yma ar nos Fercher Ionawr 14 yn y Ganolfan Gofal ym Machynlleth, gyda Gareth Ioan o Cwmni Iaith Cyf, yn siaradwr gwadd.

"Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y grwp yma neu mewn unrhyw thema benodedig, gysylltu â mi yn Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf."

Kentucky AFC Grwp o fobol ifanc yn mwynhau'r gig

Kentucky AFC

Grwp o fobol ifanc yn mwynhau'r gig

Cronfa Cymunedau'n Gyntaf

Er bod yr arian sydd ar gael i'r ardal am y tair blynedd gyntaf bron wedi ei ddefnyddio i gyd, dywedodd yr Hwylusydd Cyril Evans, "mae y cynulliad wedi penderfynu bod y gronfa yma yn mynd i barhau, a bod arian ychwanegol yn mynd i fod ar gael o fis Ebrill ymlaen, er nac ydynt wedi dweud faint o arian ar hyn o bryd.

Bu cryn ddiddordeb yn, a defnydd o'r gronfa yma, sydd yn gynllun grantiau bach gyda'r bwriad o gefnogi gweithgareddau sydd o les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol, yn cynnwys prosiectau gwelliannau bach i, ac astudiaethau dichonolrwydd ar neuaddau pentref, gweithgareddau cerddorol a digwyddiadau diwylliannol eraill, prosiectau ieuenctid, fideo i'r gymuned,cymorth i alluogi grwp cymunedol sydd eisoes wedi'i sefydlu i barhau, yn ogystal â grwpiau sy'n ymwneud â gofal plant a'r iaith,a hyd yn oed pabell fawr i fod yn ganolfan adloniant a gweithgareddau cymdeithasol mewn pentref".

Llyfr Syniadau Bro Ddyfi

Mae 'Llyfr Syniadau' dwyieithog Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnwys pob un syniad, barn ac awgrym oedd wedi dod i law gan bobl leol, yn lleisio barn am yr hyn maen nhw'n credu sydd ei angen i wella ansawdd bywyd, ac er sicrhau adfywiad cynaladwy i Bro Ddyfi wedi bod ar gael mewn nifer o leoliadau ym Mro Ddyfi ers mis Gorffennaf, a byddwn yn ei ddiweddaru cyn bo hir, felly os oes gennych chi unrhyw syniadau, sylwadau ac awgrymiadau, nawr yw'r amser i chi ei ysgrifennu yng nghefn y llyfr, fel ei bod yn cael ei gynnwys yn y fersiwn nesaf".

Gellir cael hyd i gopi ar e-bost hefyd, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith, a gellir gwneud trefniadau i dderbyn copi yn y dull yma trwy gysylltu â'r swyddfa ar 01654 700315 neu drwy e-bostio cyril@powys.gov.uk.

Hefyd mae gwybodaeth sylweddol ar yr ardal gyfan gan gynnwys adran ar Gymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, sy'n cynnwys y llyfr syniadau, cylchlythyrau a gwybodaeth arall ar Wefan Ecodyfi: http://www.ecodyfi.org.uk/regeneration.htm

Cymunedau yn Gyntaf a Fforwm Lleol Machynlleth a'r Ardal

Cawsom gydgyfarfod yn ddiweddar i edrych ar yr holl syniadau ac awgrymiadau rydym wedi derbyn hyd yn hyn, gyda'r bwriad o baratoi cynllun gweithredu dros dro, ond oherwydd bod mor gymaint o waith trafod a threfnu ar y syniadau ac awgrymiadau yma cyn ei gosod mewn themâu, a hefyd trwy fod teimlad y dylai rhai ohonynt gael ei cynnwys o dan fwy nac un or themâu, penderfynwyd y dylem gael cyfarfod arall cyn paratoi y cynllun.

Dyddiad i'w penderfynu - Rhowch wybodaeth os ydych am fynychu'r cyfarfod.

Cynllun Band Llydan Machynlleth

Mae cyswllt Band Llydan yn gyfrwng cyflym o anfon a derbyn gwybodaeth drwy'r Rhyngrwyd.

Mae'n galluogi i ddefnyddwyr unigol dderbyn rhaglenni cyfrifiaduron, cerddoriaeth a theledu fwy na heb o bedwar ban byd i'w sgrîn ar yr aelwyd.

Yn achos defnyddwyr busnes, gall roi hwb i gynhyrchiant a lleihau costau, er budd i'r economi lleol a swyddi yn y cylch.

Dyma resymau da i fanteisio ar gyswllt Band Llydan, ond maen tramgwydd - rhaid i ddigon o bobl yr ardal gofrestru eu diddordeb ynddo cyn y caiff ei gyflwyno yma.

BT yw'r cwmni all ddarparu cyswllt Rhyngrwyd Band Llydan i ni, ond ni wnânt weithredu hyd nes y bo nifer o bobl sy'n dweud eu bod am ei dderbyn yn cyrraedd rhif arbennig.

Y 'trothwy' a elwir hwn ganddynt.

Y nifer a bennwyd ar gyfer Machynlleth yw 400 o bobl - gosodwyd rhif is ar gyfer cyfnewidfeydd ffon eraill yn Nyffryn Dyfi.

Rydym am roi hysbys i'r angen i gofrestru a dyma lle mae angen eich help arnom.

i ddechrau, os ydych yn defnyddio'r Rhyngrwyd gartref neu yn y gwaith, ewch i www.machbroadband.org.uk er mwyn cael gwybod mwy am gofrestru, a sut mae'r ymgyrch yn datblygu.

Wedyn beth am ein helpu drwy roi cynnig ar ein cystadleuaeth logo.

Rydym am i chi ddylunio'r logo i'w roi ar ein taflenni band llydan i gyd, ac er mwyn cael dipyn o hwyl, byddwn yn dangos gwaith pob cystadleuydd ar ein gwe fan ac yn ffenestr Ty Bro Ddyfi, Machynlleth.

Bydd pwy bynnag, yn ein barn ni, fydd wedi cynhyrchu'r logo gorau yn ennill PLAYSTATION 2, ac yna fe'i dylunnir yn broffesiynol a'i argraffu at ein holl bosteri a gwaith papur.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw Chwefror 29ain 2004.

Mae'r ffurflenni ymgeisio ar gael o T Bro Ddyfi, Llyfrgell Machynlleth, Teleganolfan, neu ar we fan band llydan.

Safle Gwersyll Ceinws

Mae bwriad i holi trigolion Ceinws i ganfod sut yr hoffent i'w cymuned gael ei hail ddatblygu, gyda chyhoeddi bod camau i wella amgylchedd yr ardal ar y gweill, a rhwng nawr a mis Mawrth, bydd astudiaeth yn cael ei chynnal ar flaenoriaethau'r trigolion.

Ni wneir unrhyw ddefnydd o'r rhan fwyaf o adeiladau safle'r Comisiwn Coedwigaeth yn y pentref, ac y mae rhai ohonynt mewn cyflwr gwael.

Mae yma hefyd dir llawr caled a thir arall.

Gosodir dau adeilad ar brydlesi cyfnod byr ac y mae dau d yma hefyd.

Rhoddwyd peth nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru er mwyn galluogi i ecodyfi benodi ymchwilwyr proffesiynol i ddarganfod yr hyn y carai trigolion Ceinws ac Esgairgeiliog ei weld yn digwydd yma a sut yr hoffent gynorthwyo, a hefyd ystyried agweddau cynllunio, mynediad, pa mor gydnaws yw unrhyw gynlluniau, cynlluniau amlinellol, costau, ariannu a rheoli.

Ni chyfyngir syniadau i waith coed na'r diwydiant coed, ac mae croeso i unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth pellach, neu sydd ag unrhyw syniadau neu awgrymiadau yngln â defnydd posib i Wersyll Ceinws, gysylltu a unai: Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965, Dave Farmery, Comisiwn Coedwigaeth Cymru 01341 422289, neu Cyril Evans, Hwylysudd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315.

Dadansoddiadau ar Anghenion Tai ag Anghenion Cludiant

Mi fydd Cymunedau yn Gyntaf mewn cydweithrediad a CAMAD, Ecodyfi, Cyngor Sir Powys a Chyngor Cymuned Glantwymyn yn gobeithio cario allan dadansoddiadau ar anghenion tai ag anghenion cludiant dros y misoedd nesaf.

Hoffwn gymryd y cyfle yma i gyfeirio at y pwysigrwydd o gwblhau a dychwelyd yr holiaduron yma, a hefyd gofyn i chi annog eich ffrindiau a chymdogion i gwblhau a dychwelyd nhw er mwyn bod ni'n ymwybodol o'ch gofynion yn y dyfodol.

Mae'r Grp Llywio hefyd wedi ysgrifennu at Cynghorau Cymunedol Cadfarch a Llanbrynmair yn ogystal â Chyngor Tref Machynlleth i ofyn am eu cefnogaeth i'r darn gwaith pwysig iawn yma.

Bydd Cyfarfodydd nesaf y Grp Llywio yn Neuadd Gymunedol Llanbrynmair ar Nos Lun Chwefror 23 am 6.00 y.h. ac yn Canolfan Aberhosan ar Dydd Mercher Mawrth 24 am 1.00 y.p.

**Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd Grp Llywio*

 

 

Brig y dudalen