Cylchlythyr Mawrth 2003 |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi wedi symud ymlaen yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror.Mae'r Hwylusydd, Cyril Evans, yn trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhai o'r grwpiau sydd wedi mynegi diddordeb wrth i'r broses o ymgynghori yn y Gymuned barhau i geisio darganfod gwybodaeth am anghenion, barn a diddordebau'r gymuned. Dywedodd Cyril, "Rhaglen newydd, gyffrous a gwahanol yw hon, ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau gwybod beth yw eich dyheadau chi a sut yr hoffech eu gweld nhw'n digwydd. Buaswn yn falch o gael y cyfle i wrando ar farn unrhyw un, ac i dderbyn awgrymiadau a syniadau ynglyn o dyfodol Bro Ddyfi, oherwydd am y tro cyntaf fwy na thebyg, y bobl sydd yn bwysig - chi fel unigolion sy'n cael cyfle go iawn i sicrhau rhaglen adfywio cynaliadwy yn y fro hardd hon". Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Gymunedau'n Gyntaf mae croeso i chi alw am sgwrs fel unigolyn, neu os hoffech fel grwp neu fudiad gael cyflwyniad gan Cyril, mae croeso i chi gysylltu o'r swyddfa i drefnu hyn hefyd. Mae swyddfa Cymunedau'n Gyntaf erbyn hyn wedi symud i gartref parhaol yn Nh� Bro Ddyfi, sef 'Canolfan Menter Cymunedol' dan reolaeth Ecodyfi, adeilad sy'n gartref i nifer o fudiadau cymunedol. Mae'r manylion cyswllt a chyfeiriad newydd fel a ganlyn: Cymunedau'n Gyntaf - Bro Ddyfi, T� Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT. Ffon: 01654 700315 E-Bost: Cyril@powys.gov.uk. Cadeiryddes newydd
Daeth Iona i fyw i ardal Machynlleth ym 1995, a'i bwriad ar y pryd oedd aros a gweithio yn yr ardal am gyfnod o ryw chwe mis, ond fel y dywedodd " Roeddwn mor hoff o'r ardal, yma 'dwi wedi bod ers hynny". Yn ystod ei 8 mlynedd yn yr ardal, mae Iona wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, ond y ffactor oedd yn gyffredin iddyn nhw i gyd oedd gweithio gyda grwpiau. Roeddynt yn cynnwys gweithio yn Ysgol Bro Ddyfi, yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, fel labrwr ar brosiectau adeiladu, yn ogystal o gofalu am blant. Mewn ateb i gwestiwn ynglyn â'i gwaith presennol, dywedodd Iona. "Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o dïïm sy'n gweithio ledled Powys i 'Cyfryngu Powys' ar raglen sy'n helpu plant ysgol dysgu sut i ddatrys eu brwydrau eu hunain. Rwyf hefyd yn gweithio rhan amser yn 'Celtica' ac yn rhan o fudiad lleol newydd o'r enw 'Fideo I Bawb', sydd yn cynnal gweithdai fideo cyfrannol". Dywedodd Iona, sydd wedi dysgu'r iaith ac sydd yn amlwg yn frwdfrydig iawn ac yn hoff iawn o'r ardal, ac yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg "Teimlaf fod cynllun Cymunedau'n Gyntaf yn bositif iawn, a chredaf yn gryf yn y syniad o gymryd amser a defnyddio dulliau amrywiol i gynnwys pobl ardal Bro Ddyfi yn y broses o benderfynu ar ddyfodol y Fro". Er ei bod yn mwynhau'r swyddi amrywiol sydd ganddi, dywed Iona bod ganddi fwy o ddiddordeb mewn byw nac mewn gweithio, ac mae'n rhoi llawer o'i hamser i'r broses o ddod i adnabod a mwynhau ardal Bro Ddyfi. Esboniodd yr Hwylusydd, Cyril Evans "tra mae Iona yn cynrychioli Cadfarch ar y grwp llywio gyda Sioned Pugh, cynrychiolwyr Machynlleth yw Andy Rowland a Myra Francis, tra mae Gwilym Fychan ac Ann Williams yn cynrychioli Glantwymyn . Hedd Bleddyn Williams yw'r unig gynrychiolydd o Lanbrynmair am y tro, ond fe fydd y grwp llywio yn ehangu cyn bo hir, a phryd hynny penodir cynrychiolydd arall o ardal ddaearyddol Llanbrynmair, yn ogystal ag eraill. Wedyn fe fydd y profiad helaeth a'r sgiliau a gwybodaeth am yr ardal sydd eisoes yn bodoli o fewn y grwp yn cael eu cyflenwi a'u hehangu fel bo'r angen yn codi". Mae Cyril yn awyddus i weld cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn cynnig syniadau ac awgrymiadau a dywedodd "mae'n hynod bwysig er mwyn inni sicrhau llwyddiant y rhaglen hon, fod unrhyw un sydd am gael y cyfle yn cynnig cyfraniad, ac os nad yw unigolyn am ddod i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau, yna mae croeso iddi/iddo gysylltu o mi neu ag unrhyw aelod o'r grwp i gynnig unrhyw sylwadau ar anghenion Bro Ddyfi yn y dyfodol" Mae Hwylusydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi a'r Grwp Llywio yn derbyn cefnogaeth gan Sarah Deaves, Prif Swyddog Cynllunio Cymunedol ac Adfywio Cyngor Sir Powys, a John Harrington PAVO - gellir cysylltu John ar 01686 626220. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||