|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
26 Medi 2003
Mae 'Llyfr Syniadau' Cymunedau
yn Gyntaf Bro Ddyfi, wedi ei wneud yn ddogfen gyhoeddus er mwyn denu syniadau
ychwanegol, ac i alluogi pobl i ychwanegu unrhyw sylwadau, awgrymiadau
neu syniadau.
Mae'r 'Llyfr Syniadau' dwyieithog
yn cynnwys pob un syniad, barn ac awgrymiad a dderbyniwyd (hyd at y diweddariad
diwethaf), oddi wrthych chi, y bobl leol, ac mae'n dangos pa bethau y
teimlwch chi sydd angen eu gwneud i wella ansawdd eich bywyd, ac i greu
adfywiad cynaladwy yma ym Mro Ddyfi.
Bydd y llyfr yn cael ei ddiweddaru'n gyson, felly
mae croeso i chi gyflwyno'ch syniadau, sylwadau ac awgrymiadau, fel
y gellir ei cynnwys.
NID yw yn Gynllun Gweithredu, on, wrth gwrs, bydd
yn arf defnyddiol dros ben i'r Hwylusydd a'r Grp Llywio wrth iddynt weithio
tuag at ffurfio Cynllun Gweithredu ar gyfer Bro Ddyfi.
Mae hwn yn GYFLE I CHI FYNEGI EICH BARN yngln â'ch
DYFODOL CHI, ond y mae hynny'n wir am y gymuned gyfan, felly anogwch eich
teulu, ffrindiau a chymdogion i gynnig eu syniadau.
Bydd y llyfr hwn yn cael ei ddiweddaru'n gyson,
felly ceisiwch ein helpu trwy ddefnyddio'r
tudalennau gwag yn y cefn i gynnig eich sylwadau ac unrhyw syniadau
newydd neu awgrymiadau.
Mae mwy o wybodaeth i'w gael o swyddfa Cymunedau'n
Gyntaf am yr holl syniadau ac awgrymiadau a geir yn y llyfr hwn ac a nodwyd
â seren*
Mae'r wybodaeth ychwanegol ganlynol hefyd i'w
chael:
-
CAMAD (Gweithgaredd Cymunedol Machynlleth
a'r Dosbarth) DATGANIAD BWRIAD
-
GWERSYLL CEINWS - Ymgynghoriad cyhoeddus
ac astudiaeth dichonoldeb
-
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol
-
Cynllun Gweithredu Ardal Dwf Twristiaeth
Dyffryn Dyfi
-
Ecodyfi - Adroddiad Prosiectau
-
Y Comisiwn Coedwigaeth Yng Nghymru.
-
Coedwig Dyfi - Prosiectau a phartneraethau
wedi'u seilio ar y gymuned
-
Amaethyddiaeth A'Ch Dyfodol Chi -
-
Adroddiad gan Llion Pugh ar ganlyniadau holiadur
a gwblhawyd gan ddeuddeg o ffermwyr ar draws ardal Bro Ddyfi, yn
ogystal ag awgrymiadau o sesiwn drafod a gynhaliwyd gyda grp o ffermwyr
ifainc yng Nglantwymyn.
-
Uned Hyrwyddo Iechyd Powys A Cheredigion.
(Anghyfartalrwydd/ Anghydraddoldeb Mewn Iechyd). Rhaglen Gymunedol
I Rwystro Clefyd Y Galon
Prif Gategorïau Neu Benawdau Yn ôl
Canllaw Cymunedau'n Gyntaf
|
Swyddi A Busnes
|
Addysg A Hyfforddiant
|
Yr Amgylchedd
|
|
Iechyd A Lles
|
Cymuned Weithredol
|
Diogelwch Yn Y Gymuned
|
Y Prif Gategorïau Neu Benawdau
Yn Canlyn Y Digwyddiadau Cymunedol (Categorïau Bro Ddyfi)
Yr Is-Gategorau Syddwedi Eu Hadnabyddi
-
Iaith a Diwylliant
-
Adloniant
-
Canolfan Technoleg Amgen
-
Cludiant a
-
Chyfathrebu
-
Tirlun
-
Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
-
Ysgolion
-
Neuaddau Pentrefi
-
Gofal Iechyd
-
Cyllid
-
Adeiladau, Llety a
-
Thai
-
Gwaith, Busnes
-
a Darpariaeth Gwasanaethau
-
Cyfathrebu Cyfreithiol a Chymdeithasol
-
Iaith, Diwylliant ac Addysg
-
Celfyddydau a Hamdden
-
Difyrrwch ac Adloniant
-
Chwaraeon a Gweithgareddau
-
Twristiaeth
-
Cynaladwyedd
-
Ieuenctid
-
Henoed
-
Ymwybyddiaeth o'r Ardal
-
Ansawdd Bywyd
-
Tai a Gwaith
Yr Economi a Gwaith
-
Lle rhad y gellir ei fforddio mewn gweithdai
-
Cymorth i siopau bach teuluol
-
Cadw Swyddfeydd Post ar agor
-
Gwerthu cynnyrch lleol (siop fwyd y pentref)
-
Annog hunan gyflogaeth
-
Amrywio Amaethyddiaeth*
-
Gwell hysbysebu a chymorth parhaus i dwristiaeth
-
Mwy o swyddi amser llawn
-
Darparu gwaith i gadw pobl ifanc yn yr ardal
-
Busnesau a swyddi cynaliadwy i bobl ifanc
-
Proffil uwch i Gymru yn y senedd
-
Angen croesawu twristiaid
-
Creu cwrs golff ar y Rhos, Cwmllinau, a defnyddio
Neuadd y Pentref yn gartref i'r Clwb
-
Diweithdra - darparu gwaith yn lleol
-
Hybu'r cysylltiad ag Owain Glyndwr
-
Gwell cyhoeddusrwydd i Ddraig Llanwrin
-
Mae angen gwell cyfleusterau a siopau, dim
ym Machynlleth ers i Neuadd y Dref ddiflannu. Dim Barbwr, Dillad Dynion,
Crydd, Siopa Chwaraeon na Siop Drwsio a Gwerthu Watsys, er enghraifft
-
Cwmni newydd di-wneud-elw i farchnata a pacio
a dosbarthu cig oen a chig eidion lleol*
-
Yr Economi a Gwaith (parhad)
-
Ail-ddatblygu 'Depo' Priffyrdd y Cyngor Sir
yn Llanbrynmair i greu swyddfeydd o ansawdd uchel ar gyfer swyddi
o ansawdd uchel*
-
Gellid defnyddio un o'r swyddfeydd hynny i
farchnata busnesau bychain sydd eisoes yn bodoli ym Mro Ddyfi, tra'n
gweithio ar yr un pryd fel asiantaeth prynu ar gyfer siopau bychain
pentrefi'r ardal a'r dref*
-
Agor "Canolfan Cysylltiadau Americanaidd" yn
Llanbrynmair*
-
Arddangosfa "Canrif o Ffermio". Cynllun arallgyfeiriol
- Amgueddfa Fferm weithredol*
-
"Castell Coed" ar safle castell/caer Owain
Cyfeiliog yn Nhafolwern, Llanbrynmair - Profiad Celtaidd yn y fan
a'r lle *
-
Amgueddfa Mwyngloddio yn Nylife, gan gynnwys
taith o dan y ddaear yn dangos bywyd mwyn-gloddiwr yn y 19fed ganrif*
-
Codi Gwesty newydd, neu addasu un sy'n bod
eisoes i letya llond bws o ymwelwyr*
-
Twristiaeth Dyfi - Cymdeithas Dwristiaeth i
fabwysiadu mwy o gysylltiad rhwng lletywyr, atyniadau ac eraill*
-
'Canolfan Ragoriaeth' ar gyfer diwydiant coed
- melin lifio, gweithdai ac arddangosfa*
-
Gwasanaeth Golchi lleol ar gyfer y diwydiant
llety*
-
Targedu marchnadoedd twristiaeth y sector sy'n
ymwneud â materion gwyrdd a gweithgareddau
-
Yr Economi a Gwaith (parhad)
-
Dolen gadwyn bwyd lleol - cysylltu'r cynnyrch
â gwestai a thai bwyta lleol, a sylweddoli gwerth hynodrwydd
lleol. Ymchwilio i archebu bwyd lleol ymlaen llaw ar gyfer hunan-arlwyaeth
a hamperi*
-
Rhwydwaith o Dywyswyr - nodi arbenigwyr lleol
i weithio fel tywyswyr i rai sy'n ymweld â'r ardal*
-
Ymchwilio i'r defnydd o gywarch mewn adeiladau
a'r posibilrwydd o'i dyfu'n lleol*
-
Hybu busnesau llety i gynnig mwy o ddarpariaeth
ar gyfer beicwyr a cherddwyr*
-
Gwella ansawdd llety, a darparu cyfleusterau
ychwanegol cyfyngedig ar gyfer llety, byncws, carafan, pabell neu
lety i grw^p yn gysylltiedig â darparu gweithgareddau*
-
Cynllun gweithredu twristiaeth beicio*
-
Sefydlu'r syniad o agor trwy'r flwyddyn*
-
Gwella a datblygu atyniadau newydd i ymwelwyr*
-
Marchnata Bro Ddyfi fel lle i ddod i cyn-Nadolig
gyda siopa arbenigol rhagorol ym Machynlleth*
-
Teithiau tywysedig mewn bws mini*
-
Ehangu a gwella canolfannau gweithgareddau,
a gweithgareddau eraill megis pysgota, pe ceid tystiolaeth o'r galw
amdano a'i fod yn ymarferol yn ariannol*
-
Marchnad i ffermwyr
-
Ffatri bwydydd sych
-
Lladd-dy mwy ym Machynlleth
-
Yr Economi a Gwaith (parhad)
-
Hostel "Back-packers"
-
Cyfleusterau bwydydd cyflym Cymreig yn cynnwys
cyfleuster gyrru trwodd
-
Ffeiriau Crefftau ac arddangosfeydd coginio
ayb
-
Yr Economi a Gwaith (parhad)
-
Project gan Llion Pugh ar ran Ecofyfi
-
*Canlyniadau holiaduron i ddeuddeg o Ffermwyr
Bro Ddyfi yn gofyn am syniadau neu awydd i gychwyn busnes a fyddai'n
cyd-fynd gyda ffermio anifeiliaid:
-
Llety a gwasanaeth i bobl sydd am ddysgu Cymraeg
-
Gwaith coed
-
Ehangu'r busnes weldio
-
Gyrru lori
-
Cynhyrchu trydan a melin yn yr Afon Ddyfi
-
Troi at ochr twristiaeth - gosod tai
-
Peiriannydd - mwy o amser yn y gweithdy
-
Prynu wood-chipper - gweithio ar y syniad o
gynhesu ysgolion a.y.b. trwy ei losgi
-
Canolbwyntio ar y busnes trin coed sydd gennyf
- Local Timber
-
Siedau i gadw carafannau dros y gaeaf
-
Bridio pryfaid genwair (pysgota yw'r chwaraeon
sy'n tyfu gyflymaf yn y byd)
-
Rhai syniadau o sesiwn drafod yng Nghanolfan
Glantwymyn
-
gyda Ffermwyr ifanc:
-
Peiriant chipio ochr ffyrdd - grp i brynu offer
- gellir ei roi dan anifeiliaid - biomass
-
Grwpiau o ffermwyr i fynd am gontractau gan
y cyngor, e.e. trin ffyrdd, torri cloddiau a.y.b.
-
Ymchwil feltio / gwlân
-
Compostio rhedyn
-
Tyfu madarch
-
Fferm bysgod
-
Canolfan Amgylcheddol / Natur
-
Moduron dwr ar yr Afon Ddyfi
Addysg a Hyfforddiant
-
Ysgol Bro Ddyfi i fod yn Goleg Cymunedol yn
ogystal ag ysgol
-
Ysgol Gymunedol
-
Adnoddau addysgol da
-
Rhagor o
-
gyfleusterau T.G.
-
Rhannu gwybodaeth
-
Llyfrgell amser llawn gydag adnoddau da
-
Band llydan i bawb
-
Amgueddfa hanes lleol
-
Rhagor o ddosbarthiadau Cymraeg
-
Cyrsiau mewn diwylliant
-
Annog doniau ym mhob maes
-
Addysgu pobl ifanc i barchu a bod yn garedig
wrth rai mewn oed
-
Dylai Gwasanaeth yn y Gymuned gynnwys tacluso
a glanhau'r ardal a helpu'r henoed
-
Gallai Gwarchodfa Natur ar Fferm Caepoeth ,
Y Bont-faen, greu platfform amrywiol a deniadol ar gyfer addysg gynnar
a chwarae adeiladol. Yn ogystal â hyn mae'n bosib cael cefnogaeth
gan golegau i gynnig astudiaethau amgylcheddol, a grwpiau celfyddydau
cain*
-
"Canolfan Ddehongli Ynni Gwynt" yn Llanbrynmair
neu Glantwymyn*
-
Addysg a hyfforddiant (parhad)
-
Datblygu rhaglenni addysgiadol a rhaglenni
gweithgareddau*
-
Hyfforddiant TGC ar gyfer twristiaeth, gan
gynnwys twristiaeth fferm - sefydlu safleoedd ar y we a defnyddio
e-bost fel arfau marchnata a rheoli*
-
Foyer Machynlleth - hyfforddiant anffurfiol
a llety ar gyfer pobl ifanc fregus*
Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
-
Cynnal a diogelu cefn gwlad
-
Torri gwrychoedd fel y gall pawb weld a mwynhau'r
dirwedd
-
Anelu am atal creu gwastraff yn llwyr
-
Ymwybyddiaeth o bynciau gwyrdd
-
Hybu defnyddio ynni'r haul a'r gwynt
-
Defnyddio adnoddau lleol mewn ffordd gynaladwy
-
Cynllun gwynt/generadur/hydro bychan i bob
pentref
-
Ecodyfi
-
Canolfan y Dechnoleg Amgen -
-
mwy o ymwneud gyda, a gan bobl leol
-
Defnyddio adnoddau lleol megis coed a gwlân
-
Mwy o erddi cyhoeddus
-
Gofalu peidio â
-
Gorddatblygu
-
Agor Cadwrfa Natur
-
Mynd i'r afael â phroblem sbwriel
-
Gwerthfawrogi'r ardal fendigedig rydym yn byw
ynddi
-
Taclo problem llifogydd ar Afon Dyfi
-
Datblygu Gwarchodfa Bïosffer*
-
Uwchraddio ac ymestyn llwybrau Fforest, Fferm
a Natur*
-
Gwella mynediad a'r argraff gyntaf a geir o
Fachynlleth, y strydoedd, meysydd parcio a.y.b.*
-
Clwb Solar Dyfi - ehangu'r defnydd o wresogi
dw^r ag ynni solar*
-
Rhwydwaith farchogaeth - dynodi ffyrdd a gwella'u
safon*
-
Defnyddio dail ochrau ffyrdd i wneud compost
Tai
-
Mae angen codi mwy o dai cyngor
-
Ni ddylid gwerthu dim rhagor o dai cyngor
-
Tai y gellir eu fforddio
-
Yr angen am gartrefi cyntaf
-
Tai gyda diddosi ynni-effeithlon
-
Gwella mynediad i'r anabl a'i estyn
-
Prosiect tai 'gwyrdd' cynaliadwy
-
Tai i rai ag anghenion arbennig
-
Annog prosiectau codi tai annibynnol
-
Defnyddio mwy o garreg leol
-
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol*
-
Mwy o dai i bobl sy'n cael eu hystyried yn
anaddas i fyw mewn rhywle fel Cartref Dyfi, ond sy'n methu byw'n annibynnol.
Pobl sydd ag angen ystafell wely breifat, ond sy'n defnyddio lolfa
ac ystafell fwyta gyffredin ayb.
-
Sefydlu cwmni lleol, cyfyngedig trwy warant,
i adeiladu tai teras yn Llanwrin a Dol-fach, ger Llanbrynmair.
-
Tai fyddai'r rhain ar gyfer pobl leol sy'n
chwilio am dy^ am y tro cyntaf*
Iechyd a Lles
-
Ymwybyddiaeth o iechyd
-
Ysbyty'n nes
-
Help i'r anabl
-
Prydau ysgol organig yn orfodol
-
Annog gerddi mewn ysgolion
-
Cynnal yr Ysbyty Cymunedol ym Machynlleth
-
Cynnal cartref henoed
-
Darparu gwelyau nyrsio yn yr Ysbyty Cymunedol
-
Gwell mynediad i'r anabl
-
Palmantau gwell a diogelach gyda chwteri glaw,
am fod rhai palmantau'n beryglus i'r hen a'r anabl
-
Clirio sbwriel - 'therapi gwyrdd'
-
Mwy o leoedd agored mewn siopau i'w gwneud
yn haws i'r hen a'r anabl symud o gwmpas y tu mewn
Gweithgareddau yn y Gymuned
-
Mawr angen gwella Neuaddau Pentref
-
Tai Bwyta gwell
-
Mae angen Sinema
-
Gwyliau - parhau â'r ymdaith lusernau
a'r gweithdai
-
Mae angen Cydlynydd Chwaraeon
-
Cyngherddau yn y Tabernacl, Y Plas a lleoedd
eraill i bobl ifanc
-
Gostyngiadau yn y Ganolfan Hamdden i bobl leol
-
Mae angen Parc Sglefrfyrddio*
-
Gwella bywyd nos (nid oes bron ddim)
-
Ehangu a gwella cyfleusterau marchogaeth
-
Rhywle i bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed fynd
gyda'r nosau, yn enwedig yn y gaeaf - ni fyddent wedyn yn ceisio mynd
i dafarnau
-
Agor Ystafelloedd Eglwys y pentref i bobl ifanc
chwarae gemau ayb
-
Angen mwy o lefydd i blant ifanc chwarae
-
Trefnu teithiau cerdded
-
Dawnsiau Ysgubor
-
Corau
-
Bowlio Deg (yn y Ganolfan Hamdden o bosibl,
neu yn ymyl)
-
Maes chwaraeon pob-tywydd llawn -prosiect ar
y cyd o bosib rhwng Ysgol Bro Ddyfi, Clwb Rygbi Machynlleth a Chlwb
Pêl-droed Machynlleth. Byddai hwn i'w ddefnyddio gan ac er budd y
gymuned gyfan
-
Cwrs beicio ar raddfa fechan ar gyfer aelodau
iau'r gymuned yn ogystal ag ymwelwyr ifanc*
-
Gweithgareddau yn y Gymuned (parhad)
-
Gwneud defnydd o adeilad yr hen siop ym Mryn-
y -Gog, ar gyfer un o'r canlynol:
-
Defnyddio fideo ar gyfer ymgynghoriad a datblygiad
cymunedol*
-
Celtica i ddatblygu rhaglen flynyddol ddiwylliannol
Gymraeg ei hiaith yn nhafarnau a phentrefi'r ardal*
-
Dehongli treftadaeth leol - annog a chefnogi
cymunedau i bwysleisio'u hynodrwydd*
-
Cysylltiadau Dyfi - dod â digwyddiadau
sy'n bodoli eisoes yn ystod hanner tymor Hydref ar gyfer bobl leol
ac ymwelwyr ynghyd, a threfnu mwy i lenwi'r bylchau gan eu hysbysebu
ar y cyd*
-
Saethu 'Paint ball'
-
Chwaraeon dw^r awyr agored
-
Oriel
-
Gweithgareddau tywydd gwlyb megis chwaraeon
a dringo
-
Chwaraeon moduron ar Afon Dyfi
-
Clwb nos
Ansawdd Bywyd
-
Lefelau trosedd isel
-
Gofal plant y gellir ei fforddio
-
Mae angen man cyfarfod i'r henoed
-
Mwy o heddlu i'w gweld
-
Parch tuag at hen bobl
-
Cymuned glos a dwyieithog
-
Rhywle i bobl ifanc ddod at ei gilydd (i gymdeithasu'n
anffurfiol)
-
Cydnabod cyfraniad y celfyddydau
-
Cynnal y Capel
-
Creu un Eglwys
-
Ymdeimlad o gymuned
-
Pawb yn frwd dros siarad Cymraeg
-
Mwy o integreiddio Cymry a Saeson
-
Mapio dwfn yn Nyffryn Dyfi*
-
Arolwg Cymunedol
-
Gwerthfawrogi strydoedd llydan. Cloc y dref
a'r farchnad dda ym Machynlleth
-
Creu math newydd o Ysgol neu Glwb Sul a fyddai'n
denu pobl ifanc
-
Annog pobl i dreulio mwy o amser allan o'r
ty, a helpu pobl eraill i gymdeithasu
-
Ehangu Prosiect Plant Cymuned Machynlleth*
-
Creu sefydliad neu asiantaeth i ddarparu adloniant
Cymraeg mewn gwestai*
-
Cynnal arolygon yn y pentrefi
Cludiant a Chyfathrebu
-
Gwella trafnidiaeth gymunedol
-
Gwasanaeth bysiau gwell ac amlach
-
Pont newydd i draffig dros Afon Dyfi
-
Gwella ac estyn cyfleusterau i feicwyr*
-
Creu rhwydwaith o lwybrau beiciau i bob pentref
-
Gwella'r gwasanaeth trenau
-
Ailagor Gorsaf Reilffordd Llanbrynmair
-
Cynllun rhannu ceir ym mhob pentref
-
Trafnidiaeth ratach
-
Defnyddio trenau i gludo nwyddau
-
Ailagor neu agor Gorsaf Betrol yn Llanbrynmair
-
Talu cymhorthdal tuag at gost petrol
-
Annog trenau a bysiau i gludo beiciau
-
Creu maes parcio ar y Rhos yng Nghwmllinau,
i ddiogelu ymylon y ffordd
-
Band llydan i bawb
-
Rhagor o gyfleusterau T.G.
-
Gwell cyfathrebu
-
Gwella trafnidiaeth i'r anabl, yn enwedig ar
y rheilffordd
-
Defnyddio trafnidiaeth gymunedol yn helaethach
drwy ddarparu gwasanaeth i rai heb gerbyd fynychu gwasanaethau mewn
Eglwysi a Chapeli
-
Yr Heddlu i reoli ceir cyflym a swnllyd
-
Darparu racs beic
-
Teithio am ddim i'r henoed ar drenau
-
Mynnu bws mini i ateb y galw*
Byddai eich Sylwadau, barn
a syniadau newydd yn cael ei werthfawrogi.
|