Cylchlythyr Hydref 2003 |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cystadlaethau Pobl IfancDerbyniodd enillwyr y cystadlaethau a drefnwyd yn ddiweddar i bobl ifanc o fewn ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi i lunio poster ac ysgrifennu traethawd eu gwobrwyon oddi wrth gadeirydd y grwp Llywio, Iona Sawtell, yn Nh Bro Ddyfi ar ddydd Mercher 24ain Medi. Einir Haf Davies oedd enillydd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y traethawd rhwng 11-14 oed, ac Owain Kenny ddaeth yn ail, ac enillydd y gystadleuaeth boster i'r un oedran oedd Eluned Glyn.
Llun. Einir, Eluned ac Owain Grwpiau Thema yn cynnwys Gig Bobl IfancMae'r grwp Llywio a'r Hwylusydd wedi parhau i sefydlu "Grwpiau Thema" a'r diweddaraf o'r rhain yw'r 'grwp Pobl Ifanc' oedd wedi cwrdd ar 18fed Medi. Cyfarfod positif iawn oedd hwn o bobl oedd naill ai wedi mynegi diddordeb yn y thema yma, neu oedd yn gweithio gyda phobl ifanc yr ardal. Fe fydd y grwp hwn yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried anghenion pobl ifanc yr ardal, ac i ymgynghori gyda a chynnwys y bobl ifanc eu hunain. Ar Ragfyr 18 bydd Kentucky AFC, Little Miss Mental ac Acid Reign yn chwarae yng Nghanolfan Cymunedol Machynlleth mewn gig sydd wedi eu drefnu gan bwyllgor ieuenctid Cymunedau'n Gyntaf. Mae'r bandiau yn gymysgedd o dalentau lleol, a Kentucky AFC, un o fandiau mwyaf addawol Cymru. Bwriad y noson yw cynnig adloniant sy'n mynd rhan o'r ffordd i ateb gofynion ieuenctid yr ardal ac i ddarganfod beth maint eisiau gweld yn digwydd yn eu cymuned leol. Rydym wrthi hefyd yn sefydlu grwp Dwyieithog a Diwylliannol', ac unwaith eto mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y grwp yma neu mewn unrhyw thema benodedig, gysylltu a Cyril yn Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf. Llyfr Syniadau Cymunedau yn Gyntaf Bro DdyfiMae'r Llyfr Syniadau dwyieithog Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnwys pob un syniad, barn ac awgrym sydd wedi dod i law gan bobl leol, yn lleisio barn am yr hyn maen nhw'n credu sydd ei angen i wella ansawdd bywyd, ac er sicrhau adfywiad cynaladwy i Bro Ddyfi, wedi cael ei dosbarthu ar hyd a lled yr ardal erbyn hyn. Gellir cael hyd i gopi ar e-bost hefyd, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith, a gellir gwneud trefniadau i dderbyn copi yn y dull yma trwy gysylltu â'r swyddfa ar 01654 700315 neu drwy e-bostio Cyril@powys.gov.uk. Hefyd mae gwybodaeth sylweddol ar yr ardal gyfan gan gynnwys adran ar Gymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, sy'n cynnwys cylchlythyrau a gwybodaeth arall ar Wefan ecodyfi. Cymunedau yn Gyntaf a Fforwm Lleol Machynlleth a'r ArdalMae cyfarfodydd y Fforwm Lleol wedi ei cynnal ar Diogelwch Cymunedol, Dysgu Gydol Oes ac Yr Amgylchedd. Mae Cymunedau yn Gyntaf a Fforwm Lleol yn gweithio gyda'u gilydd er mwyn osgoi dyblygu a dryswch. Bydd cydgyfarfod Dydd Mercher Rhagfyr 10fed am 7yh yn y Ganolfan Gofal Machynlleth a fydd yn sesiwn ar gynllun gweithredu dros dro, yn edrych ar yr holl syniadau, sylwadau ac awgrymiadau rydym wedi casglu hyd yn hyn.Bydd hwn yn sesiwn fydd yn cael yn hwyluso, gyda aelodau o'r gymuned yn edrych a blaenoriaethu amcanion y gymuned. Felly ymunwch a ni, mae eich barn yn bwysig. Hyfforddiant am ddim am helpu gydag Ymarfer Gwerthuso CyfranogolCafwyd hwb sylweddol i raglen Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ar ôl cael ei dewis fel ardal peilot i Ymarfer Gwerthuso Cyfranogol gan Rwydwaith Cymorth Cymunedau'n Gyntaf. Fe fydd rhai o'r gwirfoddolwyr yn cael cyfle nawr i dderbyn hyfforddiant am ddim gydag ymgynghorwyr profiadol, ac i weithio ochr yn ochr a'r hwylusydd ac efallai rhai o aelodau'r grwp Llywio wrth fynd ati i wneud yr ymarfer ymgynghori dwyieithog hynod bwysig yma. Prif nod Ymarfer Gwerthuso Cyfranogol yw ein galluogi i gyrraedd y rhannau hynny o'r gymuned nad ydynt wedi eu cyrraedd hyd yn hyn, trwy dechnegau amrywiol megis defnyddio holiaduron, cyfweliadau, theatrau ac yn wir unrhyw ffordd bosibl fydd yn ein hysbysu o anghenion a barn pobl ar hyn sydd ei angen i wella a chynnal eu hansawdd bywyd, yn ogystal â bywyd pobl eraill sy'n byw ym Mro Ddyfi. Mae grwp Llywio Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi wedi penodi cwmni 'Insight Social Research', o Gasnewydd yn Ne Cymru, i weithredu fel ymgynghorwyr ar Ymarfer Gwerthuso Cyfranogol Bro Ddyfi. Bydd y cwmni'n gweithio'n agos gyda, ac yn darparu hyfforddiant i, aelodau'r grwp llywio a gwirfoddolwyr. Byddwn yn defnyddio amryw ddull creadigol cyfranogol er mwyn cynnwys cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn yr ymarfer gwerthuso, ac un o'r dulliau hynny fydd defnyddio 'Theatr Fforwm Cymru'. Byddem yn falch i glywed gan bobl sy'n byw yn ardal Llanbrynmair, ac ym Mryn-y-Gog, Machynlleth yn enwedig, ond os oes gan unrhyw un sy'n byw ym Mro Ddyfi ddiddordeb mewn, yn ogystal ag ymrwymiad i ac amser i helpu gyda'r ymarfer, mae croeso iddynt gysylltu â swyddfa Cymunedau'n Gyntaf am fwy o fanylion cyn gynted â phosibl. Nid oes angen profiad blaenorol, oherwydd mae'r hyfforddiant ar gael am ddim i unrhyw un sydd am fod yn rhan o'r ymarfer gwerthuso, a fyddai'n hoffi cael y cyfle i dderbyn hyfforddiant am ddim mewn agweddau amrywiol o ymgynghori cymunedol. Penodiad Gweinyddydd
Bydd Cyfarfod nesaf y grwp Llywio yn Neuadd y Pentref Cwmllinau ar Dydd MawrthTachwedd 25ain am 3.00y.p. Os ydych chi eisiau copi o gofnodion cyfarfodydd y grwp Llywio, bydd y rhain ar gael yn fuan ar wefan Ecodyfi, hefyd wrth e-bost a llythyr os bydd angen. **Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd grwp Llywio** |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||