Cynllun gweithredu ar gyfer Dyffryn Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae gwahoddiad yn cael ei estyn i drigolion a busnesau yn y rhan o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys i helpu i lunio cynllun gweithredu i wella ansawdd bywyd a bywiogrwydd yr ardal.Bydd pob un o'r pedwar achlysur cyhoeddus a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar thema benodol ac yn dod andacirc;'r ddau gorff fu'n ymchwilio anghenion lleol ynghyd. Trafodir rhan berthnasol drafft Strategaeth Gymunedol Powys ym mhob cyfarfod hefyd. Mae gwaith Cymunedau'n Gyntaf ym Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair yn cyrraedd cyfnod newydd. Casglwyd llawer o awgrymiadau ynglyn andacirc; dyfodol Dyffryn Dyfi yn ystod yr ymgynghori fu andacirc; chymunedau. Yn yr un modd, mae llawer o bobl yr un ardal wedi cyfrannu eu syniadau yn ystod digwyddiadau a drefnwyd gan Fforwm y Gymuned Leol (sy'n rhan o waith y strategaeth gymunedol ym Mhowys). Andy Rowland yw Cadeirydd y Fforwm. "Didolwyd yr holl syniadau yma yn andocirc;l nifer o themandacirc;u, ond bellach mae angen i ni eu trawsnewid yn gynllun gweithredu drafft ar gyfer yr ardal", meddai. "Golyga hyn benderfynu pa rai wnaiff wneud gwahaniaeth gwirioneddol, pwy fydd yn eu sylweddoli a pha mor fuan, yn ogystal andacirc; chanfod sut fath o weledigaeth a gynigir ganddynt oll." Cynhelir y noson gyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Llanbrynmair ar Ddydd Llun Gorffennaf 5ed. Bydd yn rhoi ystyriaeth i addysg a hyfforddiant, yn cynnwys goresgyn rhwystrau i ddysgu. Dydd Mercher yr un wythnos, bydd y cyfarfod yng Nghanolfan Gofal Machynlleth yn trafod yr economi a chyflogaeth. Ymysg eitemau allweddol bydd twristiaeth gweithgareddau cynaliadwy, gofal plant a chreu economi lleol neilltuol yn seiliedig ar adnoddau lleol. Ar Ddydd Llun Gorffennaf 12fed, bydd noson yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn, Abertwymyn yn rhoi sylw i gefn gwlad a'r amgylchedd, yn cynnwys materion megis gwastraff ac ailgylchu. Bydd cludiant yn brif pwnc trafod yng Nghanolfan Owain Glyndwr ar Ddydd Mercher Gorffennaf 14eg, pan ddarperir canlyniadau'r Arolwg Anghenion Cludiant diweddar. Bydd y digwyddiad yma'n cwmpasu beicio, cerdded a chludiant cymunedol yn ogystal andacirc; darpariaeth cludiant cyhoeddus. Cyfarfodydd i gyd yn cychwyn am 7.30 y.h. Gwybodaeth bellach:Andy Rowland, Trefnydd
ecodyfi 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||